Diolch Claire ac Angharad, y Mrs Morrisiaid!

Diolch i fy annwyl chwaer, Claire Morris, ac i Angharad Morris a’i theulu, am ddod â’r cyfanswm lan i $986.56, sef dros £550.

Mae Claire yn disgwyl ei babi cynta menw rhyw fis, a dyn ni i gyd yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwr y genhedlaeth nesa o Dafisiaid (er taw Morris fydd enw’r baban).

Mae Angharad yn hen ffrind o’r teulu, ac mae hi â’i theulu hi wedi byw dros y stryd o fy rhieni i ers 1966. Cymraes Gymraeg ydyw, wrth reswm, ac ym mharti priodas fy chwaer a’i phriod, Derek, fe wnes i siarad Cymraeg ag “Anti Angharad” am y tro cyntaf erioed. Profiad difyr iawn.

Diolch yn fawr iawn i’r ddwy ohonoch chi.

Nôl o’r gogledd

Ces i amser wych lan yn y gogledd dros y penwythnos. Prif reswm am fynd oedd mynychu priodas Aran a Catrin, a oedd priodas heb ei hail oedd hi hefyd. Diolch yn fawr iddyn nhw am fy ngwahodd, ac am drefnu diwrnod mor bobdigedig ar ein cyfer. Rhaid i mi ymddirheuro am (1) adael mor anrocarol o gynnar er mwyn gweld fy mam fach a (2) fod mor esgeulus tynnu lluniau. Dw i’n cymryd y bydd digon o luniau gan bobl sy’n gwybod beth maent yn wenud, felly byddai fy ymdrechion pitw innau wedi edrych yn waeth nag arfer (ond mae gen i un da o Mabon ap a’i wyneb arbennig, felly dw i ddim yn teimlo’n rhy ddrwg am hyn).

Rhywbeth arall neis a ddigwyddodd dros y Sul oedd cael ffurflen sbonsro yn ôl gan fy mam, gyda gwerth £139 o addawon arni, sy’n dod â’m cyfanswm am y Blogathon at $538. (Tipyn bach mwy na hynny os ydw i’n iawn gan feddwl dydy un o’m noddwyr hael ddim wedi boddran conferto’r addawiad i ddoleri *peswch*Hedd*peswch*.)

Mae hyn yn wych, a gobeithio y bydd modd codi yn uwch byth erbyn i’r ‘Thon ddod i ben, ddydd Sul 7fed Awst.

Rhaid i mi siapo nawr, a dechrau sgwennu at y papurau ac ati.

Diwrnod Mawr

Heddi, yn y bore, daethon ni i gytundeb anffurfiol â theulu Cymraeg lleol sydd â diddordeb prynu ein tŷ, unwaith bod rhywle ’da ni i symud iddo fe.

Wedyn, y prynhawn ’ma, fe lansiais i Clwb Cefnogwyr Maes-e, fy ymdrech hir ddisgwyledig i wneud bywoliaeth ma’s o’r maes. Dw i wedi bod yn meddwl am hyn ers blwyddyn o leia, ond nawr yw’r amser i fi stopo wneud esgusodion, a gweithio ar bethau o ddifri.

Clwb Cefnogwyr y Maes?

Newydd grybwyll syniad ar maes-e am Glwb Cefnogwyr, sef cynllun i adael i bobl gyda gormod o arian (defnyddwyr maes-e) rhoi tipyn bach ohono fe i rywun sy heb un dimau coch (fi).

Mae rhaid wneud rhywbeth fel hyn. Pan dechreuais i’r maes do’n i erioed wedi meddwl y byddai fe mor llwyddiannus, ond gyda’r llwyddiant yna daeth llawer mwy o waith. Dw i’n dal i fwynhau, ar y cyfan, ond weithiau, erbyn i mi wneud popeth mae rhaid i mi wneud (gan gynnwys rhedeg maes-e, er bod hynny’n is ar y rhestr nag oedd e cyn salwch Dad) does gen i ddim amser i wneud dim byd arall. Blwyddyn yn ôl, ro’n i’n gwylio DVD bron bob dydd; erbyn hyn dw i’n lwcus os oes digon o amser yn y dydd i wylio un mewn wythnos, ond yn y gwyliau.

Yn y pendraw, y dewis bydd rhwng wneud arian mas o maes-e (a thorri i lawr ar fy oriau dysgu) ar y naill llaw, a gadael i maes-e fynd i’r wal (neu ei werthu) ar y llaw arall.

Rhy optimistaidd?

Weithiau, mae iTunes yn *gwybod*

Newydd roi iTunes ar “shuffle”, a beth sy’n dod yn gynta? “Island”, Claire Hamill. Ers i mi bostio hynny nˆl ym mis Tachwedd dw i wedi prynu’r LP ar eBay, a dw i bron yn sicr mod i wedi byw gyda merch a oedd yn dwli ar y record, ond dw i dal ddim yn siwr yn siwr pa ferch oedd honna.

Diawl, mae hynny yn wneud i fi swnio yn ddiddorol. Wna i ei adael fe.

