Ro’n i’n mynd i roi hyn yn y golofn ar y dde, ond dyw e ddim yn ffito. Ac mae’n bach yn drist.
Fy Mlwyddyn Poker
Dw i wedi dechrau blog bach arall i gadw record o fy mlwyddyn poker. Dw i’n ffeindio ei fod e o help i fi i sgwennu pwt am bob gêm dw i’n chwarae ynddi, yn ogystal â chadw trac o beth dw i’n ennill a cholli, ond dw i ddim yn gweld y byddai hyn o ddiddordeb i’r rhan fwya o ddarllenwyr Morfablog, felly y penderfyniad i’w gadw ar wahan.
Y band cyflymaf ar bedair coes ar hugain
Wythnos diwetha bues i yng Nghaerdydd am barti penblwydd 20 mlynedd Railroad Bill, y band sgiffl mwy gweithgar yn y De. Un o uchafbwyntiau’r noson arbennig honno oedd gweld y ffilm Railroad Bill: The True Story – sydd nawr ar gael i lawrlwytho o’u gwefan.

Yee-haw.
Dau beth do’n i ddim yn gwybod
Dw i’n byw hanner mywyd ym Mac OS X, a dwy o’r rhaglenni sy wastad ar agor ar fy nesg yw’r Llyfr Cyfeiriadau ac iCal. Mae’r ddwy wedi dod, yn ara deg, i gymryd lle fy llyfr cyfeiriad a dyddiadur “go iawn”, gan ei fod yn hawdd iawn i drosglwyddo eu cynnwys i’r iPod, sy wastad gyda fi tu allan o’r tŷ.
Ond mae’n debyg mod i ddim yn cymryd digon o sylw o beth mae rhaglenni fel hyn yn gallu wneud.
Ddoe, sylweddolais i am y tro cyntaf, diolch i Merlin Mann, bod hi’n bosibl rhoi calendrau gwahanol iCal mewn “grwpiau”. O leia, o edrych trwy sylwadau ar flog Merlin, nid fi yw’r unig un i beidio gwybod hyn. Defnyddiol iawn.
Wedyn, y bore ’ma, dw i’n sylwi bod opsiwn yn y Llyfr Cyfeiriadau i Ddangos Map o unrhyw cyfeiriad. ⌘+clec ar y cyfeiriad a bant â chi.
Wedyn, sylweddolais i mod i ddim wedi newid fy nghyfeiriad fy hun yn y Llyfr Cyfeiriadau.
[Gol.] Peth arall – ddim wedi sylwi o’r blaen ei fod yn bosibl ychwanegu maesydd fel “spouse”, “children” ac yn y blaen i gerdyn yn y Llyfr Cyfeiriadau – mae hyn yn handi iawn i fi, sy byth yn cofio pethau fel hyn am ddysgwyr. Drueni bod dim modd cysylltu cardiau partneriaid – wedi dweud hynny, mae’n siwr o fod yn hollol bosibl, dim ond taw fi yw’r afalwr ola yn y byd i’w ddanganfod.
Pedwar Peth
Wel, wel, dim ond munudau ar ôl i mi sôn am Cat, dw i’n sylwi mod i wedi cael fy nhagio ganddi.
Mouseover for translations, Cat.
Pedwar swydd dw i wedi’u cael
Garddwr Tirwedd Llyfrgwerthwr Gwas fferm organig (y fferm, nid y gwas) Sensor Ffasgaidd ar maes-e.com
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
- Two Lane Blacktop
- Dazed and Confused
- Withnail and I
- ET
Pedwar lle dw i ewdi byw ynddyn nhw
Y Waun, Wrecsam Caerdydd Llangrannog, Ceredigion Pontgarreg, Ceredigion
Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
Nantucket, UDA Connacht, Iwerddon Yr Ynys Hir, Yr Alban Steddfod
Pedwar o’m hoff brydau bwyd
Cawl Dail Poethion Wyau Môn Miod Ambarél Bwgan Fflapjacs Philippa
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn
Castell Dinas Brân Y Pentre Arms, chwarae poker Tŷ Bwyta’r Cnapan, Tydraeth Nantucket
Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
But Soon My Time Is Over
Peter Hammill: mae Van der Graaf wedi dod i’w ben, siwr o fod.
Roedd 2005 yn flwyddyn anodd iawn, mewn mwy nag un ffordd. Roedd colli Dad, ar ôl ei wylio diodde am 7 mis yn isafbwynt, yn ddigon amlwg. Efallai nad oedd yn syniad arbennig o dda i benderfynnu symud tŷ yn yr un flwyddyn, ond yn lwcus iawn mae hynny wedi mynd yn dda a rydym yn hapus iawn yn y lle newydd. Trwy bopeth sy wedi mynd ymlaen eleni y llynedd dw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael cefnogaeth Philippa, ein ffrindiau yma ac acw, a’r gymuned oll, fan hyn yn y Morfa, a fan’co yn y byd go iawn arall.
