Ar fin cerddoriaeth fyrfyfyr

“On The Edge” oedd addasiad Channel 4 o lyfr gan y gitarydd byrfyfyr Derek Bailey. Dyma rhan un ohoni.

Mae Bailey yn enw dw i wedi bod yn hanner ymwybodol ohono ers sawl blwyddyn, ond dim ond nawr dw i wedi dechrau gwrando ar ei waith. Y peth wnaeth ysgogi fi yn y diwedd oedd clywed podlediad “Little Atoms” gyda’r beirniad David Stubbs. Mae agwedd iach iawn ’da Stubbs ar beth mae pobl yn meddwl amdani fel “cerddoriaeth anodd”. Y broblem yw, yn ôl Stubbs, bod pobl yn treulio gormod o amser ac egni ceisio deall cerddoriaeth arbrofiadol, yn lle ymddiried yn eu chwaeth a synhwyrau eu hunain, a neidio mewn.

Dw i wedi bod yn sblasho o gwmpas yn y pen bas ers blynyddoedd, heb adael i’r stwff dod yn uwch na’m pengliniau. Un o’r rhesymau dw i wedi mwynhau aduniad Van der Graaf Generator cymaint yw bod bob perfformiad yn wahanol, ac yn anrhagweladwy. Does gen i ddim diddordeb yn y byd gweld hen ddeinosoriaid prog fel Genesis neu Pink Floyd creu copiau carbon o ganeuon eu gogoniant, er mwyn topio lan eu pensiynau; dydy VdGG ddim yn penderfynnu ar eu set list mwy nag awr cyn iddyn ddod i’r llwyfan, ac hyd yn oed wedyn does neb yn gwybod beth yn union bydd yn digwydd. Er eu bod yn chwarae caneuon sgwennodd Hammill 40 mlynedd yn ôl, maen nhw’n llwyddo eu cadw yn ffres gan adael digon o le i’r band fyrfyfyrio (ai hwnna yw’r gair? swnio’n lletchwith i fi); pan mae hyn yn gweithio’n dda maen nhw’n creu swn fel dim byd dw i wedi clywed o’r blaen. Dyw e ddim yn gweithio bob tro, ac mae hynny’n rhan o’r cyffro.

Band “prog” arall dw i wedi ymddiddori ynddyn nhw’n fwyfwy yn y blynyddoedd diwetha yw Henry Cow. Roedden nhw’n ffito’r label “prog” yn llai cyfforddus na Van der Graaf hyd yn oed, ac oedd byrfyfyrio’n rhydd yn rhan anhepgor o’u perfformiadau. Ar drothwy un ymweliad â Norwy yn 1976, ffeindiodd y band eu bod nhw wedi colli un o’u haelodau, ac heb amser i ail-strwythuro caneuon sy ddim yn arbennig o syml yn y lle cyntaf, penderfynwyd mynd ymlaen gyda’r cyngerdd, i fyrfyfyrio y gerddoriaeth i gyd, ac i chwarae mewn tywyllwch llwyr. Duw a ŵyr beth wnaeth heads Trondeim o hyn, ond mae’r canlyniad ar gael ar CD erbyn hyn, ac mae’n fendiffycingedig.

Trwy gwrando ar Henry Cow, a dechrau dilyn gyrfaoedd sawl aelod (yn enwedig Fred Frith a Chris Cutler), dw i wedi dod, yn ara deg a fesul tipyn, i wlad y byrfyfyrwyr pur, fel Derek Bailey. Heno ’ma, gwrando ar ei Pieces For Guitar ar yr iPod wrth gerdded adre, wnes i sylweddoli taw dyma’r gerddoriaeth orau yn y byd. *

Wrth Gwglo am fwy o stwff gan Bailey i gadw fi fynd nes bod CDs yn dechrau cyrraedd, ffeindiais i’r ffilm uchod. Bailey yw cyflwynydd y rhaglen, sy’n edrych ar hanes byrfyfyrio mewn bob steil o gerddoriaeth, o Mozart i John Zorn. Mae’r ffilm yn awr o hyd, yn rhan un o bedair (dim ond un rhan arall dw i wedi ffeindio hyd yn hyn), ac am wn i, dyw e ddim ar gael ar DVD neu VHS. Mae’n anhygoel meddwl bod llai nag ugain mlynedd wedi pasio ers i Channel 4 gomisiynu’r cyfres yma, a’r sefyllfa sydd ohoni nawr, lle mae gwaelod y barel yn cael ei grafu am yr unfed tro ar ddeg. Yr unig lle fyddai rhywbeth fel On the Edge yn cael ei ddangos nawr yw ar BBC4, ond hyd yn oed wedyn, prin iawn byddai’r Yentobistas â digon o geilliau i wneud 4 awr ar gerddoriaeth fel hyn.

