Ow

Bron â bod 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod, bues i wrthi symud ma’s o’m fflat yng Nghaerdydd. Cario bocs o lyfrau lawr stâr i’r fan o’n i wedi’i fenthyg am y dydd, wne si golli’r stâr ola a throi fy migwrn de yn wael iawn. Dw i ddim yn cofio poen fel ’na o’r blaen – ond dw i wedi bod yn ddigon lwcus yn fy mherthynas â phoen dros y blynyddoedd, mae rhaid dweud.

Heddi, aethon ni â’n car i Huw Seilach, y mecanig a tyfwr llysiau o fri. Mae problem gyda’r brêcs, mae’n debyg, felly rhaid yw sorto fe ma’s. Gan ei fod yn ddiwrnod gweddol, dyma ni’n penderfynnu cerdded arde. A dyma fi, wrth gamu mewn i’r clawdd i adael i dractor mynd heibio, troi fy migwrn chwith, yr un mor boenus â deng mlynedd yn ôl. Methu rhoi pwysau arno fe o gwbl, ac mae wedi chwythu fel balwn.

Tipyn o flogio i ddod dros yr wythnos nesa ‘te.

Polperro, Totnes a Dartington

Lluniau Flickr o’r penwythnos diwetha.

Cawson ni benwythnos penigamp gyda theulu Philippa. Nos Wener gyda ei chwaer, ei merch hithau, a’i theulu ifanc hithau, sydd i gyd yn byw ym Mholperro, Cernyw. Wedyn ddydd Sadwrn i Totnes, Dyfnaint, i gwrdd â chwaer arall Philippa, ei phartner a’i phlant, ar gyfer Darlith Coffa Bina Gibson, sef mam Philippa.

Menyw ar ei Gorwedd, Henry Moore Gardd Siapanaidd, Neuadd Dartington Polperro, Cernyw

Continue reading

Hynodrwydd Hammill

(Nid mwy o’r hen rwtsh yma, siwri, Nic?)

Dyma ni nôl eto; mae bywyd â blas tipyn bach mwy dwfn arno ar hun o bryd, gan fod Philippa yn yr ysbyty adennill ei nerth ar ôl llawdriniaeth ddoe. Mewn hanner awr, bydda i ar fy ffordd i Fronglais i’w gweld.

A’r bore ’ma, dyma CD newydd Peter Hammill yn y post. Dw i’n gwrando arno nawr, a hyd yn oed hanner ffordd trwyddo, dw i’n gwybod taw hwn yw’r record gorau gan Hammill ers, beth, Patience? Fel mae’n dweud, yn ei gylchlythyr newydd, mae bron pob cân arno yn dangos olion yr harten gafodd e gwpl o flynyddoedd yn ôl, felly dyw e ddim yn easy listening yn union, ond mae’n cael gafael ynddof o’r gwrandawiad cyntaf, rhywbeth sa i wedi gallu dweud am y rhan fwya o’i waith ers yr 80au, ar wahan i Present, albym Van der Graaf yn 2005.

I lay on my back, post-heart attack, conscious of the fact that I needed to i) stay awake when awake and ii) rest, absolutely, when not awake; figuratively aware of hovering just outside the final gravity of a Drop. I didn’t drop, so I don’t know if that’s how it will feel in the end, if I’m granted (or cursed with) consciousness at the (my personal) finish. I certainly had the feeling that waiting for me in those moments when the chances of my life continuing depended on coins spinning in the air was some kind of black hole, some vortex which would not release me if I went too far into its grasp. I’ve tried to express some of those feelings here. This much, at least, is a report from the front line of experience.

Ac mae’n chwibannu arno!

O, ac un am golli rhiant. Diolch, Pete. Dw i fod i yrru mewn munud.

Fel allwch chi weld o’r brawddegau gor-hir yma, dw i ddim â’r amser i feddwl am beth dw i’n dweud yma. Ond dw i’n gwybod taw cerddoriaeth Hammill a Van der Graaf fydd yr unig peth i fi yn y dyddiau, wythnosau, i ddod.