Yr unig constant arall trwy’r flwyddyn ’ma yw Van der Graaf. Dw i wedi bod yn gwrando arnyn nhw bob dydd, bron heb eithriad, ac wedi dod i nabod pob gair ar bob albym, gan gynnwys y rhai do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw ers talwm. Mi es i i’w gweld nhw am y tro cyntaf yn Lerpwl, deudydd ar ôl angladd fy nhad, y profiad cerddorol mwya emosiynol erioed. Gwelais i nhw dairgwaith ar y daith fach ola yn Lloegr a’r Alban rhyw chwe wythnos yn ôl, o fewn deudydd o symud i mewn i Fro Delyn.
Does dim byd fel bod yn ffan band fel Van der Graaf – mae e fel cael rhannu cyfrinach am Maen yr Athronydd. Does dim pwynt trial esbonio – os dydy’r band ddim yn dy gyffwrdd, dwyt ti ddim yn mynd i gael dy ddarbwyllo gan ddim byd alla i ddweud. Dw i ddim yn teimlo yn gyffrous iawn am yr Arctic Monkeys (dweder), ond ’swn i’n 19 eleni, ac nid 39, fyddwn i ’na, gobeithio, bodio o gwmpas Prydain i’w gweld bob cyfle oedd ’da fi.
‘Na ni, newyddion trist i ddechrau blwyddyn newydd, ond nid newyddion drwg, os gwelwch chi be’ sy ’da fi. Bydd CD newydd gan Hammill yn y man, ac mae CD o’r gig Royal Festival Hall ac, o bosib, DVD o’r un yn Leverkusen i edrych ymlaen atyn nhw.
Diolch yn fawr iawn i Hugh, Guy, Peter a David am amseri’ch aduniad i’r dim.
Ffowc o ddiwrnod
Diwrnod llawn heddi. Dysgu ar Sadwrn Siarad Llambed, dod i nabod criw newydd o ddysgwyr, cael lot o sbort gyda nhw.
Gyrru nôl i weld hanner cyntaf y g&emcirc;m fawr, ond yn lwcus iawn gorfod colli’r ail hanner, gan ein bod ni wedi gwirfoddoli helpu cyfeirio traffig yn y pentre ar gyfer noson tân gwyllt. Ond ddim yn gallu aros i weld llawer o’r rocedi, ganei bod hi’n noson cyfarfod Cymdeithas Ceredigion, ac mae Rocet o Aberystwyth wedi’i saethu lawr yr A487 atom ni, i ddarllen o’i lyfr newydd a thrafod ei brofiadau teithio yn Affrica. Noson ddifyr iawn.
Wedi blino racs, ond dyma’r fath diwrnodau mae dyn yn cofio. GOrmod o’m dyddiau i wedi’u treulio o flaen y sgrîn bach yma, a dw i ddim yn difarru hynny chwaith; jyst meddwl ydw i efallai bod ’na bethau eraill alla i wneud gyda fy amser.
Y newyddion diweddaraf ar y symud tŵ, i’r rhai sy’n dilyn y hanes gartre, yw ei bod yn bosibl y byddwn ni’n gallu symud dydd Mercher. Os ewn ni i’r ben gyda’r gwaith symud ar y dydd hwnna, alla i fynd i Gateshead dydd Gwener a gweld bob un o’r gigs Van der Graaf. Croeswch eich bysedd, gyfeillion annwyl.
Llongyfarchiadau, Catrin a Pob!
Croeso, Finn Bach!
Am hanner awr wedi wyth heno, ganwyd Finlay Carter Morris, mab cyntaf fy chwaer Claire a’i gŵr Derek, a fy nai cyntaf innau.
Discardia
Un o’r Adran Gydamseredd: y bore ’ma dyn ni wedi cael cyfres o ymweliadau gan bobl a welodd hysbyseb Philippa yn y Teifi Seid a ddwedodd “AM DDIM: hen rwtsh tydynnol.” Hen ffenestri wedi’i torri, olwynion beic, tarps, darnau bach o fetal rhwdlyd, mae gennym ni bopeth.
Wel, oedd gennym.
Anhygoel beth bydd pobl yn ffeindio yn ddefnyddiol.
Ta beth, dyma fi ddod at y Mac, ac i ffrwd Beca yn Bloglines (lle ffeindiais i LibraryThing neithiwr), a beth yw’r linc nesa ond un?
Discardia – gŵyl newydd i bobl gyda gormod o stwff.
Discardia is celebrated by getting rid of stuff and ideas you no longer need. It’s about letting go, abdicating from obligation and guilt, being true to the self you are now. Discardia is the time to get rid of things that no longer add value to your life, shed bad habits, let go of emotional baggage and generally lighten your load.
Mae gan metagrrl gofnod arall ar gael gwared â stwff sy’n hefyd werth ei ddarllen.
Pam “cydamseredd”. Achos mae Discardia yn ŵyl symudol:
The exact days vary. It takes place in the time between the Solstices & Equinoxes and their following new moons. Sometimes it’s short and sometimes it’s long.
