OpenOffice yn y Gymraeg

Mae Meddal wedi rhyddhau fersiwn Gymraeg o’r meddalwedd agored OpenOffice. Mae OpenOffice yn wneud popeth mae Microsoft Office yn wneud, ond dyw e ddim yn costio un dimau goch. (Gweler y cofnod Microsoft, y Gymraeg a’r “byrgers am ddim” am fwy o fanylion.)

Dyma’r stori ar y Register. Am wn i, does dim sôn am hyn o gwbl yn y cynfryngau Cymraeg, sy’n dangos pa mor fawr yw’r angen am Y Byd, y darpar bapur dyddiol CYmraeg a fydd nid dim ond yn sgwennu am ddatblygiadau holl bwysig fel hyn, ond yn defnyddio nhw. Mae’n ddiddorol iawn cymharu’r triniaeth mae’r stori hon yn cael gan y wasg Gymraeg, a’r sylw a roddodd i’r stori am fersiwn Gymraeg Microsoft Office. ‘Sai rhyw fodd i Rhodri Williams cymryd y clod am OpenOffice Cymraeg, falle byddai’r BBC yn talu mwy o sylw?

Olwynion sgrolio? Pah!

Sidetrack – teclyn bach defnyddiol i’r rhai ohonon ni sy’n defnyddio OSX ar benliniadur heb lygoden go iawn. Mae’r rhaglen hon yn cystomeiddio tracpad dy iLyfr i wneud pob math o bethau defnyddiol, fel sgrolio i fyny ac i lawr a chlirio’r ffenestri o’r sgrîn (yn OSX 10.3). Handi iawn.

Bar offer Google, yn Gymraeg

Dw i ddim yn siwr os ydy hyn yn newyddion i chi (a dweud y gwir, dw ddim yn hollol siwr ei fod e’n newyddion i fi, ond dw i’n rhy ddiog i chwilio trwy’r archifau i weld os ydw i wedi blogo hyn o’r blaen), ond mae bar offer Google ar gael yn Gymraeg. Os wyt ti’n defnyddio Windows. Ac os wyt ti’n defnyddio Internet Explorer. Ac os wyt ti’n lico clytero i fyny dy borwr gyda pob teclyn sydd ar gael.

Hedd!

Ar Saffari

Dyma fi ddod i nabod Safari, porwr “newydd” Apple (h.y. dyw e ddim yn newydd, ond dim ond nawr dw i wedi cael gafael ar OSX 10.3 sydd angenrheidiol i’w rhedeg). Hyd yn hyn, dw i’n ei hoffi fe’n fawr. Yr unig broblem sy ’da fi gyda fe yw nad ydw i’n gallu defnyddio’r bookmarklet bach handi i bostio i’r blog. Yn ôl hyn gan Jay Allen, dylai fod yn bosib i’w drwsio, ond dyw e ddim yn gweithio i mi. Rhaid mod i’n wneud rhywbeth twp.

Dw i’n lico popeth arall amdano, felly mae’n debyg hwn bydd fy mhorwr o ddewis am nawr.

Ffrwd brwd, frawd

Dyw’r sylwadau ddim yn gweithio ar flog Nwdls, felly dyma fi ateb ei bwynt

Dim yn gwybod o’r blaen fod gan Nic aggregator ar gyfer ei flog. Taclus.

Un o’r pethau da am Moveable Type. Mae’r ffrwd RSS yn cael ei greu yn awtomatig.

Aggregator yw gwefan sy’n cronni postings dwetha i gyd o flog rhywun o dan eu penawdau gan ddefnyddio RSS feed dwi’n meddwl…beth bynnag yw hynna!

Beth yw ffrwd RSS?

Does dim rhaid iddo fod yn wefan, gyda’r llaw. Mae gen i aggregator sy’n eistedd yn dock OSX fy mhenliniadur. Dw i’n gallu gweld penawdau’r BBC, storiau newydd Metafilter ac yn y blaen heb ddefnyddio fy mhorwr o gwbl.

Mae’n dweud arno Language:en ?! Dim opsiwn Cymraeg ma’n rhaid.

