Môn – Mynydd Parys a Phlas Newydd

Dydd Mawrth, tywydd gwaetha’r wythnos, os dw i’n cofio’n iawn. Ac mae’n bosbl mod i ddim, gan fod hyn yn bythefnos yn ôl, erbyn hyn. Fi yw blogiwr arafa’r byd.

Cyrraedd Amlwch yn gynnar, yn y glaw. Difaru gwisgo siorts, nid oherwydd y glaw, ond achos nid yw bob ffarmwr yn cadw ei lwybrau cyhoeddus mor glir â’i gilydd, ac mae un lôn werdd yn arbennig sy’n llawn meiri a dail poethion, ac yn malu nghoesau’n chwilfriw. Ni phoener, does dim lluniau.

Mae Mynydd Parys wedi’i gloddio am ei gopr ers Oes yr Efydd, ac am gyfnod yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, Amlwch oedd y ganolfan allforio copr fwya brysur yn y byd. Mae’r canrifoedd wedi gadael eu marc ar y mynydd; mae’r tirwedd arallfydol yn TARDISio fi yn ôl at y seithdegau, ond er gwaethaf y llu o gyfeiriadau ato ar Google, dw i’n methu ffeindio unrhyw dystiolaeth bod y mynydd wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad yr un bennod Doctor Who na Blake’s Seven. Digon hawdd i weld pam fyddai sut gymaint o bobl yn meddwl hynny:

Gan ein bod ni wedi dechrau mor gynnar, er bod y wâc yn ddigon hir roedden ni yn ôl yn y car erbyn amser cinio. Roedd y tywydd wedi bod yn ddigon braf, os yn oer yng ngwynt copa’r mynydd, ond yn ôl yn Amlwch closiodd y glaw o’n cwmpas eto, felly doedd dim awydd crwydro’r dre. Coesau bach yn rhy drwm am fwy o gerdded heddi, felly penderfynnu mynd i ymweld â Phlas Newydd, ger Llanfairpwll.

Prif nodwedd y Plas, i’r rhai sy’n hoff o luniau, yw ei gysylltiad â Rex Whistler, ac yn enwedig y murlun enfawr ganddo yn y stafell fwyta. Er mor drawiadol yw hwnna, ac yn gamp technegol, doedd y murlun ddim yn cyffwrdd ynddo i rhywsut. Gwell o lawer oedd y lluniau llai o faint, yn enwedig cwpl o’i “gariad”, Caroline Paget (chwaer ei noddwr, “Lord Anglesey”): un ohonyn nhw’n noethlun oedd yn destun cryn drafod yn ei amser, a’r llall yn bortread llawer mwy manwl. Dw i’n methu ffeindio copi o hwnna unrhywle ar y we, sy’n bryfoclyd iawn, ond oedd ’na rhywbeth llawer noethach am y portread bach o ben ac ysgwydd y ferch nag sydd i’w weld yn y noethlun go iawn, sy’n edrych i fi fel y llun wnaeth Leonardo DiCaprio jyst cyn i’r Titanic fynd i lawr.

Ar y llaw arall, dw i wedi darganfod, wrth sgwennu hwn o flogiad, taw Whistler oedd yn gyfrifol am y lluniau isod, sy’n rhoi esgus i fi ddefnyddio’r gwychair “plith-draphlith” am yr eildro ar y blog:

"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (clawr)
"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (dalennau clawr)

Jiawl, ddim wedi cyrraedd amser swper nos Fawrth eto, ac mae’n amser cinio yma yn y presennol, pythefnos wedyn. Bydda i’n lwcus i bennu blogio am Fôn cyn i ni fynd i Wrecsam

Môn – Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch

Dydd Llun: hwn oedd y diwrnod gorau o’r gwyliau ar ran tywydd; perffeithrwydd, trwy’r dydd.

Wrth cyrraed Niwbwrch, aethon ni ar goll, trwy gam-ddarllen arwydd ffordd: mae “Llys Llewelyn” yn edrych yn debyg iawn i “Ynys Llanddwyn”, o’r pellter, mewn car, yn y bore, dim digon o goffi, ac yn y blaen.

Wedi ffeindio ein ffordd i’r maes parcio cywir, wnaethon ni sylwi bod dim amser gyda ni i wneud y wâc yn ein llyfryn yn y drefn iawn, pe hoffen ni gyrraedd yr ynys lanw cyn iddi gael ei hynysoli gan y môr. (Fel oedd yn digwydd, doedd dim rhaid i ni boeni, gan fod y llanw mor isel. Hyd yn oed ar ei uchelbwynt, gallen ni fod wedi rhydio’r stribed cul o ddŵr rhwng yr ynys a’r traeth yn hawdd, heb wlychu’n penliniau.) Penderfynnu, felly, i wneud pethau’n bendraphen. Wastad yn syniad da.