Ond yn ôl y calendr hwn, mae Discardia nesa yn dechrau… heddiw.
Amser i mi fynd i Oxfam.
N.I.C.D.A.F.I.S.
Dw i ddim yn wneud pethau fel hyn yn aml, ond weithiau mae pethau jyst yn rhy berffaith i’w hanwybyddu:
Chwerthin ar bennau Cristnogion?
Er mod i’n ffeindio cwlt y FSM mor ddoniol â’r blogiwr nesa, mae rhan ohonof sy’n dal i feddwl ei fod yn bwysig cael mwy na gwawd yn dy gwpwrdd arfau wrth ddadlau â phobl sy’n credu yn gryf mewn syniad fel cynllunio deallus, ta waeth pa mor wirion ti’n ffeindio eu syniadau. Un o’r pethau rhyfeddaf am fod yn rhan o faes-e yw fy mod i wedi dod yn ffrindiau gyda phobl sydd â chredoau Cristnogol dw i’n methu derbyn, er mod i’n parchu y bobl eu hunain. Beth sy’n tueddu digwydd yw fy mod i’n osgoi trafod y pynciau.
Ond dw i’n gweld bod y pynciau ’ma yn mynd i ddod yn fwy amlwg byth, gan ein bod ni’n byw mewn amseroedd mor beryglus. (Hwyl fawr, New Orleans.) Bydd osgoi’r trafodaeth ddim yn ddigon.
An open letter to the owner of Nat Watch
Nat Watch :: Will the real Nic Dafis please stand up?.
A few weeks ago, we asked our readers to help us identify Nic Dafis. We wondered which branch of the Nats he was a member of, and we also wanted to know if he was one of their spokespersons on energy, these questions remain unanswered.
Let’s see if we can make it a bit easier for you. This might take a while.
Mynd am Dro gyda GoogleMaps
Teclyn bach arall sy’n defnyddio GoogleMaps i olrhain unrhyw daith cerdded, neu beth bynnag.
Dyma rhai o’m teithiau arferol i.
Lluniau Llanberis
$1160!
Neges arall gan Mam i ddweud bod ei chwaer hi, fy Modryb Helen, wedi casglu £50/$89 o’r criw yn St Martins, sy’n dod â’r cyfanswm i $1160.56.
Amgueddfa Lechi Cymru
Dydd Sul, ie wythnos yn ôl, buon ni yn Amgueddfa Lechi Cymru. Roedd maes yr eisteddfod yn fwd i gyd, doedd dim lot yn digwydd a oedd o ddiddordeb i ni, felly bant â ni i Lanberis. Mae’r amgueddfa yn lle arbennig iawn. Cwpl o ffotos i’w ddilyn…
9 Peth Ddigwyddodd ddoe
..sy ddim wedi digwydd o’r blaen.
- Es i i briodas yn y Mansion House, Bryste
- Gyrrais i dros Bont Grog Clifton
- Cwrddais i ag Unoliaethwr Wlster, a chael sgwrs digon cyfeillgar gyda fe
- Gwrandawais i ar Gadeirio’r Bardd ar radio car, yn ystod y neithior
- Canais i ‘All You Need Is Love’ yn y briodas
- A ‘She’s The One’ gan Robbie Williams
- Gwelais i’r lle ble gafodd fy nghariad ei geni
- Siaradais i Gymraeg gyda rhywun sy heb ddefnyddio’r iaith mewn 8 mlynedd
- Cysgais i yn nhŷ chwaer fy nghariad
Bwytais i fwyar duon cyntaf y flwyddyn hefyd, ond dyw hynny ddim y tro cynta i mi wneud hynny, dim ond y tro cynta eleni.
Mae’n 4.00 o’r gloch yn y bore. Help.
Datguddiad Gogleddol
The Alaska Blog – llawn stwff diddorol am y talaith mwya yn yr UDA, ac un o’r rhai hoffwn i ymweld â fe.
Angen Eglurder
Breuddwydio ag eglurder (lucid dreaming). Dyma rywbeth dw i wedi bod yn meddwl amdano ers tro’r byd, a dw i wedi dechrau ar y gwaith hyfforddi ond wedyn methu cadw at y disgyblaeth anghenrheidiol:
Getting plenty of sleep is the first step to good dream recall.
O wel. Rhywbryd arall, efallai.
Beth ffeindiais i’r tro diwetha i mi wneud ymdrech i gofio fy mreuddwydion oedd ar ôl sbel eitha byr, ro’n i’n cofio mwy a mwy, a gweld mwyfwy o arwyddocâd yn y pethau o’n i’n eu cofio. Cafodd hyn effaith eitha cryf ar y pryd, pethau positif ar y cyfan. Gwerth trial ‘to, dw i’n credu.
Mwy o gyngor:
King Missile – How To Remember Your Dreams (MP3, 4.3MB)






