Helo i Júda

Diolch i Júda adael sylw ar y cofnod isod, dw i wedi darganfod ei flog, Digital Words. Ieithydd yng Nghaersalem yw Júda, gyda diddordeb mewn ieithoedd Celtaidd, ymysg eraill. Mae’r rhan helaeth o’i flog wedi’i sgwennu yn Hebraeg, ond gyda chymorth ein cyfaill Google, dw i’n gallu cael y gist. (Drueni bod y cyfieithydd yn gweithio cymaint yn well o Hebraeg i’r Saesneg, yn hytrach nag i’r Gymraeg, ond dyna fe.)

Ond ffeindiais i un cofnod Saesneg, ambwytu’r Gymraeg ac iaith elfaidd Tolkien, Sindarin: Dull Tengwar Cymraeg, ac wedi pori’n bellach, copi o’i bapur (yn Saesneg eto) ar agweddau cyfieithu Harri Potter i’r Gymraeg.

Hefyd, newydd ddod ar draws y papur Between Narrative and Dialogue: Syntactical Features of Signalling Speech in Narrative in Modern Welsh, sy’n edrych yn ddifyr ond bydd rhaid i fi ei ddarllen fory, os bydd amser.

Talwrn y Beirdd yn Hermon nos fory, gyda Tîm Tanygroes yn erbyn Crannog, a’r Cŵps yn erbyn Glannau Teifi.

Tamaid i aros pryd, gan fy hoff fardd yn y byd mawr crwn:

Cegin
Rwy’n disgwyl, mewn gwael hwyliau – i gogydd
y gegin dymhorau
agor y ddôr i ryddhau
aer ei wanwyn i’m ffroenau.

Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Continue reading