Amser i ddechrau mapio’n iawn?
Newydd fod yn hedfan trwy bywyd Jack Kerouac ar Google Earth.
Dw i’n hoff iawn o gerdd Twm Morys, “Darllen y Map yn Iawn” (yn ei gyfrol 2, os ti ddim yn gyfarwydd), a dw i wedi sgwennu o’r blaen am y posibiliad o weithredu’r syniad sydd yn gefndir i’r gerdd honno yn realiti trwy ddefnyddio offer megis GoogleMaps a Flickr. Dim ond nawr dw i’n sylweddoli bod Google Earth yn berffaith i brosiect fel hyn, ond bod safon y lluniau o’r rhan fwya o Gymru yn isel iawn. Cymharer y lluniau o Lowell, MA (man geni Kerouac) lle mae pob tŷ yn amlwg, i rywle fel ffarm y Cilie (ffeil kmz) lle dw i ddim hyd yn oed yn siwr os ydw i wedi ffeindio’r lôn cywir.
Ta beth am hynny, a fyddai diddordeb mewn creu map diwylliannol, hanesyddol o Gymru a’r Cymry?
Podcastio o’r Brifysgol
Mae Prifysgol Bangor wedi dechrau podledu deunydd o’u cyrsiau. Am wn i, at ddefnydd y myfyrwyr yn unig ydyn nhw, ond tybed a fyddai’n bosibl i’w rhoi ar y we i bawb cael gwrando?
Pedwar Peth
Wel, wel, dim ond munudau ar ôl i mi sôn am Cat, dw i’n sylwi mod i wedi cael fy nhagio ganddi.
Mouseover for translations, Cat.
Pedwar swydd dw i wedi’u cael
Garddwr Tirwedd Llyfrgwerthwr Gwas fferm organig (y fferm, nid y gwas) Sensor Ffasgaidd ar maes-e.com
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
- Two Lane Blacktop
- Dazed and Confused
- Withnail and I
- ET
Pedwar lle dw i ewdi byw ynddyn nhw
Y Waun, Wrecsam Caerdydd Llangrannog, Ceredigion Pontgarreg, Ceredigion
Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
Nantucket, UDA Connacht, Iwerddon Yr Ynys Hir, Yr Alban Steddfod
Pedwar o’m hoff brydau bwyd
Cawl Dail Poethion Wyau Môn Miod Ambarél Bwgan Fflapjacs Philippa
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn
Castell Dinas Brân Y Pentre Arms, chwarae poker Tŷ Bwyta’r Cnapan, Tydraeth Nantucket
Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
Blogathoniaid!
Bydd Blogathon bach gwyrdd ar 24 Chwefror. Dim ond nawr dw i wedi clywed amdano, a bydda i bant dros y penwythnos nesa, ond mae syniad neis iawn.
Tra bod ni ar y pwnc, bydd Blogathon 2006 yn digwydd ar 26 29 Gorffennaf eleni, felly fydd e ddim yn clasho gyda’r Steddfod, diolch byth. Dw i wedi cael llith gan Cat Connor, a fydd yn ôl fel trefnydd eleni. Mae Cat wedi gofyn am gyfieithiad llawn o feddalwedd y Blogathon i’r Gymraeg, a dw i wedi cytuno. A oes diddordeb gyda blogwyr eraill helpu gyda’r prosiect?
Dw i ddim wedi postio am hyn ar y maes, gan mod i am gael dim ond blogwyr sy’n debyg i gymryd rhan yn y ‘Thon ei hun, yn hytrach na phob copa walltog sydd â blog unnos.
Beth amdano?
Bodio’r Bydysawd
Bodio’r Bydysawd – “Ffansîn Gwyddonias maes-e”.
Ai fi yw’r un ola i glywed am hyn?
Sawl blog Cymraeg?
Newydd cyfri y nifer o flogiau Cymraeg ar fy nghyfrif Bloglines ac mae RSS ’da fi am 88 ohonyn nhw. Iawn, mae rhai o’r rheiny wedi marw, ond mae hynny yn lot mwy nag o’n i’n disgwyl.
Blog Leanne Wood
Braf iawn gweld bod Leanne Wood wedi dechrau blogio, a phodledu hefyd. Edrych ymlaen at glywed beth mae mashwyr yn y Lladron yn wneud gyda hyn [MP3, 821Kb).
