Mae’n ddigon hawdd bod yn sinicaidd am bethau fel hyn, ond dw i wedi cael llond bol o fod yn sinicaidd. Dydy Saeson sy eisiau ail-gysylltu â’u traddodiadau brodorol ddim yn “hen elyn” i fi. Chwarae teg iddyn nhw.
Hefyd, maen nhw wedi f’atgoffa fi o hen ffrind, ac amser braf iawn yn fy mywyd i.
Wnaeth rhywun sylwi taw’r unig dro mae’r Athro Brian Cox yn edrych fel dyn 42 oed normal, yw pan mae e mewn peiriant disgyrchiant, a dan 5G o bwysau? Dorian Gray byd ffiseg, neu be?
“Brian Cox”, ddoe.
Llun ffeindiwyd ddoe mewn cwpwrdd yn CERN.
Dw i wrth fy modd gyda Cox a’i raglenni, a dw i ddim yn meddwl am eiliad ei fod e’n cymryd ei hunan mor o ddifri ag mae rhai eraill yn esgus wneud. Fel rhywun gyda chefndir yn y byd MTVaidd o ganu pop y 90au, dw i’n siwr ei fod e’n gwybod yn iawn pa mor chwerthinllyd mae’n edrych, cerdded yn slo-mo, heb edrych dros ei ysgwydd, wrth i hen garchar ffrwydro tu ôl iddo fe.
Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond ma’n well gen i’r fersiwn hwn, na’r gwreiddiol. A finnau’n Gymro ail-iaith, sy ddim wedi’i fagu ar ganu ysgafn Cymraeg y 60au a’r 70au, mae cerddoriaeth yr adeg yn gallu swnio’n hen ffasiwn iawn. Dw i’n methu gwrando ar Dafydd Iwan o gwbl, er enghraifft, ac er mor fawr fy edmygedd o Tecwyn Ifan, mae ei steil yntau yn rhy gapelaidd i fy nant i, a phrin iawn dw i’n gwrando arno. Mae’n cymryd rhywbeth fel yr ail-fersiwn hyfryd yma, wedi’i wneud gan ddau a gafodd eu magu ar ganeuon clasurol yr adeg (dw i’n cymryd) i wneud i fi weld pa mor wych yw’r gân.
Wata yw gitarydd y band Boris – gwelais i’r tri fideo uchod ar YouTube a phenderfynnu taw postio nhw fan hyn oedd y ffordd hawsaf o weld y tri yr un pryd.
Erioed wedi gweld ffilm o Henry Cow o’r blaen, felly roedd yn fach o sioc i ffeindio’r clip yma tra’n pori Last.fm – clip o’r band yn improfeiddio o gwmpas cwpl o draciau o’r albwm In Praise of Learning. Nid yn unig ydy’r gerddoriaeth yn wych, ond mae safon y ffilmio yn dda iawn (gwylier yn “safon uchel”). Wedi gweld ambell i lun o Henry Cow ar y llwyfan, a nhwthau i gyd yn eistedd i chwarae, ro’n i wedi dychmygu eu bod nhw’n weddol di-fflach i wylio, ond i’r gwrthwyneb, maen nhw’n wych, trydanol, yn enwedig Chris Cutler, sy’n chwarae’r dryms fel neb arall dw i wedi gweld.
Tan nawr, dw i wedi gwaith mynd heibio i lais Dagmar Krause, ac wedi tueddu aros gyda’r albyms wnaethon nhw hebddi hi, ond mae’r clipiau ’ma wedi fy narbwyllo i ddal ati, ac i rando eto ar y gwaith wnaeth Henry Cow gyda’r gantores arbennig yma.
Gan fod y fideo wedi’i bostio gan Ffrancwr, ac mae’n cynnwys enghraifft prin o Brydeinwr mewn band sy’n boddran cyflwyno caneuon yn iaith ei gynulleidfa, dw i wedi mentro gadael sylw ar YouTube yn Ffrangeg. Byddai Mrs Jones, yr athrawes Ffrangeg yn Ysgol Dinas Brân yn falch iawn ohona i – nes iddi sylwi taw Google Translate sy’n gyfrifol am fy sgiliau ieithyddol anhygoel, nid ei gwersi hi.
[Gol. Newydd sylweddoli bod y clipiau sy lan ar YouTube yn dod o’r DVD yn y set bocs newydd. Well i mi ddechrau cynilo.
Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, a mwy o drafodaeth hefyd.
Mae hefyd yn ddoniol iawn, a ’sai rhywun yn S4C am ddilyn traddodiad y pedwaredd sianel o wneud fersiwn cartre o talk shows Americanaidd, Chris fyddai’n ddewis naturiol am Gymreigio’r Y Sioe Beunyddiol.
Ar yr un llaw, sut wnaeth band mor anhygoel o anghŵl a derivitive lwyddo llenwi Odeon Hammersmith a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau yn yr 80au cynnar?
Ar y llaw arall, wnes i grio uwchben y sinc wrth wrando ar hon bore ddoe.
