Gwydr

Sôn am y bardd lawr stâr, dyma soned o’i heiddo na chafodd ei defnyddio yn ymryson Steddfod Llambed noson o’r blaen. Dw i’n hoff iawn ohoni.

Gwydr

Mor agos at ei fam fu’i chyw erioed
A theimlent fel dau enaid hoff cytûn:
Pan brifiai’r crwt a phrysur ddod i oed
Yr un mor agos oeddent, fam a dyn.

Pan ddaeth yn bryd, hedfanai’n bell o’r nyth
Ond dôi yn ôl heb newid dim o’i gân;
Er hyn, fe welai’r fam y gwydr yn syth
A’r sglein fu rhyngddi hi a’i chyw rhy lân.

Ni fynnai guddio’i chalon a’i dyheu
Am gael y gwir yn lle rhyw eiriau gau:
Fe fynnai dorri’r gwydr a’i lwyr ddileu
Gan guro’i ‘denydd ar y cwarel brau.

Pan dorrai’r gwydr, heb sglein y gwelai’i chyw
Ond llarpiai’r teilchion g’lonnau’r ddau i’r byw.

Philippa Gibson