Harri’r Fuwch

Erioed wedi gweld ffilm o Henry Cow o’r blaen, felly roedd yn fach o sioc i ffeindio’r clip yma tra’n pori Last.fm – clip o’r band yn improfeiddio o gwmpas cwpl o draciau o’r albwm In Praise of Learning. Nid yn unig ydy’r gerddoriaeth yn wych, ond mae safon y ffilmio yn dda iawn (gwylier yn “safon uchel”). Wedi gweld ambell i lun o Henry Cow ar y llwyfan, a nhwthau i gyd yn eistedd i chwarae, ro’n i wedi dychmygu eu bod nhw’n weddol di-fflach i wylio, ond i’r gwrthwyneb, maen nhw’n wych, trydanol, yn enwedig Chris Cutler, sy’n chwarae’r dryms fel neb arall dw i wedi gweld.

Tan nawr, dw i wedi gwaith mynd heibio i lais Dagmar Krause, ac wedi tueddu aros gyda’r albyms wnaethon nhw hebddi hi, ond mae’r clipiau ’ma wedi fy narbwyllo i ddal ati, ac i rando eto ar y gwaith wnaeth Henry Cow gyda’r gantores arbennig yma.

Gan fod y fideo wedi’i bostio gan Ffrancwr, ac mae’n cynnwys enghraifft prin o Brydeinwr mewn band sy’n boddran cyflwyno caneuon yn iaith ei gynulleidfa, dw i wedi mentro gadael sylw ar YouTube yn Ffrangeg. Byddai Mrs Jones, yr athrawes Ffrangeg yn Ysgol Dinas Brân yn falch iawn ohona i – nes iddi sylwi taw Google Translate sy’n gyfrifol am fy sgiliau ieithyddol anhygoel, nid ei gwersi hi.

[Gol. Newydd sylweddoli bod y clipiau sy lan ar YouTube yn dod o’r DVD yn y set bocs newydd. Well i mi ddechrau cynilo.

Marillion, Grendel, a hynny i gyd

Ar yr un llaw, sut wnaeth band mor anhygoel o anghŵl a derivitive lwyddo llenwi Odeon Hammersmith a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau yn yr 80au cynnar?

Ar y llaw arall, wnes i grio uwchben y sinc wrth wrando ar hon bore ddoe.

Does dim esgus yn y byd, mae e tu hwnt i bob dadl “pleserau euog”. Dw i’n gwybod yn iawn y dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division neu rywbeth, ond y gwir syml yw, yn 1983, yn y myddarffycin Waun, doedd dim byd yn well na hyn:

Nid bod neb yn darllen o hyd, ond oedd gan fy ffrind M.O., yr un wnes i deithio gyda fe i Lundain bell i weld y bois ’ma, Mini 1275 GT gyda’r enw “GRENDEL” yn y striben haul. Mae’n haws ffeindo trivia am y band di-werth yma ar y we nag yw e ffeindio tystiolaeth marwolaeth gwastraffus nghyfaill. Ac er eu bod yn ddi-werth, wrth gymharu â Velvet Undergrounds, Van Morrisioniaid a Datblygiadau’r byd roc byd eang, dw i ddim yn credu y bydd yr un band arall â’r gallu torri nghalon mor gyson â’r band yma.

Docdaïl – Aere Perennius

Ffeindiwyd ar Kohntarkosz, slab o roc asid offerynnol o Ffrainc, circa 1969. Fel mae Seth yn dweud, nid Ffrainc yw’r lle cyntaf sy’n dod i’r cof pan ti’n meddwl am fandiau seicadelig. Wedi’r cwbl, wnaeth y ddau fand “freak” mwya enwog i ddod ohoni – Magma a Gong – yn honni eu bod nhw wedi dod o blanedau eraill, sy ddim yn arwydd ffydd yn y famwlad.