* Ymwadiad: mae’n hollol bosibl taw Pintsize sy’n iawn ynglŷn â cherddoriaeth orau’r byd, a dw i’n twyllo fy hunan fan hyn. Amser a ddengys, if we’re spared.

Hynodrwydd Hammill

(Nid mwy o’r hen rwtsh yma, siwri, Nic?)

Dyma ni nôl eto; mae bywyd â blas tipyn bach mwy dwfn arno ar hun o bryd, gan fod Philippa yn yr ysbyty adennill ei nerth ar ôl llawdriniaeth ddoe. Mewn hanner awr, bydda i ar fy ffordd i Fronglais i’w gweld.

A’r bore ’ma, dyma CD newydd Peter Hammill yn y post. Dw i’n gwrando arno nawr, a hyd yn oed hanner ffordd trwyddo, dw i’n gwybod taw hwn yw’r record gorau gan Hammill ers, beth, Patience? Fel mae’n dweud, yn ei gylchlythyr newydd, mae bron pob cân arno yn dangos olion yr harten gafodd e gwpl o flynyddoedd yn ôl, felly dyw e ddim yn easy listening yn union, ond mae’n cael gafael ynddof o’r gwrandawiad cyntaf, rhywbeth sa i wedi gallu dweud am y rhan fwya o’i waith ers yr 80au, ar wahan i Present, albym Van der Graaf yn 2005.

I lay on my back, post-heart attack, conscious of the fact that I needed to i) stay awake when awake and ii) rest, absolutely, when not awake; figuratively aware of hovering just outside the final gravity of a Drop. I didn’t drop, so I don’t know if that’s how it will feel in the end, if I’m granted (or cursed with) consciousness at the (my personal) finish. I certainly had the feeling that waiting for me in those moments when the chances of my life continuing depended on coins spinning in the air was some kind of black hole, some vortex which would not release me if I went too far into its grasp. I’ve tried to express some of those feelings here. This much, at least, is a report from the front line of experience.

Ac mae’n chwibannu arno!

O, ac un am golli rhiant. Diolch, Pete. Dw i fod i yrru mewn munud.

Fel allwch chi weld o’r brawddegau gor-hir yma, dw i ddim â’r amser i feddwl am beth dw i’n dweud yma. Ond dw i’n gwybod taw cerddoriaeth Hammill a Van der Graaf fydd yr unig peth i fi yn y dyddiau, wythnosau, i ddod.

Ac nawr bod mwy o gigs Van der Graaf wedi’u cadarnhau, dw i’n gweld bod hyn yn mynd i redeg a rhedeg…

Sori.

Tywyllwch Van der Graaf

Mae rhywun wedi hollti’r DVD wnaethpwyd o sioe gynta aduniad Van der Graaf Generator y llynedd, a’i roi ar YouTube.

Tan y munud hwn, ro’n i mewn dau feddwl ymgŷn â mynd draw i Lundain ym mis Ebrill i weld VdG.

Ond uffarch, maen nhw’n dda. Bydda i ’na.

Dyma’r gân “Darkness (11/11)”:

Mwy o’r un sioe: Undercover Man a Killer.

Mae ’na lwythi o stwff “newydd” Van der Graaf/Peter Hammill ar YouTube. Dylwn i sieco yn fwy aml.

Proffwyd heb anrydedd

Adolygiad sioe Peter Hammill – wedi’i sgwennu gan ffan, mae’n debyg, ond yn ymddangos ar wefan “social housing”.

I still find it strange that Hammill is still largely a prophet without honour in his own country. Apart from a brief flurry of media coverage about the VDGG reunion last year Hammill is largely ignored by both press and radio. For me there are many parallels between Hammill the more feted Richard Thompson. Both are masterful songwriters with long careers, and although both are highly prolific the standard of quality control remains astonishingly high. They are also unmistakably English. Thompson is a far better instrumentalist but I suspect that part of the reason he is better known than Hammill is that the media can safely put him in the pigeonhole marked “folk”. They really don’t know how to categorise Hammill so they just don’t bother.

Y Peth Sbwciaf Erioed

Ddoe, am y tro cyntaf ers mis, gwrandawais i ar Van der Graaf Generator ar fy ffordd yn ôl o’r dafarn, a sylwi eto pa mor anhygoel o wych yw Godbluff.

Neithiwr, am y tro cyntaf ers misoedd, ces i freuddwyd am Van der Graaf – Hammill wedi ail-lansio’r band gyda lein-yp hollol newydd, dau gitarydd a dau ddrymiwr, ac yn wneud gig yn neuadd Ysgol Rhiwabon. Lle aeth fy mam. Wrth gwrs.

