Mae Byd Creftt Rhyfel yn lle swnllyd weithiau, felly roedd yn braf darganfod rhyw dro yn ôl ei fod yn bosibl troi bant effeithiau sain fesul un, os oes digon o amynedd gyda chi. Yn anffodus, bob tro dw i’n cael llond bol o’r gêm a dileu popeth o’r cyfrifiadur, dw i’n angohio cadw copi o sut i dawelu pethau, ac mae rhaid ail-ddysgu hyn y tro nesa i mi gwympo oddi ar y gambo. Dyma fe, felly:
- Llawrlwythwch gopi o’r rhestr ffeiliau sain – hwnna yw fersiwn patsyn 3.3.3, Gwglwch wow sounds update txt am y fersiwn diweddaraf.
- Ffeindiwch enw ffeil y sŵn pryfoclyd. Dyma’r darn mwya anodd, achos nid bob tro bydd yn amlwg pa ffeil sy’n perthyn i ba sŵn yn y gêm. Rhai dw i wedi eu darganfod (a chael gwared ohonynt) yw:
- ../Sound/Doodad/Ancient_Draenei_Lamppost.wav
- ../Sound/Doodad/Ancient_Draenei_Lamppost.wav
- ../Sound/Doodad/DR_Cables01.wav
- ../Sound/Doodad/DR_Cables01.wav
- Sound/Doodad/GuildVault_Goblin_01Stand.wav (Guild Bank swnllyd)
- ../Sound/Vehicles/MotorcycleVehicleStand.wav
- Creu ffeil testun gwag, a’i enwi gyda enw’r ffeil chi moyn dileu.
- Creu llwybr yn eich ffolder WoW/Data/Sound/ sy’n dilyn llwybr llawn yr enw ffeil yn y rhestr testun, gan greu is-ffolderi newydd lle bo angen
- A dyna fe.
Gallwch arbofi gydag enwau ffeil gan copio’r enw ffeil a’i gludo mewn i sianel sgwrsio yn y gêm. Er enghraifft, os teipiwch chi /script PlaySoundFile("Sound\\Vehicles\\MotorcycleVehicle\\MotorcycleVehicleStand.wav"),fe glywch chi sŵn motobeic.
Rhaid i mi (ail-)ffeindio enwau ffeil iâr-feic y nôm nesa.
(Dw i’n poeni tipyn bach bod y blog yn fishi dro yn ddim byd mwy na lle i mi gadw copi o bethau dw i ddim eisiau eu hanghofio.)