Tan neithiwr, dim ond enw i fi oedd Morton Feldman, rhywun o’n i wedi darllen amdano yn WIRE sawl gwaith ond erioed wedi dod ar draws ei waith.
Wedyn, wrth chwilio am rywbeth hollol wahanol, ffeindiais i’r blog Different Waters a dyna flogiad am Morton Feldman gyda dolenni i sawl recordiad. Mae rhai o rieni wedi marw, ond mae’r rhai i Ecstasy of the Moment, Three Voices, a’r casgliad gan Ensemble Recherche i gyd yn fyw o hyd. Dyw’r pethau ’ma ddim ar gael (am wn i), ond dw i’n mynd ati i brynu CDs ail-law o Amazon ac ychwanegu mwy at rhestr Nadolig.
Minimalaidd i’r eithaf, mae’n cymryd awr weithiau i Feldman gyrraedd ei gord cyntaf. Nid cerddoriaeth dawns mo hon, oni bai dy fod di wedi dy rewi mewn bloc iâ ers 10,000 o flynyddoedd. Ar ôl deg munud o wrando, o’n i wedi dileu popeth o’r iPod, gan wybod fa fydda i’n gwrando ar lot o roc a rol am sbel.
Dw i’n hollol ddi-glem am y fath ’ma o gerddoriaeth. Beth yw’r enwau eraill (ar wahan i Cage a Reich, dw i’n gwybod am y rheiny) dylwn i chwilio amdanyn nhw ar y blogs Rapidshare?
Gol. MP3 o’r darn “A Very Short Trumpet Piece”, perfformiwyd gan Stephen Altoft.