Y bore ’ma, ebost oddi wrth Watch That Page sy’n tynnu fy sylw at bwt o newyddion bach:

“After a period of consideration and some exploratory rehearsal sessions over the summer, Hugh Banton, Guy Evans & Peter Hammill are now looking forward with excitement to the next phase in the VdGG reunion.

They expect to be doing shows in the first half of 2007 and will also be recording new material in this period with a view to releasing an album later in the year.

Van der Graaf Generator is now a trio consisting of the three surviving members of the original 1968 formation. David Jackson has not been a member of the group since November 2005.”

IIieiieeeeeieieieiiei!!

But Soon My Time Is Over

Peter Hammill: mae Van der Graaf wedi dod i’w ben, siwr o fod.

Van der Graaf, 13 Tachwedd 2005, Manceinion

Roedd 2005 yn flwyddyn anodd iawn, mewn mwy nag un ffordd. Roedd colli Dad, ar ôl ei wylio diodde am 7 mis yn isafbwynt, yn ddigon amlwg. Efallai nad oedd yn syniad arbennig o dda i benderfynnu symud tŷ yn yr un flwyddyn, ond yn lwcus iawn mae hynny wedi mynd yn dda a rydym yn hapus iawn yn y lle newydd. Trwy bopeth sy wedi mynd ymlaen eleni y llynedd dw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael cefnogaeth Philippa, ein ffrindiau yma ac acw, a’r gymuned oll, fan hyn yn y Morfa, a fan’co yn y byd go iawn arall.

Yr unig constant arall trwy’r flwyddyn ’ma yw Van der Graaf. Dw i wedi bod yn gwrando arnyn nhw bob dydd, bron heb eithriad, ac wedi dod i nabod pob gair ar bob albym, gan gynnwys y rhai do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw ers talwm. Mi es i i’w gweld nhw am y tro cyntaf yn Lerpwl, deudydd ar ôl angladd fy nhad, y profiad cerddorol mwya emosiynol erioed. Gwelais i nhw dairgwaith ar y daith fach ola yn Lloegr a’r Alban rhyw chwe wythnos yn ôl, o fewn deudydd o symud i mewn i Fro Delyn.

Does dim byd fel bod yn ffan band fel Van der Graaf – mae e fel cael rhannu cyfrinach am Maen yr Athronydd. Does dim pwynt trial esbonio – os dydy’r band ddim yn dy gyffwrdd, dwyt ti ddim yn mynd i gael dy ddarbwyllo gan ddim byd alla i ddweud. Dw i ddim yn teimlo yn gyffrous iawn am yr Arctic Monkeys (dweder), ond ’swn i’n 19 eleni, ac nid 39, fyddwn i ’na, gobeithio, bodio o gwmpas Prydain i’w gweld bob cyfle oedd ’da fi.

‘Na ni, newyddion trist i ddechrau blwyddyn newydd, ond nid newyddion drwg, os gwelwch chi be’ sy ’da fi. Bydd CD newydd gan Hammill yn y man, ac mae CD o’r gig Royal Festival Hall ac, o bosib, DVD o’r un yn Leverkusen i edrych ymlaen atyn nhw.

Diolch yn fawr iawn i Hugh, Guy, Peter a David am amseri’ch aduniad i’r dim.

Peter Hammill ym Montreal, 1974

Bit Torrent o’r set wnaeth Hammill wrth gefnogi Genesis ym Montreal yn 1974. Os nag oes cyfrif DimeaDozen gyda ti, cei di fe o fan hyn – a chei di osgoi stwff Genesis gan lawrlwythio traciau 4-10 ar ddisg 0 yn unig.

Neis clywed bootleg Hammill o safon mor uchel, o’r adeg gynnar ’na.

Neis hefyd glywed bod Hammill a Peter Gabriel (sy’n ei gyflwyno) yn annerch y torf yn Ffrangeg.

Penblwydd Hapus i Hammill

Bydd Peter Hammill, canwr gyda Van der Graaf Generator yn 58 yfory.

Bues i’n gobeithio’n fawr mynd i weld VdGG tair gwaith dros y penwythnos nesa, yn Gateshead, Glasgow a Manceinion – mae tocynnau ’da fi a phopeth yn ei le – ond nawr mae’n edrych yn debyg taw penwythnos nesa byddwn ni’n symud tŷ. Pa mor annheg yw hynny? Ar ôl wythnosau o aros a chael ein siomi sawl gwaith, mae pethau yn cwympo i’w lle ac mae gen i well bethau i’w gwneud!

Braidd yn annodd esgusodi fy hunan o rywbeth fel symud tŷ, er bod Philippa yn deall yn iawn, ac yn hapus i mi fynd i’r gogledd a joio tra ei bod hi’n gweithio’n galed ac esbonio i’n ffrindiau sy wedi cynnig helpu gyda’r gwaith symud, “oh, mae Nic wedi mynd i gwpl o gigs yn Lloegr a’r Alban”. Dyw e ddim yn swnio yn rhy dda, nag yw?

