Chris Cope – O Flaen dy Lygaid

Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd – wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?

Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.

Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.

Blogi ogi ogi

Dim ond dympio dolenni:

Shamanaidd Arwynebol

Nos Sadwrn, adeiladais i dân yn y stafell ffrynt a setlais i lawr i wylio Derwyddion – Byd y Shaman ar S4C. Syndod mawr (not), oedd y rhaglen yn rwtsh arwynebol ar y cyfan, a ddysgais bron ddim byd diddorol ond y ffaith bod Dai the Drop yn gweithio fel rhyw fath o iachwr oes newydd y dyddiau hyn.

Am well gyflwyniad at shamanyddion y byd modern, dyma rhestr o erthyglau am entheogens (nawr, dyna gair sy ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce) o’r weflog abuddhas memes.

Prynhawn Da a choes gig oen

Mae Philippa wedi mynd i Lanelli i ymddangos ar raglen S4C digidol Prynhawn Da. Ro’n i’n mynd i fynd gyda hi ond ro’n i’n ddigon lwcus i ennill yr wobr gyntaf mewn raffl neithiwr – coes enfawr cig oen. Felly, mae rhaid i fi aros gartre a’i choginio. Dw i erioed wedi coginio darn o gig mor fawr.

Prynais i’r tocyn ar ôl treilio pump awr rhedeg stondin bric-a-brac yn y pentre, codi arian i Gronfa’r Milflwyddiant. Fel arfer, dw i ddim yn treulio lot o amser edrych ar ymwelwyr yn Llangrannog. Dyw hi ddim yn brofiad dymunol, ar y cyfan.

Y bore ’ma, gyrrais i Aberteifi i fynd â’r gweddillion y stondin i siop Oxfam. Gwrando ar Libertino yn y car – fy hoff tâp ar hyn o bryd.