Gwenno yn wynebu carchar

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Aelod yn wynebu carchar.

Bydd aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos o flaen Ynadon Caerfyrddin am 10am fore Llun (9.1.06) i esbonio paham ei bod yn gwrthod talu costau a iawndal i Radio Sir Gar hyd werth £200.

Mae Gwenno Teifi, 18 oed, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn cyntaf yng Ngholeg y Prifysgol Aberystwyth. Ym mis Ebrill 2005, fe’i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200.

Bydd Gwenno’n dweud wrth y llys nad oes unrhyw fwriad ganddi i dalu lawndal i’r Orsaf Radio a fu’n destun ymchwiliad llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o’r Gymraeg. Hyd yma, mae swyddogion ar ran y llys wedi methu meddiannu unrhyw eiddo gan Gwenno.

Bydd Gwenno’n ychwanegu yn ei datganiad i’r Ynadon “Mae’r Orsaf Radio hon yn dwyn enw’r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o’r Gymraeg yn warthus. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy’n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol.

“Mae’r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i’r Gymraeg yn holl cyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd.

Pob lwc i Gwenno. Safiad dewr iawn.

[Gol. 9 Ionawr 2006] Anhygoel. Oedd rhaid gohiro’r achos yn erbyn Gwenno tan 6 Mawrth gan fod Llys Ynadon Caerfyrddin – blydi Caerfyrddin ddim â’r gallu i glywed achos yn y Gymraeg. Beth yn y byd o’n nhw’n disgwyl, bod aelod Cymdeithas yr Iaith sy’n wynebu carchar ar ôl ymgyrchu dros y Gymraeg yn mynd i ddweud “o, peidiwch poeni, sdim ots ’da fi cael fy achos yn Saesneg”.

Ai Steffan Cravos yw Charles Manson Cymru?

Dw i wedi mwy neu lai penderfynnu i beidio cario ymlaen gyda Pop Peth nawr mod i wedi gweld pa mor haws yw WordPress i’w ddefynddio nag oedd Moveable Type (nid bod MT yn wael, ond gyda blog mawr fel Morfablog, oedd e’n araf tu hwnt, gorfod ail-adeiladu trwy’r amser). Bydda i’n mewnforio’r cofnodion o fan’na i fan hyn yn y man, ond yn y cyfamser…

Slefar a’r Teulu – Sesiwn Huw Stephens

Dyma’r pedwar trac recordiwyd ar gyfer sioe Radio 1 Huw Sephens, wedi’u rhwygo i MP3 gan Dafydd. Wnes i wrando ar y sesiwn am y tro cyntaf amser cinio heddiw, sefyll yn nrws Capel Bethania, Aberteifi, lle dw i’n dysgu, ac o’n i’n gwenu cymaint o’n i’n dechrau poeni y byddai top fy mhen cwympo bant.

Sîn Roc dy Fam-Gu, wir.

Os dwyt ti ddim wedi gweld eisioes, mae cyfweliad â Cravos ar safle Radio 1 hefyd.