Tra bod ni ar bwnc Pleidwyr ar y we, mae clip bach o Jill Evans [WMV] yn Senedd Ewrop yn herio Blair i hybu’r Gymraeg fel iaith gwaith swyddogol yn werth ei gweld hefyd.
Blogamundo
Blogamundo: blog datblygu gan brosiect i ddod â mwy o gyfieithu i’r we. Edrych yn ddiddorol – ac maen nhw’n chwilio am help gan bobl o bob iaith.
Tyrfa Bws
Blog Ysgol yr Eifl
Blog Ysgol yr Eifl. Neis iawn i weld ysgolion yn defnyddio Blogger fel modd cael eu newyddion ar lein yn hawdd a di-ffwdan.
Oes ’na ysgol Gymraeg arall gyda blog? Rho wybod yn y sylwadau, os gwelwch yn dda.
Cameron: mwy deniadol na’r Nats?
Unrhywun gweld eisiau Nat Watch?
Reit, dyna beth o’n i’n meddwl.
Ond jyst rhag ofn bod hiraeth arnoch chi, dyma Cam Watch, sori, Notting Hell i lenwi’r bwlch yn eich bywydau. Mae’n debyg taw Nats Lloegr, sef David Cameron a’r Toris Newydd, yw’r bleiddiaid mawr drwg y dyddiau ’ma, ac nid Nats Cymru.
Wrth gwrs, does dim tystiolaeth yn y byd bod y ddau flog yn eiddo yr un person, dim ond pethau fel steil y blog, y ffugenw “doniol” (Cameroon – heh), a’r cyfeiriad di-enw Gmail i anfon mwy o gynnwys i’r blogiwr di-enw. (Bydd yn ofalus os wyt ti’n wneud hynny – os ydw i’n iawn, mae o leia un person wedi colli ei swydd ar ôl cysylltu â’r blogiwr hwn.)
Ond dyw’r llys-enwau dyfeisiol ddim yn stopio yna, o nadyn.
Ddydd Sadwrn diwethaf, postiodd “Cameroon” gofnod am Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru Cabinet newydd y Toriaid, cofnod sy’n dwyn y teitl Cheryl the Peril. Yn ôl Google, mae dim ond un person arall wedi bod yn ddigon hy i alw Cheryl Gillan gan yr enw ’na ac hynny dim ond deunddydd cyn i Cameroon “bathu” yr enw, sef Leighton Andrews, Aelod Cynulliad, blogiwr, a ffan tymor hir (gynt) o Nat Watch.
Ydy Leighton a “Cameroon” yn berthnasau, tybed?
Het mewn trwbl
Mae rhywun yn bygythio languagehat â gweithred enllib.
Ac mae pobl ar maes-e sy’n dal i feddwl fy mod i’n ffasgwr am ddileu pethau enllibus.
Blogio yn Saesneg – addewid PledgeBank
Daeth hyn mas o’r trafodaeth ar gofnod blaenorol: y syniad yw y bydd sawl blogiwr Cymraeg yn cyfrannu at blog-ar-y-cyd newydd, gan gyfieithu ambell i gofnod i Saesneg. Os wyt ti’n fodlon wneud hyn, a fyddet gystal â chlicio linc ’ma ac arwyddo yr addewid ar PledgeBank? (Dyw fersiwn Gymraeg PB ddim yn berffaith eto, ond maen nhw’n gweithio arni hi.)
Diolch.
Ypdêt: mae’r addewid wedi llwyddo! Mae trafodaeth ar flog Rhys ynglŷn ag enw’r blog newydd.
43 Places
Dwed wrth y byd beth yw’r 43 Lle ti am ymweld â nhw. Lot o hwyl.
Maen nhw’n agored i ddefnydd o’r Gymraeg hefyd, felly os doi di ar draws lle yng Nghymru gyda enw Saesneg, defnyddia’r botwm “Report a problem with this page” a byddan nhw’n ei newid i’r Gymraeg.
Wel, dyna’r stori ar hyn o bryd.
Smiling under Buses
“Speaking a dead language since 1977″.
Mae’n debyg bod gen i 10 mlynedd ar Rhys fel Cymro, ond mae ganddo fe bron 20 arnaf i fel Cymro Cymraeg. Dim ond ers 1995 ydw i’n siarad yr iaith farw hon.
