Gwyddbwyll ar y we – prosiect cod agored sy wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg gan Owen Llywelyn (un sy’n dod o linell gwyddbwyllwyr o fri).
Technorati: gwyddbwyll, chess
Gwyddbwyll ar y we – prosiect cod agored sy wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg gan Owen Llywelyn (un sy’n dod o linell gwyddbwyllwyr o fri).
Technorati: gwyddbwyll, chess
Google Blog Search – ffordd arall i ffeindio pethau i wastraffu dy amser arnynt.
Rhithfro.com – profi profi profi.
[Gol.] Mae’r Rhithfro yn fyw! Da iawn Aled, mae popeth yn edrych yn wych.
Diolch i Curt, sy’n mynd i enwebu Morfablog i Blog Day 2005, sy’n digwydd heddi. Edrych yn ddifyr iawn. Mae wastad yn neis iawn cael rhywun sy ddim yn siarad Cymraeg cymryd diddordeb yn y pethau sy’n digwydd yma, gwrthwenyn perffaith i’r pethau pitw sy weithiau yn tynnu ein sylw oddi ar beth sy’n bwysig.
Mae Curt hefyd yn blogio ar flog Pwyllgor Amddiffyn Blogwyr – sy’n dilyn achosion lle mae rhywun yn bwlio blogwyr er mwyn cau i lawr trafodaeth. Am gyd-ddigwyddiad!
Mae ganddo gofnod diddorol iawn ar ei flog personol sy’n gasgliad o ddolenni i storïau am bobl sy wedi’u bygwthio ag ymddiswyddiad oherwydd pethau maen nhw wedi dweud ar-lein.
Greenie Watch, PC Watch, Daily Mail Watch, Blunt Watch (ond mae Doobie Watch dal ar gael), SalesForce Watch, Coke Watch (bŵ!), Starbucks Watch (hwrê!), GMO Watch, Lib Dem Watch, Food Watch, Food Porn Watch, Warblogger Watch, Aging Hippie Feminist Watch, Tony Blair Watch, Bush Watch, Gore Watch, Nat Watch, Nat Watch Watch, Nat Watch Watch Watch…
Na, sori, wnes i hwnna lan.
Ond stil, pam lai? Pwy sy’n gwylio’r gwylwyr gwylio’r gwylwyr, eh?
Dwedais i wrth Joss, mynyddwr o fri, na fyddwn i’n sôn am ei flog newydd am wythnos neu ddwy, achos doedd e ddim am i bobl fynd i fyny Copa Crib a ffeindio doedd dim byd wedi ei sgwennu arno – ond erbyn hyn, tridiau yn diweddaraf, mae mwy o gynnwys ar y blog nag sydd ar rai sy’n bodoli ers chwe mis a mwy.
Mae’n ymddangos fel bod Unarddeg.com wedi’i hacio.
myfyrwyr-y-radd-allanol – negesfwrdd phpBB newydd ar gyfer myfyrwyr, tiwtoriaid a chyn- a darpar-fyfyrwyr ar gwrs allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth. Bues i ar y cwrs am rhyw flwyddyn a hanner, ond ffeindio fe’n anodd i gadw i fyny gyda’r gwaith, nid achos ei fod e’n arbennig o drwm, ond achos fy mod i’n arbennig o anhrefnus, ac mae angen mwy o strwythur arna i.
Ond efallai y byddai o fwy o werth i mi ddweud hyn i gyd yno, ar y bwrdd?
Braidd yn fishi heddi, ond bydda i ’na, yn y man.
Och a gwae! Mae Natwatch wedi marw. (Ond mae archif Google dal ar gael, os dych chi ddim wedi bod yn dilyn hyn.)
Ddydd Sadwrn cyntaf y Steddfod, a ninnau newydd gyrraedd, ces i nodyn fodyn gan gyfail o maes-e i ddweud bod y person tu ôl i’r wefan sarhaus o wrth-Gymraeg wedi troi ata i fel targed nesa ei gasineb, gan gymryd rhywbeth dwedais i ar y maes mas o’i gydestun, ei gyfieithu i rywbeth fel Saesneg, ac yn anwybyddu’r rhan o’r neges lle esboniais i taw jôc oedd y cyfan. Diawl, am frawddeg rhedeg ymlaen. Dyna chi’r Blogathon, dim amser am ail-sgwennu.
