Time Mirror (MP3, 17.7MB) yw teitl darn sain gan Jeremy Millar sy’n ceisio ail-greu awyrgylch ffilm Tarkovsky Stalker ar safle cyn-ddiwydiannol yng Nghaint.
Tarkovsky a “kulning”, eto
Wedi bod yn gwylio Offret Andrei Tarkovsky, fel soniais i o’r blaen. Doedd dim albym trac sain i’r ffilm hon, felly dyma fi ceisio tracio i lawr y gerddoriaeth wych: Matthäs-Passion J.S.Bach, sy’n ddigon enwog wrth gwrs, ond dyw’r fersiwn sy yn y ffilm ddim ar gael ar CD; cerddoriaeth ffliwt o Siapan sy hefyd ddim ar gael, oni bai mod i’n colli rhywbeth; a’r peth mwya rhyfedd, kulning, dull draddodiadol o alw defaid a gwartheg yn Sweden (cafodd ffilm ei wneud yn y wlad honno). Mae un darn sy yn y ffilm ar gael fel MP3 (sgrolio i lawr tipyn bach). Wrth ddarllen am kulning oedd rhywbeth yn fy nharo yn gyfarwydd, felly nôl i Google â a ffeindio mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, 4 blynedd a hanner yn ôl.
Mae’n swyddogol ‘te. Dw i wedi bennu darllen y rhyngrwyd. Be sy nesa?
Ddim wedi gweld y blogiad yma o’r blaen, gan ei fod yn newydd yr wythnos ’ma. Ac mae MP3 bach arall fan ’na.
Ail-ddarganfod Andrei
Yr un mor wych, er ddim cweit mor hapus efallai, yw’r ffilm gwyliais i heddi, sef Regi Andrej Tarkovskij, ffilm ddogfennol gan Michal Leszczylowskis sy’n dod â’r DVD o ffilm olaf yr athrylith o Rwsia, Yr Offrwm. (Dw i newydd ffeindio clip YouTube o’r 8 munud cyntaf.) Dw i ddim yn cofio gwylio ffilm making of… gyda chymaint o ddiddordeb o’r blaen.
Mae un olygfa yn Yr Offrwm lle mae tŷ yn cael ei losgi. Yn ystod y saethu, oedd dau gamera’n ffilmio’r tŷ wrth iddo fynd i’r fflamau, ac ymatebion a symudiadau’r actorion i gyd. Doedd dim modd wneud camgymeriad; mi oedden nhw’n llosgi’r set. Ar ôl i bopeth ddod i ben, a phawb yn araf ymlacio, dyma Sven Nykvist, sinematogaffydd Tarkovsky ar ei ffilmiau olaf a bu farw yn 2006, yn dod at y meistr i ddweud bod ei gamera wedi jamio. Trychineb! Mae Tarkovsky yn torri i lawr, ffonio ei wraig a mynnu ei bod hi’n dod ato fe yn syth o Rwsia i Sweden i’w helpu dros yr argyfwng yma.
Ac wedyn, dyma’r criw ail-adeiladu’r tŷ, yn union fel y set gwreiddiol, ac wedyn ei losgi eto.
Mae lluniau gwych o’r tân fan hyn.
Dyma’r clip:
Polaroids Tarkovsky
Cyhoeddwyd Tarkovsky’s Polaroids ym mis Mawrth eleni, a dim ond nawr dw i wedi archebu copi. Dyma enghreifftiau o’r lluniau ar wefan y Guardian.