Ond mae hyn yn wych. Dim ond dau sengl cafodd eu recordio gan y band, ac mae’n anodd iawn ffeindio mwy o wybodaeth amdanyn nhw – does ganddyn nhw dudalen ar Wikipedia, hyd yn oed yn y Ffrangeg. Y trac ’ma oedd ar ochr B eu sengl cyntaf.


powered by ODEO

Clawr sengl Docdaïl

Albym y Dydd #5 – Magma – K.A.

Clawr K.A.Ahh, Magma. Ble i ddechrau gyda’r band hwn? Wel, maen nhw’n dod o Ffrainc, sy ddim yn ddechreuad da fel arfer (sori, Sophie). Yn ail, maen nhw’n canu mewn iaith wneud o’r enw Kobaïan sy’n dod o blaned arall ac sydd â mwy o ümläüts na wardrôb Lemmy. Mae bob trac o leia chwarter awr o hyd, llawn llafarganu hysterig sy’n adeiladu at uchafbwyntiau mwyaf intense dw i wedi clywed erioed.

Ac mae Steve Davis yn eu caru.

Dim ond yn y ddwy flynedd diwetha ’ma dw i wedi bod yn gwrando ar Magma, ac mae rhaid cyfadde mod i ddim yn ddigon hardcore i eistedd trwy mwy nag un o’u halbyms ar y tro, ond dw i newydd gael gafael yn eu CD comeback Köhntarkösz Anteria o 2002, ac mae’n hollol, hollol wych. Steil Magma clasurol (ar ôl 20 mlynedd yn anialwch jazz i arweinydd y band, Christian Vander) ond am y tro cyntaf, gyda cynhyrchiad sy ddim yn cuddio un o gryfderau mwya’r band, drymio Vander ei hun, dan mwd Kobaïaidd. Cerddoriaeth grefyddol, gyda’r fantais o wybod ei bod yn sôn am fyd ffantasi.

Wna i ddim postio sampleri o hyn, dim ond tri trac hir sydd, ond cewch chi flas ar eu tudalen MySpace neu ar y Magma Web Radio.

Adolygiadau Ground and Sky a Pitchfork. Erthygl a chyfweliad “byd Magma” ar Perfect Sound Forever.

Magma yn y 1970au cynnar

Magma. Allëhlüïa!

Albym y Dydd #4 – Ougenweide – Ousflug

Clawr OusflogNewydd ddod ar draws Ougenweide gan Ousflug, band prog-gwerinaidd o’r Almaen. Recordiwyd yr albym yn 1979, ond allai fe ddod o unrhyw flwyddyn nôl i ’68. Mae’r offer i gyd yn draddodiadol, gyda’r prif tonau yn cael eu cario gan naill ai’r ffliwt/pibgorn neu (yn anarferol, braidd) y glockenspiel a’r seiloffon. Mae’r geiriau i gyd yn Almaeneg.

Os fuoch chi yn y Dyn Gwyrdd y llynedd ac yn ddigon ffodus i weld Circulus a’u mwynhau, mi fyddi di wrth dy fodd gyda hwn.

Dyma un trac – mae’r holl albym (wedi’i rwygo o’r feinyl) ar gael ar flog Kraut-team:

Ousflog – Basse Danse La Gatta

O.N. Mi o’n nhw’n band pert iawn, hefyd.

Crafu’r blogiau progllyd

Un o’r pethau gorau am roi ffidl y gêm chwarae rôl yn y to, yw bod mwy o amser ’da fi i wrando ar gerddoriaeth. Dros y Sul, wnes i glirio lle ar yr iMac gan ddileu gigabeitiaid o MP3au sy wedi’u llosgi ar CDr, neu sydd ddim yn debyg i gael eu chwarae ‘to. Sy’n golygu bod chwant ’da fi nawr i ffeindio mwy o stwff i lenwi’r lle gwag. Mae’n bosibl bydd hyn yn eitha hir o gofnod…

Continue reading