Wyt ti’n gallu newid y tag iaith sydd yn y ffeil rdf i ba bynnag iaith ti moyn. Yn achos Morfablog:

<dc:language>cy</dc:language>

Ond mae’n debyg nad ydy Blogroots ddim yn adnabod “cy” fel iaith. Chwarae teg, dydy llawer o’r bobl sy’n byw ’ma ddim yn gallach.

Rebecca ar werth

Rhaid i mi beidio wario cymaint o arian ar eBay eleni, felly dyma fi rannu pethau diddorol gyda chi, er mwyn i chi wastraffu eich arian. Beth am hen rifyn o’r cylchgrawn Rebecca i ddechrau?

Twll y Twyllwyr yn MT

Jyst rhag ofn bod unrhywun sy’n darllen hyn, ac sy’n cadw gweflog Moveable Type, ac sy ddim wedi clywed y newyddion, mae ’na broblem diogelwch gyda MT. Mewn theori mae’n bosibl i sbamwyr gamddefnyddio y teclyn mt-send-entry.cgi i sbamo pobl sy wedi tanysgrifio i gael diweddariadau oddi wrthoch chi. Y ffordd hawsaf i ddatrys y broblem yw i ddileu’r ffeil (os dych chi, fel fi, ddim yn defnyddio’r opsiwn yna ta beth), neu allwch chi lawrlwytho fersiwn newydd o’r ffeil o wefan MT.

Llyfrgell Fawr Yr Amason

Newyddion da, (gan Languagehat eto: mae Amazon wedi dechrau mynegeio holl destun miloedd o lyfrau. Yn yr erthygl The Great Library of Amazonia mae cylchgrawn Wired yn edrych ar goblygiadau:

….books have remained a dark region in the universe of information. We want books to be as accessible and searchable as the Web. On the other hand, we still want them to be books.

Mae hyn yn anhygoel. Dw i newydd archwilio am enw John Cowper Powys, ac ar ôl y rhestr arferol o lyfrau JCP, mae rhestr llawer mwy cynhwysfawr a chatholig o lyfrau sy’n sôn am ddewin y bwthyn Blaenau. Ymysg y llyfrau sy’n cyfeirio at John Cowper mae pethau y byddech chi’n disgwyl fel Henry Miller a Colin Wilson ond digon o bethau annisgwyledig fel Pulp Friction: Uncovering the Golden Age of Gay Male Pulps a rhywbeth gan Dale Carnegie.

Am declyn handi! Dw i’n gaeth iddo fe yn barod.

Castiau Mozilla

Mozilla – yr unig borwr ti angen. Erthygl arall gan Matt Haughie (sy’n rhedeg Metafilter) a sgwennodd yr un am ddefnyddio Moveable Type fel cronfa ddata wnes i ei blogio ddoe. Mae hon yn llawn tipiau defnyddiol am ddefnyddio Mozilla, y we-borwr orau yn y byd. Dw i’n defnyddio rhai o awgrymiadau Matt yn barod, fel bloco hysbysebion ac ati, ond mae ei syniad am gadw ffenestri ar wahan ar gyfer safleoedd newyddion, gweflogiau, gweflogio (h.y. lle dw i’n sgwennu’r cofnodion, golygu hafan Morfablog ac ati) yn mynd i newid y ffordd dw i’n syrffio.

Mathowie yw’r dyn, chwarae teg.
Continue reading

Leinwcs amdani. Wedi wastraffu oriau ceisio glanhau 3 ffeirws o’r hen PC mae fy mhartner yn defnyddio, dw i wedi penderfynnu symud i Linux:

Wales-based programmer Kevin Donnelly is taking advantage of the fact that anyone is allowed to modify and redistribute Linux to do the work of localisation himself, with the help of any interested Welsh speakers. He is soliciting translations of key files from the general public through a new Web site, kyfieithu.co.uk, and using the results to create Welsh-language versions of the open-source KDE and Gnome user interfaces.

“If I wanted to get a Welsh version of Windows, it would mean a lot of lobbying and probably spending a lot of money to get it done,” Donnelly said. “With free software it cuts through all that.”