Does dim esgus yn y byd, mae e tu hwnt i bob dadl “pleserau euog”. Dw i’n gwybod yn iawn y dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division neu rywbeth, ond y gwir syml yw, yn 1983, yn y myddarffycin Waun, doedd dim byd yn well na hyn:
Nid bod neb yn darllen o hyd, ond oedd gan fy ffrind M.O., yr un wnes i deithio gyda fe i Lundain bell i weld y bois ’ma, Mini 1275 GT gyda’r enw “GRENDEL” yn y striben haul. Mae’n haws ffeindo trivia am y band di-werth yma ar y we nag yw e ffeindio tystiolaeth marwolaeth gwastraffus nghyfaill. Ac er eu bod yn ddi-werth, wrth gymharu â Velvet Undergrounds, Van Morrisioniaid a Datblygiadau’r byd roc byd eang, dw i ddim yn credu y bydd yr un band arall â’r gallu torri nghalon mor gyson â’r band yma.
“It Doesn’t Matter Which You Heard”, erthygl wych ar hanes cân Leonard CohenHallelujah, o’r ail-fersiwn cynnar gan John Cale, i fersiwn iconaidd Jeff Buckley, i’w lle presenol fel y gân i fynd amdani pan mae angen cerddoriaeth gefndirol i “sad montage” mewn opera sebon neu sit-com. Un o brif bwyntiau’r awdur yw bod ’na ddim ots pa fersiwn yw’r un glywi di’n gyntaf, a does dim ots pa mor bell mae’r broses o gomodificeiddio (mae’n flin ’da fi) y gân yn mynd – ac mae wedi’i chanu ar American Idol erbyn hyn – dyma un o’r caneuon prin ’na sy’n mynd yn syth at dy galon, fel taw tithau yw’r person cyntaf i’w chlywed erioed.
Fersiwn y Leni Mawr clywais i gyntaf, wedyn Buckley sbo, ac mae’r ddau fel petai yn byw yn stafelloedd gwahanol nghof cerddorol. Dim un sy’n rhagori ar y llall, ac os ydw i’n troi at fersiwn Buckley yn fwy aml nag at y gwreiddiol, ei rinweddau megyddol sy’n gyfrifol am hynny: mae’n fel pigiad morffîn pan dw i’n teimlo’n isel.
Ond, eithr ac aros funud, diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi darganfod fersiwn newydd i fi, sef yr un isod recordiwyd gan k.d.lang yn 2005 yn Sydney. Os ydy hi’n wir, fel y hawliwyd yn yr edefyn ar Mefi, taw cân am ryfeddodau’r orgasm benywaidd yw Hallelujah, dyna un rheswm arall i ddifaru bod k.d. yn chwarae i dîm Sappho.
(O.N. Peidiwch chwilio YouTube am fersiwn Jon Bon Jovi. Does dim un gân yn y byd sy mor gryf â hynny.)
Fideo mewn 8 rhan o Steve Hillage yn ei bomp. Siwr o fod y “freak” cyntaf i mi glywed – diolch i gasgliad recordiau Tina, chwaer fy ffrind Tony. Methu cysylltu yn syth at y fideo, yn anffodus, felly bydd rhaid mynd draw i eichTiwb i’w weld.
Roedd yn hawdd chwerthin ar ben rhywun fel Hillage yn yr 80au, ond tra bod pobl fel John Lydon wedi ymuno â’r byd sioeau realiti a comeback pob 5 mlynedd, mae Hillage wedi cario ymlaen heb becso dam. Mae ffasiwn yn croesi ei lwybr pob 10 mlynedd neu rywbeth, ond ti’n cael yr argraff bod hyn ddim yn bwysig iawn i’r boi.
Mae lot o Hillage ’da fi ar feinyl, ond dim lot ar CD. Dyma un trac i chi, rhag ofn bod chi ddim yn gyfarwydd.
Mae hon yn dod o’r albym cyntaf i mi glywed, yn lolfa Tony R, nôl yn 1979 mae’n debyg. Dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division, siwr o fod, ond anodd dweud mod i’n dyfaru cael fy magu ar y stwff gwallgo ’ma. Rhaid mod i ddim wedi gwrando mewn blynyddoedd maith, achos dim ond nawr dw i’n sylwi bod Gilli Smyth yn dyfynnu Captain Beefheart yng nghanol y gân.
Yn ôl y blogiad lle ffeindiais i’r fideo isod, dyna sut gaeth yr awdur ei gyflwyno at gerddoriaeth Circle. Y blaenaf o’r bandiau NWOFHM (hi, Maff!), mae Circle yn ddim byd os nad yn gynhyrchiol: eu halbym byw Rakennus oedd seithfed CD o’u heiddo yn ystod 2007, sef mwy o recordiau nag mae rhai bandiau yn rhyddhau mewn 20 mlynedd.
Falle nad yw’n dda, yn garmigaidd, i ddechrau blwyddyn newydd gyda blogiad am rhywbeth mor ddiflas â thrafod vanitas. Pan wnes i ddileu’r blog neithiwr, dyfynnais i gwbled gan Philippa:
Pa angen dim amgenach
Na’r awr, ’nawr, o fod yn iach.
Dyna’r ysbryd dw i am gadw ato eleni. A does dim byd yn ymgorffori ysbryd Eros fel cerddoriaeth pync digyfaddawd America yr 80au.
Take it away, Bob…
A dyma MP3 fel anrheg bach ymddiheurio-i-fy-hunan-am-fod-mor-negyddol-weithiau:
Sengl o’r albym newydd Strawberry Jam a ddaeth ma’s heddi.
Os ti’n darllen hyn heno ’ma, nos Lun, falle bydd yn syniad i ti beidio gwylio’r fideo nawr. Gad iddo fe fd tan yfory. Wir i ti, ti ddim moyn gweld hyn jyst cyn mynd i’r gwely.