Dyma fwrdwn neges y Nat-wyliwr:
Does anyone out there know Mr Dafis? What branch of the Nats is he a member of? Is he a Nat spokesperson on energy we wonder?
Mae “Price4President” yn gwybod yn iawn pwy ydw i, oherwydd i mi sgwennu ato ddwywaith ers dechrau’r busnes gyda Aled Cottle. Dw i ddim yn cuddio tu ôl i ffugenw plentynaidd – diawl erioed, dw i wedi newid fy enw gan weithred cyfreithiol er mwyn bod yn haws i ffeindio ar y we. Dw i’n ffaelu credu bod P4P mor di-glem ei fod e’n ffaelu ffeindio dim byd amdana i.
Yn bell o fod yn “Nats spokesman” ar unrhyw bwnc, dw i ddim hyd yn oed aelod o Blaid Cymru, ond ar ôl y busnes yma dw i’n sicr ystyried ail-ymuno â’r Blaid, ac i helpu nhw curo Plaid Lafur yng Nghymru.
Achos mae gen i reswm i amau taw aelod etholedig Plaid Lafur yw “Price4President”, ac os ydy’r blaid lywodraethol yng Nghaerdydd wedi syrthio mor isel eu bod nhw’n barod i ddefnyddio tactegau fel hyn, wedyn mae dyletswydd â phob un ohonon ni i gael gwared ohonyn nhw.
Dw i hefyd wedi dod yn ymwybodol yn diweddar pa mor wan yw fy ngafael ar faterion y dydd, hynny yw gwleidyddiaeth. Mae safon y trafodaeth ar faterion felly ar y maes wedi achosi cymaint o benbleth i mi yn diweddar i beri i mi gau’r adran wleidyddiaeth, sy ddim wedi bod yn benderfyniad poblogaidd iawn. Ond nawr bod ’na Fforwm newydd sy’n mynd i arbenigo ym mhethau felly, falle bod yr amser wedi cyrraedd i mi gymryd diddorol mwy manwl.
Felly, diolch yn fawr “Price4President”, a beth bynnag sy wedi dy orfodi cau dy wefan i lawr, gobeithio dwyt ti ddim mewn perygl o golli dy swydd hefyd. Ti yw Swyddog Recriwtio gorau Plaid Cymru ers George Thomas. Mae cenedlaetholdeb Cymru yn dy angen di!
Un o’r pethau dw i wastad yn mwynhau am y Blogathon yw dod ar draws blogiau newydd. Pan ga’ i funud (ddim wedi cael lot sbâr hyd yn hyn) dw i’n hoffi crwydro trwy’r blogiau ar y we-gylch a gweld sut mae’r cymdogion.
Mae pobl drws nesa i gyd yn ddiddorol eleni. I fy chwith mae Diner Bitch, sy’n blogio am ei hatgofion cerddorol, ac ar fy ne, mae Three Moms and a Single Lady, blog ar-y-cyd sy’n blogio am hoff bwnc pawb, rhyw. Maent yn gwahodd cwestiynau, felly paid bod yn swil nawr. (Mae gyda fi gwestiwn, ond dw i’n chwilio am y ffordd orau i’w fynegi.)
Pob lwc i bawb yn y fro!
XFN – rhwydwaith ffrindiau XHTML. Newydd ddod ar draws hyn wrth ddechrau ychwanegu dolenni i’m hoff flogiau Cymraeg. Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol y bydd hi – un o’r pethau ’na sy’n dibynnu ar lot o bobl wneud yr un peth cyn iddo fe gael effaith llawn ei botensial, fel Flickr a Technorati.
Ces i amser wych lan yn y gogledd dros y penwythnos. Prif reswm am fynd oedd mynychu priodas Aran a Catrin, a oedd priodas heb ei hail oedd hi hefyd. Diolch yn fawr iddyn nhw am fy ngwahodd, ac am drefnu diwrnod mor bobdigedig ar ein cyfer. Rhaid i mi ymddirheuro am (1) adael mor anrocarol o gynnar er mwyn gweld fy mam fach a (2) fod mor esgeulus tynnu lluniau. Dw i’n cymryd y bydd digon o luniau gan bobl sy’n gwybod beth maent yn wenud, felly byddai fy ymdrechion pitw innau wedi edrych yn waeth nag arfer (ond mae gen i un da o Mabon ap a’i wyneb arbennig, felly dw i ddim yn teimlo’n rhy ddrwg am hyn).
