
Popeth yn Wyddeleg?
Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? – cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd?
Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim ond mamiaith y wlad honno.
Dyma glip:
Mae’n amlwg bod dwy brif wahaniaeth rhwng modus operandi Magan a’r hyn wnaeth Ifor ap Glyn: oedd agwedd Ifor yn fwy agored a chyfeillgar, hyd yn oed pan oedd pobl yn gwrthod gwrando arno fe (dw i ddim yn siarad Gwyddelig, ond dw i’n deall iaith y corff; mae Magan yn dweud rhywbeth fel “mae hyn yn ridiculous” mewn un sefyllfa – agwedd hawdd i’w ddeall, ond ddim yn debyg i helpu’r sefyllfa), ac yn ail, mi oedd criw camera Ifor yn fwy amlwg. Mae’r rhaglen Gwyddeleg wedi’i ffilmio gyda chamera cudd, am wn i. Ond, os dw i’n cofio yn iawn, wnaeth y criw Cymraeg un rhaglen gyda chamera cudd, a dal ddim yn cael y fath ymateb mae’r boi ’ma yn cael.
Rhyfedd iawn.
Mae rhaid gofyn weithiau, beth sy’n fwy pwysig: i gadw’r ucheldir moesol, a wneud yn siwr bod pawb yn gwybod taw ti sy’n iawn, neu i wneud bob ymdrech posibl i helpu pobl eraill dy helpu di yn dy dasg? Mae Ifor ap Glyn wedi profi ei fod yn bosibl byw yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg os oes amynedd Job, a gwên neis, gyda ti. Dw i ddim yn siwr beth mae Manchán Magan wedi profi.
Ar wahân i’r ffaith bod rhaglenni S4C, pan maen nhw’n wreiddiol, a Chymreig, a ddim wedi’u copio o deledu poblogaidd Saesneg, yn ddigon cryf i gael eu copio yn eu tro gan wledydd eraill.
Colli un byd arall
Adnoddau Ieithoedd Mewn Perygl, safle newydd gan Brosiect Hans Rausing.
Mae hyn yn newydd i fi. Diben y brosiect, neu’r grŵp, yw cyllido prosiectau sy’n cofnodi ieithoedd mewn perygl. Fel arfer, o safbwynt yr ieithoedd hynny, byddai’r Gymraeg yn edrych fel un o brif ieithoedd y byd, felly nad yw’r brosiect ei hunan yn rhywbeth all fod o help i weithwyr iaith yma yng Nghymru fach, ond mae darllen am bethau fel hyn wastad yn atgoffa dyn amp mae’n bwysig i beidio colli’r ffocws. Fel mae is-deitl y wefan yn dweud:
…evry last word means another lost world.
Hybu tafodieithoedd Inuit
Erthygl ddiddorol yn Nunatsiaq News sy’n sôn am bwysigrwydd tafodieithoedd Inuit. Fel gyda llawer o bethau ym maes TSI, byddai’n hawdd iawn i roi’r gair “Welsh” i mewn am “Inuit”.
At present, many Inuit use English when they meet someone who speaks a different dialect, the author of the report notes in a summary of the report. But this is likely a symptom of the erosion of Inuit languages in general, and not a sign that dialects are mutually incomprehensible.
Mae myth bod Gogleddwyr a Hwntws ddim yn gallu deall ei gilydd yn parhau’n gryf yng Nghymru, yn enwedig ymysg pobl di-Gymraeg falle. Yn aml iawn, mae pobl yn dod i ddosbarth Wlpan wedi byw yng Nghymru am sawl blwyddyn, ac maen nhw wedi llyncu’r myth hwn, diolch i’w cymdogion Cymraeg, sy’n ymfalchïo yn y “ffaith” bod eu hiaith nhw mor arbennig o anodd i ddysgu a’i deall.
Dim Cymraeg, diolch, Saeson ydyn ni
No Welsh Thanks, We’re English: erthygl yn y cylch ScienceNOW am drosglwyddo’r iaith i blant.
Arwyddion Uniaith y Brifddinas
Mae aelodau Cell Caerdydd wedi mynd ati i gasglu lluniau o arwyddion ffordd uniaith Saesneg yn y brifddinas, gan awgrymu all unrhywun arall wneud yr un peth yn eu hardaloedd nhw.
Bwrdd yr Iaith yn deffro
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg. Dw i dal heb orffen darllen hyn, ond mae’n ymddangos yn fwy radicalaidd na dim byd dw i wedi gweld o’r Bwrdd o’r blaen. Mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith yn ei groesawi. Dim ond person sinigaidd iawn byddai’n dweud bod hyn yn dod bach yn hwyr yn hanes y Bwrdd, nawr eu bod nhw’n wynebu cael eu llyncu gan y Llywodraeth, a dw i ddim yn teimlo yn sinigaidd heddi. Mae’r haul yn gwenu, mae’r adar yn canu, ac mae Bwrdd yr Iaith yn tynnu ei fys ar fater Deddf Iaith Newydd: gwanwyn cynnar eleni?
BBC Cymru: Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw am newid deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith.
BBC Wales: The Welsh Language Board is calling for a revamp of language laws.
Mordicai: Datblygiadau Deddf Iaith.
Trafodaeth ar maes-e.
Cyfieithu i’r Wyddeleg
Erthygl ar Slugger O’Toole am y costiau honedig o gynhyrchu un ddogfen swyddogol yn Saesneg (€685) a’i cyfieithu i’r Wyddeleg (€17,000). Mae’r bwlch amlwg rhwng y ddau ffigwr wedyn yn sail i ddadl “allen ni wario’r arian yn well? – er lles yr iaith, os oes angen, ond dere mlân, faint o bobl sy wir yn ei defnyddio…” ac yn y blaen.
Fel mae trafodaeth ar y cofnod yn awgrymu, dyw e ddim yn glir sut cyrhaeddwyd ar y ffigyrau yma:
The Taoiseach on this occasion was only quoting the costs associated with graphics etc wrt to the English version of the document while the time involved by the civil servants and the entire kitchen sink was accounted for in the figure for in the Irish language document.
Ac wedyn, unwaith eto, y ddadl dros wneud dim byd rhag ofn bod siaradwyr Tsieinëeg yn dechrau gweiddi am eu hawliau ieithyddol. Ydy poblogaeth Tsieinëeg Iwerddon yn enwedig o weithredol neu rywbeth? Mae pawb yn eu hofni, mae’n debyg.
Gwyddeleg yn iaith dramor yn Wlster
O Ogledd Iwerddon, lle mae dadlau am hawliau ieithyddol ag elfen mwy gwleidyddol na’r arfer, gawn ni ddweud, y daw’r stori am drigolion Cenedlaetholgar sy’n bygwth mynd â’u cyngor i’r llys er mwyn cael arwyddion eu strydoedd yn Wyddeleg. Nid bod y cyngor (Undebol) yn poeni dim am hyn:
DUP councillor Frank Campbell believes putting up Irish street signs in the area will set a dangerous precedent.He said: “There are more people who speak Chinese and Czech in Ballymoney than who speak Irish. What are we to do next, put up signs in the those languages?”
Am ddadl soffistigedig! Neis iawn gweld bod Undebwyr Wlster yn defnyddio’r un ddadl â’r Undebwyr Wêls wrth wfftio hawliau ieithyddol brodorion eu “Provinces”.