Ac nawr bod mwy o gigs Van der Graaf wedi’u cadarnhau, dw i’n gweld bod hyn yn mynd i redeg a rhedeg…

Sori.

Lefelo i fyny

Es i ar glorion y stafell molchi y bore ’ma, a ches i’r newyddion drwg am y penwythnos bendigedig.

Yn lwcus iawn, daeth hyn yn y ffrwd RSS.

Well i mi weithio ar INT, hefyd, a pheidio yfed a bwyta cymaint. Byddai cael set iach o ystadegau cyn i mi gyrraedd lefel 40 yn syniad da.

Hunanladdiad yn y rhithfyd

Fy enw i yw Nic, a dw i’n gaeth i gemau cyfrifiadurol.

Heno, dw i wedi dileu fy nghymeriad yn Myd Crefft Rhyfel, a rhoi’r disgiau i Philippa i roi i Oxfam. Dw i ddim yn gwybod unrhyw ffordd arall o dorri fy nghaethiwed. Wrth i mi chwarae’r gêm ’na, dw i wedi colli diddordeb ym mron pob agwedd o fywyd tu allan i’r hyn sydd anghenrheidiol (wneud bach o arian, cadw tŷ, gobeithio bod rhyw fath o bartner i Philippa). Dw i ddim yn gwrando ar gerddoriaeth, ddim wedi gwylio ffilmiau, ddim yn blogio, ond yn edrych ar y maes i wneud yn siwr bod dim problemau yna, wedi dweud celwyddau er mwyn beidio wneud pethau fyddai’n tynnu fi ma’s o’r byd bach taclus yna, lle nad oes problem ariannol ’da fi, lle dw i ddim yn codi pwysau, lle does dim angen job, a lle mae pawb yn siarad yr un iaith heb feddwl amdano.

Y broblem oedd bod y gêm mor dda – dyna’r gêm o’n i wedi bod yn breuddwydio amdano ers i mi ddarganfod Dungeons & Dragons yn y 70au hwyr. Y byd ffantasïol perffaith. Yr unig ffordd alla i feddwl amdani i wella’r gêm fel y mae fyddai i wneud y “byd” yn fwy, ac maen nhw wedi meddwl o hynny.

Wnaeth South Park sgit ar WoW sawl wythnos yn ôl, a wnes i chwerthin ar ba mor bathetig oedd y dyn oedd wedi arberthu ei holl fywyd ar allor y Gêm, ond dyw’r jôc yna ddim yn ddoniol bellach. Am y tro cyntaf ers 3 blynedd, dw i’n dechrau stryglan wrth gerdded lan rhiwiau; tra bod fy alter ego yn mynd yn gryfach, dyma fi yn colli’r gallu i gadw lan gyda Philippa wrth gerdded i’r bws yn y bore.

Dw i’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i’r byd.

Cadw’r Cosmic Trigger yn Gyfforddus

Dyw ddim yn wneud pethau fel hyn yn aml, ond newydd glywed bod Robert Anton Wilson yn marw ac heb yr arain i dalu ei rent. Mae’n debyg bod digon o arian wedi dod i mewn i’w helpu dros dro, ond dyma dyn sy wedi helpu cymaint o bobl gyda ei lyfrau oedd yn amhosib beidio twlu bach o arian mewn i’r gronfa. Cafodd ddarllen y trioleg Illuminatus, a’r cyfres Cosmic Trigger, effaith mawr arna i pan o’n i’n ddyn ifanc, ac mae effaith dal yna yng nghefn fy meddwl dosbarth canol, parchus-i-bob-golwg.

