Hugh MacDiarmid

Mae hi bron â bod pum mlynedd ers i ni sôn am Hugh MacDiarmid fan hyn, a siwr o fod bron cyhyd ers i mi dynnu ei lyfrau o’r silff “llyfrau i’w darllen yn iawn rhywbryd”, ond dw i wedi dod ar draws casgliad recordiadau MacDiarmid yn archif Prifysgol Pennsylvania. Mae gwrando ar y detholiad bach o’i gerdd “The Kind of Poetry I Want” yn ddigon i’m hala yn ôl at y silff. Dyw safon y recordiad ddim yn uchel iawn, ond mae ganddyn nhw hefyd recordiad gwych o MacDiamid yn darllen “A Drunk Man Looks at the Thistle”.

Dyna’r prynhawn wedi’i sorto ‘te.

Ddim yn Criogaid

Expert slams plan to ‘invent’ Gaelic words. Ond dydy’r arbennigwr ddim yn arbennigwr, a dydy’r geiriau newydd ddim yn newydd.

New Gaelic words conceived by the panel include:

Cricket – Criogaid
Curry – Coiridh
Fax – Facs
Giro – Dioro
Jeans – Dinichean
Lesbian – Leasbach
Ozone – Oson
Pizza – Piotsa
Quango – Cuango
Video – Bhidio
Vodka – Bhodca
Yoga – Ioga

Dyfeisiol iawn. Pam mae hyn yn stori, tybed?

[Gol.] Mwy ar y stori yn Herald, sy’n adnabod y ffaith taw cadarnhau orthograffi sy’n digwydd yma, ar y cyfan, nid “inventing new words”. Ond mae’n dal llawn top o ystradebau nawddoglyd am siaradwyr yr Aeleg:

Eacstasaidh Ecstasy
While you are unlikely to score this drug at a ceilidh on Barra, at least Gaelic now allows you to inquire about its availability.

Ho ho ho.

[Gol. eto] I fod yn deg, mae’r golofn olygyddol yn yr Herald yn siarad sens.