RSS wedi diflannu

Diolch i Dafydd am dynnu fy sylw at y ffaith bod ffrwd RSS Morfablog ddim yn gweithio ers dechrau mis Mawrth. Rhaid cyfadde mod i ddim yn deall sut mae’r RSS yn gweithio yn iawn ar WordPress, ac ar ôl treulio awr a hanner pori trwy fforymau cymorth, newid patrymluniau, tynnu ma’s bob ategyn (a’u rhoi nhw yn ôl), dw i’n methu’n lân ffeindio beth sy’n achosi’r broblem. Ac mae’r haul yn gwenu, ac mae llwth mawr o goed tân ’da fi i’w torri.

I gyd dw i’n gallu awgrymu, i chi’r bobl sy’n defnyddio Google Reader, yw tanysgrifio i’r ffrwd Atom, gan gopio a gludo’r linc

feed://morfablog.com/feed/atom/

yn y bocs “Add a Subscription”.

Mae hwnna’n gweithio i fi, ta beth.

Mae’n flin ’da fi am y ffwdan, a byddaf yn ddiolchgar iawn ’sai rhywun yn gallu awgrymu sut alla i gael y pethach RSS yn ôl.

Golygu’r Gorffennol

Ers i mi ail-afael yn y busnes blogio, dw i wedi bod yn talu mwy o sylw at fy referrer logs ac felly yn sylweddoli pa gofnodion Morfablog sy’n cael eu darllen. Yn aml iawn y cofnodion hen yw’r rhai sy’n denu sylw, diolch i Google, siŵr o fod. Ond wrth ymweld â’r cofnodion hyn fy hunan, a’i darllen am y tro cyntaf ers sgwennu nhw dair, pump neu fwy o flynyddoedd yn ôl, y peth cyntaf dw i’n sylwi yw does ’na un ohonyn nhw heb wall sillafu.

Beth maen nhw’n dweud am bobl sy’n byw mewn tai gwydr?

Sdim llawer o bwynt i mi drïal cywrio gwallau iaith ym mhob cofnod Morfablog (byddai hynny bach yn anonest, ta beth), ond bydda i’n cywiro camgymeriadau yn nheitlau cofnodion wrth i mi eu darganfod, a thwtio teitlau cofnodion hen iawn sydd â theitlau di-ofyn fel Geraint Griffiths – llawer o, sy bellach dim ond yn Geraint Griffiths.

Mae’n ddiddorol mynd yn ôl dros hen gofnodion, a gweld faint o’r safleoedd weidi goroesi a sut maen nhw wedi newid: mae llwyth o MP3au i’w lawrlwytho ar safle Geraint Griffiths, er enghraifft, sy’n awgrymu ei fod e wedi addasu i’r byd newydd yn well na rhai o’i gyfoedion.

Ond y prif rheswm dw i’n sôn am hyn yw bod golygu cofnodion yn achosi iddyn nhw ail-ymddangos yn ffrydiau RSS, os dw i’n deall yn iawn, a dw i moyn bod yn agored am y pethau dw i’n eu newid. Ddim bod fawr o ots ’da neb, wrth gwrs.

Wps – dim ffrydiau categoriau [Gol. OES!]

Wedi dweud wrth y darllenwyr di-Gymraeg bod hi’n bosibl tanysgrifio i ffrwd y categori Saesneg, dw i’n sylweddoli nad oes ffrwd o’r fath ar gael. Wna i sorto hyn yn y man, ond rhaid i fi fynd ma’s nawr.

Unrhywun yn digwydd gwybod sut i wneud hyn (creu ffrwd RRS o gategori unigol ar WordPress) – i arbed gwaith Gwglo i fi? Jolch.

[Gol.]http://morfablog.com/categori/english/feed/ yw cyfeiriad y ffrwd. Diolch yn fawr i Aran a Babs, am fod yn glyfrach na fi.