Mae Ynys Llanddwyn yn lle anhygoel, un o’r llefydd mwya trawiadol dw i wedi ymweld â fe erioed. Oedd hi’n helpu bod y tywydd mor berffaith, wrth gwrs, ac ein bod ni wedi cyrraedd cyn y torfeydd. Mae yn natur “Ynys y Cariadon” bod peth rhamant o’i chwmpas, ond mae’r gofalwyr wedi gwrthsefyll y temptasiwn i’w hail-frandio yn ormodol ar gyfer twristiaid. Mae ’na dwtshys bach o darth y Celt ambytu’r lle, ond hyd yn oed i sinig rhonc fel fi, mae pethau fel hyn yn tynnu gwên, yn hytrach na gwg:

Ar ben draw’r ynys fach, mae bwthynnod pilotiaid, lle mae arddangosfa fach sy’n olrhain hanes/myth Dwynwen, hanes mwy diweddar yr ynys, a pheth am fyd natur y lle.

Erbyn i ni wneud ein ffordd yn ôl i’r tir mawr, oedd yr ynys fach yn dechrau llenwi â thwristiaid. Sylwer beth wnes i yna.

Cerdded wedyn trwy’r coed ac at, mewn theori, Llys Rhosyr, ond gan mod i’n methu darllen y map yn iawn, aethon ni’r ffordd hir rownd, a cherdded rhyw dair milltir ma’s o’n llwybr. Ymyl arian y gwyriad oedd dod ar draws patsyn o goed ceirios gwyllt, a chael gwledd suddlon i’n cadw i fynd tan cinio.

Ceirios

Rhaid dweud bod Llys tywysogion Gwynedd braidd yn siomedig ar ôl yr henebion gwelon ni y diwrnod cynt, ond mae’n siwr bydd y safle traphwysig yma yn datblygu mewn amser; am wn i, mae’r gwaith cloddio dal yn mynd yn ei flaen.

Darn olaf y daith oedd ar hyd ffin Cwningar Niwbwrch, ond heb ddigon o amser/egni i fynd yn unlle ond yn ôl i’r car, welon ni ddim llawer ohono.

Gyda’r nos, ac wedi’n “swper pabell” arferol, ma’s i dafarn y Llong, Traeth Coch. Tafarn dda ar ran cwrw (Rampart, bragdy Conwy, perffaith ar ran lleoliad, ac yn hollol Seisnig ar ran naws y lle. Hyn oedd un o themau’r gwyliau; “I’m sorry?” yw Saesneg sir Fôn am “Do I look Welsh to you?”, mae’n debyg.

Serch hynny, ar ôl diwrnod bendigedig, a sychedig, y cwrw ffein a’r olygfa wych oedd yn plesio mwy na’r Seisnigwrydd yn digalonni.

O.N. Dyma fi’n blogio’n hirwyntog. Joio.

Môn – Traeth Lligwy a Din Lligwy

Dydd Sul diwetha, a ninnau’n llawn brecwast bendigedig Brynarth, bant â’r cart at Ynys Môn. (Rhaid bod bach o le yn y boliau o hyd, gan bod ni wedi stopio yn Pete’s Eats ar y ffordd i gael tamaid i ginio.)

Cyrraedd ein gwersyllfa ger Brynteg a chodi’r babell mewn llai o amser nag erioed. Dim amser i deimlo’n rhy smyg am hyn, gan fod ’na waith cerdded i’w wneud.

Llyfryn bach o deithiau cerdded sy gyda ni, yn yr iaith fain, sef Walks Around Ynys Môn, gan David Berry. Mae mewn cyfres dyn ni wedi defnyddio o’r blaen, ac yn ffitio yn y poced yn dwt. Wâcs rhwng dwy a hanner ac wyth milltir sy yma, a chan fod dim llawer o amser gyda ni cyn amser swper, penderfynnu ar un gweddol byr, a digon agos aton ni, sef yn ardal Moelfre. Dilyn llwybr yr arfordir o’r pentre at y gogledd, hyd at Draeth Lligwy. Ar y ffordd, gwelwn ni iêt mochyn arbennig (i rywun):

O draeth rhagorol Lligwy, a syched braf arna i, bach o siom yw ffeindio bod y “Dafarn Rhos” sy’n cael ei grybwyll yn y llyfryn, bellach yn dŷ haf yn hytrach na nhafarn o unrhyw iws i ddyn. Ond anghofio’r siom yn ddigon clou wrth gyrraedd Din Lligwy, olion pentre Brythonaidd-Rufeinig, mewn sefyllfa coediog â golygfeydd gwych o’r bae trwy’r coed. Llai na chwarter milltir o’r safle, mae heneb arall, o gyfnod cynharach byth, sef siambr gladdu Llugwy.

Crwydro yn digon sionc wedyn nôl i’r car ym Moelfre, a nôl i Ad Astra i fwyta un o’n “swperau pabell” arbennig (nwdls, ffa menyn, jar saws posh). Gyda’r nos, cwpl o beints o’r Ungorn yng Ngwesty’r California, Brynteg.

Dyn ni ar ein gwyliau!