Ffugio Trydar y Blaid

Des i i wybod trwy Hedd Gwynfor ddoe bod rhywun “wedi hijacio” cyfrif Twitter Plaid Cymru. Ond nid cyfrif swyddogol y Blaid yw’r un mae Hedd yn sôn amdano.

@plaid_cymru – swyddogol

@PlaidCymru – “dychanol”

Dw i ddim yn gwybod pwy sydd tu ôl i’r cyfrif ffug, os taw dyna beth yw e, ond mae’n edrych i fi fel bod rhywun yn chwarae gêm hir iawn. Ac mae wedi bod yn llwyddiannus, chwarae teg. Mae gan y cyfrif ffug 1,300 o ddilynwyr; ddim cymaint â chyfrif swyddogol y Blaid (2,200) ond digon i’w wneud yn edrych yn kosher. Tan y cynladledd diweddar, doedd dim byd yn cael ei bostio ar y cyfrif ond pethau wedi’u awtomeiddio o ffrwdd RSS, ond yn sydyn, wnaeth y cyfrif ddechrau postio ypdêts llawer mwy diddorol.

Fel y gwelwch chi uchod, mae’r cyfrif yn disgrifio ei hunan fel “100% unofficial”, ond am wn i does neb yn gwybod pwy sydd tu ôl iddo fe. Mae’r usual suspect wedi gwadu taw ei waith yw e, ac dydy hwnna byth wedi dweud celwydd yn ei fyw.

Ond o leia mae Taylor yn gwybod taw “spoof account” yw e, sy mwy na lot o aelodau Plaid Cymru. Ymysg y dilynwyr mae sawl aelod amlwg o’r Blaid, gan gynnwys Elin Jones… ac, ym… yr Elin Jones arall!

Curiouser and curiouser…

Dim amser sgwennu mwy nawr, ond bydd yn ddiddorol gweld sut mae hyn yn datblygu.


[Y bore wedyn. Y rheswm dw i’n dweud “dychanol” mewn dyfyniadau uchod, yw bod y cyfrif yn amlwg wedi’i greu i dwyllo dilwynwyr Plaid Cymru, nid dim ond dychanu’r Blaid. Mae rhywun yn y sylwadau (a phobl ar Twitter ddoe) yn gofyn a yw hyn yn anghyfreithlon: nac ydy, diolch byth. Ond fel mae Carl yn dweud, mae’n bendant ei fod e’n torri telerau cyfrifau parodi Twitter:

  • Username: The username should not be the exact name of the subject of the parody, commentary, or fandom; to make it clearer, you should distinguish the account with a qualifier such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Name: The profile name should not list the exact name of the subject without some other distinguishing word, such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Bio: The bio should include a statement to distinguish it from the real identity, such as “This is a parody,” “This is a fan page,” “Parody Account,” “Fan Account,” “Role-playing Account,” or “This is not affiliated with…”
  • Communication with other users: The account should not, through private or public communication with other users, try to deceive or mislead others about your identity. For example, if operating a fan account, do not direct message other users implying you are the actual subject (i.e., person, band, sports team, etc.) of the fan account.

Mae’r cyfrif ffug yn torri bob un o’r rheolau yna, er gwaethaf yr “100% Unofficial”. Mae hyn oll yn gwynto mor gryf o NatWatch, dw i’n mynd braidd yn hiraethus.

Fel mae’r canllawiau yma yn ei wneud yn glir taw dim ond y “person” sy’n cael ei ddynwared, neu rhywun sy’n cynrychioli’r person hwnnw’n gyfreithiol, sydd â’r gallu cwyno i Twitter a chael gwared o’r cyfrif dychan. Felly, peidiwch gwastraffu amser sgwennu at Twitter, sgwennwch at y bobl ym Mhlaid Cymru sydd yn gallu wneud rhywbeth amdano.

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Amseroedd diddorol

Dw i’n dechrau rhannu teimlad Hedd Gwynfor a sawl cenedlaetholwr arall bod rhywbeth od wedi digwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru: maen nhw’n dechrau edrych yn radicalaidd ar gwestiwn yr Iaith. O leia, wrth eu cymharu â’r Blaid Lafur “Gymreig”, sy’n mynd yn fwy ffiaidd tuag at yr iaith a’r sawl sy’n dewis ei defnyddio gyda phob datganiad.

Mewn datganiad o’r wythnos diwetha, eto gan y Toriaid, dwedwyd:

Welsh Conservatives have demanded that Culture Minister Alun Pugh distances himself from “inflammatory” comments made by a government spokesperson about the Welsh language.

The comments came in an article on proposals from the Welsh Language Board for an independent regulator to monitor the rights of Welsh language speakers in the public sector.