Mae’r syniad o Gymry Cymraeg sy’n blogio yn Saesneg wedi fy nharo i yn chwithig hyd yn hyn, ond nawr bod y syniad o flogio yn y Gymraeg wedi ennill ei le, a ydy hi’n amser i ni feddwl am flogio yn yr iaith fain hefyd, fel modd cyrraedd y di-Gymraeg. Chmod, yr “80% of the population of Wales who don’t speak Welsh”.
Mae ’na rywbeth yn digwydd yma, ond mae rhan fwya o Mr Joneses y byd ddim yn gwybod beth yw e. (Sori, dw i’n dal i wrando ar ddim byd ond Dylan.)
Beth am blog-ar-y-cyd yn yr iaith fain gan flogwyr Cymraeg? Oes diddordeb?
[Gol. 28/10/05.] Dw i wedi creu addewid PledgeBank ar gyfer hyn, er mwyn profi rhyngwyneb Cymraeg newydd ar PledgeBank, mwy na dim. Byddai’n help fawr, os wyt ti’n ei lofnodi, i nodi unrhyw gwallau iaith, neu anhawsterau eraill, wrth fynd trwy’r broses ar PledgeBank. Diolch yn fawr. Hoffwn i gael hynny’n iawn cyn dechrau defnyddio PledgeBank am bethau mwy difrifol.
Cyngor ar gwpl o bethau
Sut i gael mwy mas o Bloglines. Cwpl o bethau yma do’n i ddim yn gwybod.
Sut i ddenu pobl i ddarllen dy flog. Dylen nhw fod wedi cynnwys “paid blogio mewn iaith mae dim ond hanner miliwn o bobl yn ei deall”, ond does neb yn berffaith.
Mae Mordecai Eisiau Bod yn Awdur
Dw i Eisiau Bod yn Awdur. Un sy’n werth dyfynnu:
Pam datgan hyn ar flog? Wel, mi roedd Chris eisiau bod yn Gymro, ac mi weithiodd yr un tric yn ei achos o. Wn i ddim os oes dyn call sydd ag uchelgais o fod yn awdur Cymraeg.
Felly’r wythnos hon rydw i wedi dechrau ysgrifennu o ddifri, dim fel difyrwaith ond gyda’r nod o gyhoeddi rhywbeth i’r cyhoedd gael ei fwyta a’i dreulio. Ac wedi dechrau darllen hefyd, wrth gwrs, am nad oes modd ysgrifennu yn y Gymraeg heb fod yn darllen yn y Gymraeg. Yn y wythnos diwethaf rydw i wedi darllen Te yn y Grug, y Stafell Ddirgel ac I Fyd sy Well. Does dim modd taflu fyny heb fwyta.
Mae risg o ddatgan hyn, wrth gwrs, achos mi allai’ fethu’n ofnadwy yn fy nhasg. Os yw hynny’n digwydd bydd rhaid i mi ddileu’r cofnod ’ma a honni na ddigwyddodd hyn byth.
Sut wyt ti’n mynd i ddileu hyn ‘te?
Helo blogiadur.com!
Mae Aran wedi adeiladu’r blogiadur i’w Sgwarnogod, sef “blog o’r blogiau”. Fel cyflwyniad i’r sîn blogio yn y Gymraeg, mae’n heb ei ail, gan fod dim angen cofrestru, na deall terminoleg, na dim byd. Yn ôl Aran, mae eisioes wedi talu am ei le, gan fod mwyafrif o’r bobl sy’n defnyddio Sgwarnog.com ddim yn ymwybodol o’r pethau eraill sy’n digwydd ar y we Gymraeg.
I’r rhai sy’n dod yma am y tro cyntaf ar ôl gweld y cofnod hyn ar y Blogiadur – croeso mawr i chi! Gadewch wybod yn y blwch sylwadau pwy ydych chi. Dyn ni’n hoffi darllenwyr newydd rownd fan hyn.
Coelbrennau Flickr
Mae Sanddef (sydd â mwy o flogiau na thi, wedi creu cyfrif Flickr sy’n cynnwys lluniau coelbren y derwyddon. Mae’n defnyddio “bathodyn Flickr” i ddangos un llun ar hap ar ei flog – fel y’i esbonir yma.
Felly, meddyliwch am gwestiwn, ewch i flog Sanddef a rhoi clec ar lun y goeden ar yr ochr dde…
Cw: Beth dylwn i wneud am Natwatch?

Ateb: wyt wedi dy ddal mewn rhwyd. cadw’n dawel ac ystyried dy strategaeth.
Annaearol!