It should be obvious to all intelligent readers (but curiously is not obvious to many) that my viewpoint in this book is one of agnosticism. The word “agnostic” appears explicitly in the prologue and the agnostic attitude is revealed again and again in the text, but many people still think I “believe” some of the metaphors and models employed here. I therefore want to make it even clearer than ever before that

I DO NOT BELIEVE ANYTHING

This remark was made, in these very words, by John Gribbin, physics editor of New Scientist magazine, in a BBC-TV debate with Malcolm Muggeridge, and it provoked incredulity on the part of most viewers. It seems to be a hangover of the medieval Catholic era that causes most people, even the educated, to think that everybody must “believe” something or other, that if one is not a theist, one must be a dogmatic atheist, and if one does not think Capitalism is perfect, one must believe fervently in Socialism, and if one does not have blind faith in X, one must alternatively have blind faith in not-X or the reverse of X.

My own opinion is that belief is the death of intelligence. As soon as one believes a doctrine of any sort, or assumes certitude, one stops thinking about that aspect of existence. The more certitude one assumes, the less there is left to think about, and a person sure of everything would never have any need to think about anything and might be considered clinically dead under current medical standards, where absence of brain activity is taken to mean that life has ended.

Pob hwyl, Bob, a diolch.

Bore da

Wedi bod yn dawel…

Mis Hydref fory, gwanwyn yr enaid. Mae rhywbeth am arogl pethau pydru sy’n fy llenwi â gobaith, aildanio fy niddordeb yn y byd. Ers bron â bod yn fis cyfan, dw i wedi bod â fy mhen yn nhywod byd arall, chwarae lan i 16 awr y dydd. Dw i’n gwybod bod hyn yn afiach, ond dw i ddim wedi bod yn poeni amdano – oedd angen brêc arnaf oedd y chwedl mewnol. A thu ôl i hynny o’n i’n gwybod y byddai rhaid dod ma’s ohono fe yn brydlon iawn cyn dechrau tymor newydd Cymraeg i Oedolion Cymraeg yn y Gymuned.

Rhan i o’r rheswm dros dynnu yn ôl o’r byd oedd yr embaras roeddwn i’n teimlo ar ôl gadael fy swydd gyda’r Urdd. Dw i erioed wedi cerdded ma’s o job o’r blaen, a doedd neb ond fi ar fai am y ffaith mod i’n ffeindio fy hunan mewn swydd oedd mor angywir i fi. Dw i wedi bod yn lwcus iawn i gael bach o waith dysgu, gwaith dw i ddim yn unig yn gallu wneud, ond gwaith dw i’n meddwl mod i’n wneud yn weddol da. Oedd yn anodd iawn y llynedd cadw’r lefelau brwdfrydedd yn uchel, gan fod ddosbarthiadau mor druenus o fach ’da fi, ond mae gen i ryw deimlad y bydd maint y dosbs yn codi eleni; dim rheswm penedol pam byddwn i’n teimlo felly, falle bydd rhaid i mi olygu’r cofnod optimistaidd yma erbyn diwedd yr wythnos sy’n dod, ond ie, dw i’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor, a dw i ddim wedi dweud hynny ers sbel.

Fi, fi, fi. Mae hyn yn dechrau swnio fel blog go iawn. ;-)

Iawnski?

‘Elo bobl.

Wedi bod yn dawel yma ers y Blogathon. Am un peth, doedd dim cysylltiad i’r we ’da fi am y rhan fwya o’r wythnos, am resymau anhysbys. Am beth arall, ar ôl i ti treulio diwrnod cyfan eiste o flaen sgrîn cyfrifiadur yn Aberystwyth, dwyt ti ddim cweit mor arwyddus i dreulio dy noson neud yr un peth ym Mhontgarreg.

Mae ymwelwyr gyda ni eto’r penwythnos yma, fy mam, fy chwaer Claire, ei gŵr hi Derek, a’u mab bach Finley. Mae Fin wedi bod yn ein cadw yn fishi, fel mae bechgyn 9 mis oed yn gallu neud, ond ar ôl ei ddôs beunyddol o Balamory, mae’r teulu cyfan (ond fi) wedi ei hegla i Aberteifi i neud bach o siopa, gan fy ngadael ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf ers canol nos Sadwrn.

