Mae Phoo Action yn dod

Braf clywed gan The Beat bod BBC Three wedi wneud rhaglen gwerth ei gwylio, am unwaith. Sawl gwaith maen nhw’n ymddangos pennodau Two Pints a’r ffycin Hustle ’na mewn wythnos?

Ta beth, Phoo Action yw enw’r bastad, addasiad o gyfres wnaeth Jamie Hewlett i’r Face nôl yn y dydd. Ro’n i’n ffan mawr stwff Hewlett pan oedd yn wneud Tank Girl (sy wedi’i hail-lansio, gydag artist newydd, dw i’n gweld), ond dyw’r Gorillaz erioed wedi apelio ata i am ryw reswm – mae ’na rywbeth am Damon Albarn, ond oes? – felly dw i ddim wedi meddwl am Hewlett ers blynydde.

Ond mae hyn yn edrych yn wych. Fath o groesiad rhwng y Prisoner, Kill Bill, a’r Dick Emery Show. Edrych ymlaen.

[Gol.] Duh. Bydd sioe arno nos Fawrth, 12fed Chwefror, am 9.00 yh.