Rhywbeth arall neis a ddigwyddodd dros y Sul oedd cael ffurflen sbonsro yn ôl gan fy mam, gyda gwerth £139 o addawon arni, sy’n dod â’m cyfanswm am y Blogathon at $538. (Tipyn bach mwy na hynny os ydw i’n iawn gan feddwl dydy un o’m noddwyr hael ddim wedi boddran conferto’r addawiad i ddoleri *peswch*Hedd*peswch*.)
Mae hyn yn wych, a gobeithio y bydd modd codi yn uwch byth erbyn i’r ‘Thon ddod i ben, ddydd Sul 7fed Awst.
Rhaid i mi siapo nawr, a dechrau sgwennu at y papurau ac ati.
Mae gwefan Blogathon 2005 yn fyw!
Fel dw i wedi sôn o’r blaen, eleni bydda i’n blogio dros Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.
Os dych chi am fy sbonsro, mae rhaid i chi gofrestru gyda’r Blogathon, ac wedyn ymweld â fy nhudalen ymgyrch. Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â fi a wna i ngorau i hwyluso’r broses (dyw e ddim yn arbennig o glir ar hyn o bryd, ond dw i’n credu bod staff y Blogathon yn gweithio ar bethau i wneud y wefan yn haws i’w defnyddio). Dim ond doleri Americanaidd mae Blogathon yn deall, felly mae rhaid conferto y swm o bunnoedd (£5 = $8.75, mwy neu lai).
Dw i’n bant o fory tan dydd Llun, ac wrth gwrs mae’r Steddfod yr wythnos nesa, felly fydd dim llawer o gyfle i mi gasglu noddwyr ar lein, ond dw i wedi casglu sawl un ar ffurflenni papur, ac mae Mam a’r teulu oll wedi bod yn helpu hefyd, felly pwy â wyr faint o arian maen nhw wedi codi. Edrych ymlaen at weld yfory.
Os wyt ti’n meddwl am gymryd rhan yn y Blogathon – a dylet ti, mae’n llawer o hwyl – dw i wedi agor seiat newydd ar maes-e, i drafod strategaeth ac yn y blaen.
Bydd angen logo Cymraeg, ond am y tro:
Fel sôniais o’r blaen, does dim modd gadael sylwadau ar y blog wrth-genedlaetholdeb Cymru/Yr Alban Natwatch, felly mae rhywun wedi mynd ati i ddechrau NatWatchWatch.
Difyr iawn.
Mae Cadalach wedi addasu sgript Sbwriel i wneud dyddiadau Blogger ymddangos yng Ngaeleg yr Alban.
Da ‘de?
Heddi, yn y bore, daethon ni i gytundeb anffurfiol â theulu Cymraeg lleol sydd â diddordeb prynu ein tŷ, unwaith bod rhywle ’da ni i symud iddo fe.
Wedyn, y prynhawn ’ma, fe lansiais i Clwb Cefnogwyr Maes-e, fy ymdrech hir ddisgwyledig i wneud bywoliaeth ma’s o’r maes. Dw i wedi bod yn meddwl am hyn ers blwyddyn o leia, ond nawr yw’r amser i fi stopo wneud esgusodion, a gweithio ar bethau o ddifri.
Mae Cwmni Cymraeg yn cynnig gwefannau am ddim i gwmnïau Cymraeg eu hiaith.
Yn syml iawn, rydym yn cynnig gwefan na fydd dim rhaid i chi fuddsoddi ceiniog ynddi, os ydych yn fodlon cadw’r wefan ar ein gweinydd ni am ffi misol rhesymol dros ben. Nid oes rhaid i chi dalu cannoedd, neu filoedd, i gwmni mawr, barus, pan bod modd i chi dderbyn gwefan wych AM DDIM gennym, ac wedyn talu llai ar gyfer llety misol na hynny buasech yn talu ar gyfer un hysbyseb yn y Tudalennau Melyn bondigrybwyll!
Mae hyn yn fodel busnes hollol newydd, yn fy mhrofiad i, a bydd yn ddiddorol iawn i weld sut llwyddiant y cân nhw.
Pubs Cymru – tafarnau, siwrli? Ond syniad da, a rhywbeth all fod yn adnodd go iawn yn y dyfodol (bla bla bla GoogleMaps bla bla posibiliadau bla bla rhyw feddw i flogio bla).