Llun Llangrannog a’r Comins Creadigol

Rhag ofn eich bod chi wedi colli’r ddolen iddo reit lawr ar waelod y blog, dyma’r llun o draeth Llangrannog sy bellach yn addurno’r hen flog, yn ei lawn ogoniant:

The annual Llangrannog beachorama / traethorama 2007

Mae’r llun gan papalamour, hen gyswllt i fi ar Flickr – mor hen, dw i ddim yn cofio’n iawn sut des i ar draws ei ffrwd, ond debyg taw trwy’i luniau gwych o Langrannog des i i nabod ei waith. Diolch iddo fe am gyhoeddi ei luniau dan drwydded Comins Creadigol, sy’n golygu bod unrhywun yn gallu eu hail-ddefynddio, ac hyd yn oed eu hail-ficsio nhw, cyhyd ag y rhoddir cydnabyddiaeth i waith gwreiddiol papalamour, a ddim yn wneud arian ma’s o’r gwaith newydd.

Tra bod ni ar y pwnc, mae Carl Morris wedi bod yn meddwl yn uchel am hawlfraint yn diweddar, ac yn y bôn dw i’n cytuno â fe. Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.

Morfablog is for everyone

Dw i wedi cael fy ysbrydoli heddi gan gofnod ar Quixotic Quisling ynglŷn â pheiriant cyfieithu Google, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, bydd yn bosibl, mewn theori, i bobl di-Gymraeg ddeall rhywfaint o’r rwtsh sy’n llenwi’r lle ‘ma.

Fel hyn:

I’ve been inspired by records on Quixotic Quisling today about Google’s translation engine, which now works for the language. This means, for the first time, it will be possible in theory for people di-Gymraeg understand some of rwtsh filling space here.

Ymwadiad: ar ôl i mi sgwennu’r uchod, a’i gyfieithu gyda’r teclyn Google, oedd rhaid i mi fynd yn ôl drosto fe yn gyflym a newid cwpl o eiriau er mwyn cael canlyniad oedd yn wneud synnwyr yn y Saesneg. Newidiais i “blogiad” i “cofnod”, ac ychwanegu “Dw i” i ddechrau’r frawddeg gyntaf, er enghraifft. Os mai hynny yw’r pris am estyn cynulleidfa potensial o ryw hanner miliwn i gwpl o biliwn, dw i’n gallu byw gyda fe.

Hefyd, bydd Maff yn hapus.