Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Continue reading

Ffilmiau Byrion Peter Greenaway

Am ryw rheswm, mae’n well ’da fi ffilmiau byrion cynnar Peter Greenaway na ffilmiau cyflawn ei adeg “aeddfed”. Dw i’n colli amynedd gyda ei obsesiynau dros cyfnod hir, ond mewn ffilm 5 munud, maent yn emau bach perffaith.

Rwy’n falch o weld bod rhai wedi’i postio ar YouTube, ond mae rhaid eu rhaid nhw ar DVD ar sgrîn mwy eich teledu… o leia.

Dyma un o’m fferfrynnau.

Windows [1974, 3 munud a hanner]

Gwlad y Gân

We Are a Musical Nation – post ffantastic gan Sanddef ar y cyd-flog They All Speak English (sy wedi bod yn dawel yn diweddar; mea culpa, ymysg eraill).

Mae Sanddef wedi casglu fideos YouTube gan y goreuon o’r Sîn “Roc” Gymraeg, sy’n cynnwys llwyth o stwff dw i wedi colli. Dw i’n nabod y gân isod gan Radio Luxemburg, er enghraifft, ond dw i erioed wedi gweld y fideo gwych gan fy mod i bron iawn yn gwylio S4C. Dim byd yn erbyn y teledu ei hunan, jyst bod y signal digidol yma mor fregus, prin iawn mae’n werth ei wylio.

Ta beth, dyma fe, a diolch i Sanddef am atgyfodi’r blog. Rhaid i fi feddwl am rywbeth i’w roi arno nawr…

Popeth yn Wyddeleg?

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? – cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd?

Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim ond mamiaith y wlad honno.

Dyma glip:

Mae’n amlwg bod dwy brif wahaniaeth rhwng modus operandi Magan a’r hyn wnaeth Ifor ap Glyn: oedd agwedd Ifor yn fwy agored a chyfeillgar, hyd yn oed pan oedd pobl yn gwrthod gwrando arno fe (dw i ddim yn siarad Gwyddelig, ond dw i’n deall iaith y corff; mae Magan yn dweud rhywbeth fel “mae hyn yn ridiculous” mewn un sefyllfa – agwedd hawdd i’w ddeall, ond ddim yn debyg i helpu’r sefyllfa), ac yn ail, mi oedd criw camera Ifor yn fwy amlwg. Mae’r rhaglen Gwyddeleg wedi’i ffilmio gyda chamera cudd, am wn i. Ond, os dw i’n cofio yn iawn, wnaeth y criw Cymraeg un rhaglen gyda chamera cudd, a dal ddim yn cael y fath ymateb mae’r boi ’ma yn cael.

Rhyfedd iawn.

Mae rhaid gofyn weithiau, beth sy’n fwy pwysig: i gadw’r ucheldir moesol, a wneud yn siwr bod pawb yn gwybod taw ti sy’n iawn, neu i wneud bob ymdrech posibl i helpu pobl eraill dy helpu di yn dy dasg? Mae Ifor ap Glyn wedi profi ei fod yn bosibl byw yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg os oes amynedd Job, a gwên neis, gyda ti. Dw i ddim yn siwr beth mae Manchán Magan wedi profi.

Ar wahân i’r ffaith bod rhaglenni S4C, pan maen nhw’n wreiddiol, a Chymreig, a ddim wedi’u copio o deledu poblogaidd Saesneg, yn ddigon cryf i gael eu copio yn eu tro gan wledydd eraill.

Blwyddyn Newydd Dda!

Wedi bod bach yn dawel rownd fan hyn, ond mae gen i deimlad y bydd yr hen flog yn denu mwy o’m sylw o hyn ymlaen.

Mae hyn yn wych, ac yn hapus: Robert DeNiro yn dychmygu pethau, ar Sesame Street.

Llawer, llawer mwy fan hyn.

Mwy o bethau gwych ac hapus i ddod!

Tywyllwch Van der Graaf

Mae rhywun wedi hollti’r DVD wnaethpwyd o sioe gynta aduniad Van der Graaf Generator y llynedd, a’i roi ar YouTube.

Tan y munud hwn, ro’n i mewn dau feddwl ymgŷn â mynd draw i Lundain ym mis Ebrill i weld VdG.

Ond uffarch, maen nhw’n dda. Bydda i ’na.

Dyma’r gân “Darkness (11/11)”:

Mwy o’r un sioe: Undercover Man a Killer.

Mae ’na lwythi o stwff “newydd” Van der Graaf/Peter Hammill ar YouTube. Dylwn i sieco yn fwy aml.

Tally Brown, uwchseren

Hunanladdiad roc a rol, gan Tally Brown – wel, gan rhyw Sais bach tenau yn wreiddiol, ond cân Tally yw hi go iawn.

Ffeindiwyd hyn ar Le Blog de Glob, blog Ffrangeg, felly dw i ddim yn deall lot o’r pethau mae’r blogiwr wedi dweud amdano, ond dw i’n credu ei fod e mor hapus gyda fe ag o’n i.

Yn ogystal â bod un o superstars Andy Warhol, mi oedd Tally yn bwnc y ffilm ddogfen Tally Brown, New York – mae’r clip ’na yn cynnwys cân arall fyddech chi moyn ei chlywed.