Mae’n dawel yma.

Blog-gwrdd!Ta waeth, wedi bod yn darllen cofnodion diweddar Dogfael am yr Eisteddfod a sylweddoli pa mor genfinegus ydw i o chi’r bobl sy â’r rhyddid i fynd lawr i Abertawe am yr wythnos. Dim ond ers Meifod dw i wedi bod yn Steddfodwr brwd, ond bydda i’n wir gweld eisiau eleni, gan fy mod i’n gorfod gweithio yn Aber tan dydd Iau, wedyn gyrru lawr i gwrdd â Philippa, a gobeithio bod ’na mewn digon o amser i fynd i gig Cymdeithas yr Iaith gyda’r nos. Ddydd Gwener bydda i’n gweithio ar stondin yr Urdd (dere draw a dweud helo) a dydd Sadwrn byddaf yn rhydd i fwynhau beth sydd ar ôl o’r Steddfod, yn bennaf, y Ŵyl y Dyn Gwyrdd, lawr ym mherfyddion Bannau Brycheiniog, gyda fy ffrindiau Rosie, Chris, Jude ac Al.

Ffiw.

Oes rhyfedd mod i’n edrych fel hyn, y dyddiau ’ma?

Nic, gwallgof

Nôl yn y byd

Mae wedi bod bron yn dair wythnos ers i mi bostio yma, sydd, efallai, rhyw record i mi. Mae rheswm da, wrth gwrs. Wythnos diwetha buon ni’n cerdded Clawdd Offa. Yr wythnos cyn hynny, buon ni yn Aberhonddu, cadw cwmni i Joss a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Yr wythnos cyn hynny, sy’n teimlo yn llawer mwy na pythefnos yn ôl, buodd y ddau ohonom yn dysgu ar gwrs Ysgol Haf Llambed, lle oedd mwyafswm o 26 o ddysgwyr yn dy nosbarth i. Ffordd braf iawn i bennu fy “ngyrfa” fel tiwtor Cymraeg.

Ie.

Yfory dw i’n dechrau swydd newydd sbon, gydag Urdd Gobaith Cymru, yn eu hadran Technoleg Gwybodaeth.

Ac mewn llai nag wythnos, dw i’n cymryd rhan ym Mlogathon 2006. Nid yn unig ydw i’n cymryd rhan, ond fi yw un o’r cymedrolwyr. Wn i ddim pa flogiau bydd rhaid i mi gymedroli (nid bod rhaid wneud lot o hwnna), ond y tro diwetha i mi wneud y gwaith yma oedd un Cristnogol iawn, ac un pornograffeg. Noson reit ddifyr oedd honno.

Y peth cyntaf i mi wneud yma felly yw gofyn i chi bobl garedig i fy noddi. Bydda i’n blogio i godi arian at Gyfeillion y Ddaear Cymru. Bydd yn wych ’swn i’n gallu codi swm gwerthchweil iddyn nhw.

Diolch yn fowr…

Tacluso disg eich Mac

Dyma declyn defnyddiol i’r Macafalwyr yn eich mysh: Disk Inventory X, sef rhaglen sy’n edrych ar eich disg claed a dangos beth sy arno mewn un llun lliwgar. Wedyn, ti’n gallu symud dy lygoden dros y blociau i weld beth ydyn nhw, ac a oes modd i ti eu dileu. Dw i newydd clirio gigabeitiaid o gemau Neverwinter Nights, sawl bootleg mewn fformat AIFF dw i heb ddileu ar ôl llosgi’r CD, rhaglenni dw i byth yn eu defnyddio (rhai do’n i erioed wedi’u gweld o’r blaen), ond mae’n amlwg o hyd bod llawer gormod o stwff ’da fi mewn un ffolder arbennig, sef yr un iTunes. MP3au yw tri chwarter o beth sy ar fy iMac. Heb bryd i mi fynd trwyddynt a chael gwared o bethau.