In the article the government spokesperson refers to the “death throes” of the Welsh Language Board, and adds: “We are talking about a situation where English speakers have rights too. Turkeys don’t vote for Christmas but no-one voted for the language board either.”

Iawn, dw i’n gwybod bod hyn yn beth hurt i’w ddweud, ac mae llafarydd siwr o fod wedi difaru, ond mae’n dangos pa mor bell yw Plaid Lafur o’r pwynt o wneud Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol – maen nhw’n dal i weld hyn fel cyfaddawd i siaradwyr Cymraeg yn lle y cam cynta tuag at ddatwneud effeithiau canrifoedd o anghyfiawnder yng Nghymru. Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd Llafur yn ymateb i’r her newydd o ddefnyddio’r iaith fel ffordd o ymosod ar y Toriaid a Phlaid Cymru.

Difyr iawn.

Leanne Wood, Lorraine Barrett a Martin Luther King

Dw i’n Leanne Wood.

‘I fully support calls by Cymdeithas yr Iaith – and others – for a new Welsh Language Act that will help ensure the language’s future.

‘There is a long history of bringing about change through non-violent direct action, from suffragettes to the civil rights movement.’

Mae dadl Lorraine Barrett yn colli’r pwynt gan, www, can mil milltir.

‘It is astonishing that Plaid Cymru regards the struggle of black Americans as equal to the vandalism of public property in Cardiff.’

Felly, mae’n iawn ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder, ond dim ond os wyt ti’n groenddu, ac yn byw yn America, yn y 1960au. Os wyt ti’n ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain, wyt ti’n dim byd ond troseddwr.

Mewn geiriau eraill, mae agwedd y Blaid Lafur tuag at ymgyrchwyr hawliau sifil Cymry Cymraeg yn gwmws yr un peth ag oedd agwedd gwleidyddion Taleithiau’r De yn ystod ymgyrchoedd Hawliau Sifil tuag at y rhai wnaeth ymgyrchu dros hawliau sifil pobl groenddu America. Maen nhw’n hyd yn oed yn defnyddio’r papurau newydd yn yr un ffordd.

Whites tried to end the boycott in every way possible. One often-used method was to try to divide the black community. [..]

On Sunday morning Montgomery newspapers were going to print the news that the boycott was over and the city’s blacks were going to believe it. [..]

Next, whites turned to the law. On February 21, 89 blacks were indicted under an old law prohibiting boycotts. [Martin Luther] King was the first defendant to be tried. As press from around the nation looked on, King was ordered to pay $500 plus $500 in court costs or spend 386 days in the state penitentiary.

Oes, mae ’na wahaniaethau rhwng y ddwy fudiad. Ond yn y bôn, mae mudiadau hawliau sifil sy’n gweithredu gan dorri’r cyfraith wedi wynebu’r un fath o ymateb gan yr awdurdodau, yn America yn y 1960au ac yng Nghymru yn y 2000au. “Anwybyddu nhw, bychanu nhw, paentio nhw yn droseddwyr, ond unwaith ei fod yn amlwg does dim byd yn mynd i stopio nhw, rhoi iddyn nhw peth o’r hawliau sifil maent yn gofyn amdanynt.”

Paul Flynn

Diolch i Chris Castle am ddod â hyn i’n sylw: cyfieithiad o erthygl Barn gan Paul Flynn o 2001.

To find the Welsh nation, we must search in the language. That’s the abode where the centuries of the wisdom, humour and ambitions of the peoples of Wales live.

There is an embryo body in the Welsh Labour Party dedicated to the memory of Lord Cledwyn that is slowly emerging. Sadly most of the party leadership is content to stand aside and collect the electoral dividend of Plaid Cymru’s divisions.

The warning on the threat to Welsh should be heeded by all parties. Ireland bitterly regrets that their tardy action to support their language came only when it was close to extinction.

Drueni nad yw’r wreiddiol ar gael ar y we. Tybed oes cynllun i roi hen erthyglau Barn arlein? Trysor i’r genedl, ac yn y blaen.

Cymdeithas D.J.

Cynhadledd Cymdeithas D.J. yng Nghaerdydd dydd Gwener.

Mikel Irujo a fydd yn annerch Cymdeithas DJ yn ei chyfarfod nesaf. Mikel Irujo a fu’n gyfrifol am lunio polisïau ieithyddol diweddar llywodraeth Gwlad y Basg ac fe fydd yn trafod sut y mae codi heniaith yn ei hôl.

Cadeirydd y cyfarfod fydd Robert Hughes. Ef oedd ymgeisydd y Blaid ym Merthyr Tudful yn yr Etholiad Cyffredinol, lle y cynyddodd canran pleidlais y Blaid yn sylweddol iawn.

Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Dewi Sant (ardal 1, 5ed llawr) yng Nghaerdydd am 5.00 ddydd Gwener 21 Medi.

Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.