Ond Van der Graaf Generator yw e!

Dw i’n bendant am fynd i’r un ym Manceinion, o leia – prynais i’r tocyn am hwnna o fewn munudau o’r datganiad, a dw i yng nghanol y rhes flaen. Beth fyddai Hammill yn ei feddwl ’sai sedd wadd yna?

Dw i wedi blogio am Hammill o’r blaen, mewn lle arall, ond mae’r MP3au yna wedi diflannu, felly dyma cwpl:

Peter Hammill – Nadir’s Big Chance – o’r albym o’r un enw.
Peter Hammill – Faculty X – sesiwn Peel, 1979.

‘Pawn Hearts’

Darllenais i’r adolygiad hwn gan Julian Cope o ‘Pawn Hearts’ Van der Graaf Generator pan o’n i ym Maes D, aka Pabell y Dysgwyr (y te gorau, y cyfrifiaduron mwya cyfleus), yn y Steddfod ddiwrnod o’r blaen, ar ôl gweld dolen mewn neges o’r rhestr postio. Mae’n hollol dros ben llestri, fel fyddet ti’n disgwyl o’n Harch-drood annwyl, ond yn hollol argyhoeddiadol hefyd.

PAWN HEARTS is a masterpiece in the old-fashioned sense of the word, that is: it is a musical blueprint on which to build in the future and has as sensibly structured an anti-structure as you could wish for. It is in turns beautiful, ridiculous, foul, overwhelming, irritating, mutating and magnificent. So don’t use this LP to irritate the wanker neighbours when you go out or you may return to find them clad in saffron robes, on a mission both to befriend you and to help you co-host evenings of Mellotron 400-based Pan-Eurasian re-constituted fire festivities. Be forewarned!

Ar yr un safle, dyma adolygiad arall o’r un album.

Mae Pawn Hearts wedi bod yn tyfu arna yn ara deg ers i mi ail-ddarganfod VdGG yn diweddar, ac erbyn hyn mae e yn y “tri top” o albymau y band gen i, gyda Godbluff a Still Life. Clasuron, bob un. Gwrandewch ar Dewythr Julian.

Surf’s Up

Dw i’n siwr erbyn hyn bod pawb wedi cael digon ohona i mynd ymlaen ac ymlaen am Van der Graaf Generator, ond mae ail hanner y cyfweliad â Peter Hammill sy newydd ei bostio ar y safle yn un o’r pethau mwya calonog dw i wedi clywed gan gerddor, ac yn enghraifft o’r teip oedd ym meddwl Bill Hicks pan dwedodd e play from your fucking heart:

Right now I want to walk towards the sea,
hoping you’re still in step with me.
All joking apart let’s play it from the heart
because at last even the Silver Surfer agrees:
the wave you brave
rides on a deeper complexity.

Ah, come on: surf’s up!

Dw i’n sownd rhywle rhwng calon sy’n torri ac un sy’n gorlawn, dw i ddim yn gwybod ble ydw i ond mod i ddim wedi bod ’ma o’r blaen, ac er mod i’n gallu clywed y mô o fan hyn dw i ddim yn gwybod beth sy’n reidio’r ton nesa. Does dim byd newydd yn y peth sy’n digwydd i fi, dim byd annisgwyl ond yr amseri. Collodd fy nhad ei dad yntau pan oedd y ddau ohonyn nhw yn 20 mlynedd ifancach na’r pâr ohonon ni, ond mae hyn dal yn rhy gynnar.

Reverberating Citadels, Batman!

Ces i dri CD Van der Graaf yn y post y bore ’ma, gan gynnwys fy hoff record VdGG erioed, Still Life. Dydy’r rhan fwya o’r stwff ro’n i’n gwrando arno pan o’n i’n 15-18 ddim wedi goroesi’n ddaond mae hyn yn swnio’n wych o hyd. Wedi ei wneud yn yr un flwwyddyn a ffurfiwyd y Sex Pistols, llawn o stwff fel now the Immortals are here a boredom and inertia are not negative but all the law we know dylai hyn fod yn chwerthinllyd erbyn hyn ond dydy e ddim, reit?

Prynais i’r recordiau i gyd yn ail-law blynyddoedd yn ôl, ac mae rhan fwya ohonyn nhw yn unplayable erbyn hyn, felly dw i’n jyst dechrau ail-adeiladu’r casgliad trwy eBay.

Dyma archif anhygoel o stwff VdGG.

Mae tudalen hafan Peter Hammill yn llawn o stwff diddorol, hefyd. Neis i weld gwefan syml, sy’n wneud ei job heb alw gormod sylw i’w hunan.