Surf’s Up

Dw i’n siwr erbyn hyn bod pawb wedi cael digon ohona i mynd ymlaen ac ymlaen am Van der Graaf Generator, ond mae ail hanner y cyfweliad â Peter Hammill sy newydd ei bostio ar y safle yn un o’r pethau mwya calonog dw i wedi clywed gan gerddor, ac yn enghraifft o’r teip oedd ym meddwl Bill Hicks pan dwedodd e play from your fucking heart:

Right now I want to walk towards the sea,
hoping you’re still in step with me.
All joking apart let’s play it from the heart
because at last even the Silver Surfer agrees:
the wave you brave
rides on a deeper complexity.

Ah, come on: surf’s up!

Dw i’n sownd rhywle rhwng calon sy’n torri ac un sy’n gorlawn, dw i ddim yn gwybod ble ydw i ond mod i ddim wedi bod ’ma o’r blaen, ac er mod i’n gallu clywed y mô o fan hyn dw i ddim yn gwybod beth sy’n reidio’r ton nesa. Does dim byd newydd yn y peth sy’n digwydd i fi, dim byd annisgwyl ond yr amseri. Collodd fy nhad ei dad yntau pan oedd y ddau ohonyn nhw yn 20 mlynedd ifancach na’r pâr ohonon ni, ond mae hyn dal yn rhy gynnar.

Diwrnodau bishi

Diwrnod braidd yn afreal ddoe, gan i mi fynd i angladd Gwynfor yn Aberystwyth ac wedyn gyrru lawr i Gaerdydd i weld Loudon Wainwright III yn Neuadd Dewi Sant. Sôn am emotional rollercoasters.

Profiad anhygoel oedd cael bod yn bresennol yn yr angladd. Dw i’n siwr bod llawer yn gallu dweud yr un peth, ond Gwynfor oedd y dyn wnaeth gynnau fy niddordeb yn hanes Cymru, ac heb y diddordeb yna mae’n debyg na fyddwn i wedi llwyddo dysgu’r iaith, a fyddwn i ddim yn sgwennu hyn y munud hwn.

Yr unig reswm es i i’r gig yng Nghaerdydd oedd wnaeth ffrind gynnig tocyn am ddim ’swn i’n fodlon gyrru, ac er mod i ddim ffan mawr Wainwright, oedd hyn yn ddigon da i mi. Ces i fy siomi ar yr ochr orau gan y sioe, a’r syrpreis mwya yw bod y stwff newydd cystal â’r hen. Cewch glywed rhai o’r traciau ar yr albym newydd ar y sesiwn radio hwn.

A phwy ddylwn i weld wrth fynd lan escalator hir iawn Neuadd Dewi Sant ond yr Al Mawr.

Colli diddordeb yn yr etholiad yn barod

Mae trio cymedroli ar maes-e wedi wneud i fi golli bob diddordeb mewn gwleidyddiaeth pleidiol.

Diolch yn fawr i David R. Edwards, am ei gyfraniad i’r Tu Chwith newydd:

Mae cael Cymry rhydd yn fwy pwysig na chael Cymru rydd.

Dw i wedi ail-gydio yn Carl Jung yn diweddar, ac mae Walden nôl ar fwrdd-ochr-y-gwely.

Eisiau cwsg, rhy flinedig. Dysgu Cymraeg o 9.30 y bore tan 8.45 y nos, paratoi dosbarthiadau wythnos nesa a marcio gwaith cartre yn yr amser rhwng y dosbarthiadau, gan fy mod i’n mynd i’r gogledd dros y Sul i weld fy nhad. Bob tro dw i’n mynd i maes-e mae mwy o’r ebychnodiadau pinc newydd sy’n dweud wrtha i bod aelodau Plaid Cymru ac aelodau y Blaid Geidwadol yn defnyddio fy ngwefan i sarhau ei gilydd, ac mae hyn yn rhywbeth i’w wneud â fi, er mod i ddim yn aelod y naill plaid neu’r llall.

Ond mae mwsog yn dda.

“Spore” a’r byd nesa

Ffordd newydd o feddwl am gemau. Will Wright (SimCity, The Sims) yn sôn am Spore, ei gêm nesa. Y peth sy’n newydd am hyn yw ei fod yn dibynnu ar y chwaraewyr i greu cynnwys y gêm. Fel gemau eraill Wright, mae’n fwy o “degan” na “gêm” – does dim llinell enill, mae’r gêm yn chwarae ei hunan mewn ffordd.

Pethau fel hyn sy’n wneud i fi ddifaru nad yw cloning yn bosibl eto. Mae rhan ohona i byddai’n gwbl hapus i fwy mewn byd hollol artifisial fel hyn, ond rhan arall ohona i sy moyn byw yn y coed. Noeth.

A’r unig corff sy ’da fi yn gorfod byw rhywle rhwng y ddau.

O’r gorau, dyw e ddim yn Hamlet, ond mae yn drasiedi bach, yn ei ffordd ei hun.

[trwy wonderland]

Magu Plant yn Ddwyieithog

Language skills legacy, erthygl am Suzanne Barron-Hauwaert, ieithydd sy’n hybu, ac yn fwy pwysig, yn defnyddio gyda ei phlant ei hun, y dull OPOL (un rhiant, un iaith) o fagu plant i fod yn ddwyieithog. Un o’r rhesymau a’i roddir am bwysigrwydd wneud yr ymdrech yw i gadw’r cysylltiad â teidiau a neiniau sy ddim yn siarad un o ieithoedd y tŵ. Un o’r pethau mwya trist dw i wedi dod ar ei draws wrth ymchwilio fy achau oedd y dalen o gyfrifiad 1891 (dw i’n meddwl) lle oedd tri chenedlaeth o Daviesiaid yn byw dan yr un to, y taid yn uniaith Gymraeg, a rhai o’r wyrion yn uniaith Saesneg. Cymro oedd y tad, ond di-Gymraeg oedd ei wraig, fy hen, hen nain.

Dychmyga bod yn blentyn a byw gyda hen ddyn sy ddim yn siarad dy iaith di, neu fod yr hen ddyn, a methu siarad â dy ŵyr. Drueni nad oedd neb fel Barron-Hauwaert yn Froncysyllte yn niwedd y 19eg ganrif.

Mae hi hefyd wedi cyhoeddi papur ar fagu plant â thair iaith

BT Broadband yn fy mreuddwydion

Fel dw i wedi sôn o’r blaen, yma, ar y maes, a jyst nawr ar flog Rhys Wynne, dw i wedi cael problemau gyda fy nghysylltiad band llydan BT ers y storom ym mis Medi a ddaeth â’n lein ffôn i lawr, a dinistriodd fy hen iBook. Y broblem yn fras yw mod i ddim yn gallu aros ar lein am fwy na rhyw 5 munud ar y pryd, y rhan fwya o’r amser. Dw i’n dweud “y rhan fwya” achos weithiau, ond ddim yn aml, dw i’n gallu cysylltu ac aros ar lein, am oriau heb broblem.

Dw i wedi cael ymweliadau gan ddau beiriannydd BT, sy’n methu dweud beth yn uion sy’n achosi’r broblem, ac wrth gwrs, ar y ddau achlysur pan oedden nhw yma, doedd dim problem. Dw i wedi dod at y pwynt pan dw i’n dechrau amau taw conspiracy yw’r holl beth, a mod i wedi gwahardd rhywun o’r maes sydd â ffrindiau yn BT, a dyna eu ffordd o fy nhalu fi yn ôl.

Dim ond hanner jocan ydw i.

Mae gen i apwyntiad arall gyda pheiriannydd ddydd Mercher sy’n dod, neu’n hytrach fy mhartner bydd yr un sy’n gorfod aros yn y tŷ trwy’r dydd y tro ’ma, achos bydda i lan yn y gogledd ymweld â fy nhad yn yr ysbyty.

Felly, dyma fi, mynd mas o fy mhen poeni am yr hen ddyn, ond ar yr un pryd, mynd lan y wal gyda BT, sy wedi methu trwshio hyn ers mis ffycin Hydref. Bob tro dw i’n ffonio i reportio’r gwall, eto, mae rhaid i mi ddechrau o’r dechrau gan esbonio natur y gwall. Dw i erioed wedi siarad â’r un person ddwywaith, naci gweld yr un peiriannydd. Synnwn yn fawr ’sai pwy bynnag sy’n dod ddydd Mercher yn newydd ‘to, a bydd e/hi’n wneud yr un profion wnaeth Steve Un a Steve Dau pan o’n nhw yma.

Ond nid fi yw’r unig un. Mae hyn yn broblem sy wedi digwydd i sawl person o’r blaen.

Dw i jyst ddim yn gwybod beth i’w wneud. Ydw i jyst yn wastraffu fy amser? Dw i wedi cyrraedd y pwynt lle os dydy BT ddim yn gallu sorto fe mas, bydda i’n ystyried mynd yn ôl at ddeilio-i-fyny. Byddai’n well ’da fi dalu am lein ychwaengol a mynd yn ôl at 56K, os taw dyna’r unig ffordd agored i mi gael cysylltiad dibynadwy i’r we.

Gwerthfawrogwn unrhyw awgrymiadau eraill. Dw i ar ben fy nhenyn yma.

Posted in Heb gategori | Tagged

Yn ei absenoldeb

Wedi treulio’r penwythnos gyda fy mam yn Y Waun, ymweld â Dad cwpl o weithiau yng Nghanolfan Walton. Mae e’n dod yn ôl at ei hun ar ôl llawdriniaeth dydd Mawrth diwetha; gobeithio caiff ei symud i Wrecsam heddi neu fory.

Diolch yn fawr i bawb sy wedi gadael negeseuon o gefnogaeth yma ac ar y maes. Mae pobl wedi bod yn anhygoel; dw i’n gwybod bod hyn yn ystrydeb, ond mewn amseroedd anodd fel hyn ti’n ffeindio mas pa mor lwcus wyt ti. Continue reading

Posted in Heb gategori | Tagged