Dych chi’n gweld y bocs melyn, top chwith? Dyna fy nghasgliad Van der Graaf Generator. Tybed oes angen copi o bob bootleg VdGG ar fy nghyfrifiadur trwy’r amser?

Beirdd Da, Achos Da, Breuddwyd Da

Noson fendigedig yn y Llew Du, Aberteifi heno, yng nghwmni tri thîm o feirdd, sef Tanygroes, Crannog, a’r Glêr, yn ymrysona, a bois y Taeogion yn cadw trefn arnyn nhw. Nosweithiau felly sy’n fy nhynnu fi yn ôl i’r breuddwyd o fod yn Gymro, gan taw breuddwyd yw hynny o hyd, mewn ffordd.

Dydy hynny ddim yn wneud llawer iawn o sens. Dw i am chwarae poker.

Cyfnod newydd

Newydd gael galwad ffôn sy’n cynnig swydd i fi yn yr Urdd, i ddechrau tua diwedd mis Gorffennaf. Bydda i’n helpu gofalu am eu gwefannau, a chynorthwyo yn yr adran Gwybodaeth Technoleg. Bydd yn newid fawr i fi, gweithio llawn amser am y tro cyntaf ers gadael Caerdydd, a chyda criw o bobl, mewn swyddfa.

Pobl sy’n siarad Cymraeg yn well na fi.

*ofn*

Ond hefyd…

*cyffro*

Posted in Heb gategori | Tagged

Sorto Morfablog

Symleiddio, symleiddio, symleiddio. Wedi cael gwared o gwbl o’r blociau ar y dde, wedi dewis yr opsiwn “un blog ar hap” o’r Rhithfro yn lle y rhestr llawn, ac wedi symud pethau o gwmpas. Hoffwn i ail-wampio popeth, ond am wn i, mae pethau yn gweithio yn iawn ar hyn o bryd, a dw i ddim eisiau torri dim byd.

Sorto Gmail

Bach o lanhâd y gwanwyn y bore ’ma. Roedd fy nghyfrif Gmail wedi dod yn anhaclus iawn, gyda dros 20 label, y rhan fwya ohonyn nhw sy ddim yn cael eu defnyddio’n aml. Mae popeth wedi berwi lawr i:

  • – negeseuon sy’n cynnwys tasg mae rhaid i mi gwblhau. Weithiau dw i’n defnyddio hyn fel bac-yp i’r rhestr “pethau i’w neud” sy ’da fi yn iCal – ebostio atgoffiad at fy hun, a gadael fe ’ma nes i mi wneud y tasg.
  • @ros – negeseuon sy’n cynnwys rhywbeth mae rhaid i rhywun arall gwblhau. Mae hyn yn cynnwys pethau dw i wedi archebu o eBay, Amazon, Sebon, beth bynnag, ond sy heb gyrraedd eto. Mae’r “@” yn y label yn gorfodi hyn i ymddangos ar frig y rhestr labeli.
  • Blog – caiff negeseuon “Google Alerts” a’u tebyg eu hidlo yn awtomatig i fan hyn i’w hatal rhag tagu fy mewnflwch. Pan dw i’n digwydd sylwi bod mwy na rhyw hanner dwsin o negeseuon heb eu darllen yna dw i’n cael cip.
  • Cadw – mae popeth yn cael ei gadw ar Gmail, wrth gwrs, ond mae hyn am bethau dw i am wneud yn siwr dw i byth yn eu dileu. Cyfrineiriau, a phatrymluniau negeseuon dw i’n anfon yn aml, ar y cyfan.
  • Freecycle – negeseuon o’r tri grŵp Freecycle dw i’n aelod ohonyn. Eto, jyst i gadw’r stwff o’r mewnflwch yw hyn.

Mae popeth arall yn dod i mewn fel arfer, a dw i’n clirio’r mewnflwch bob dydd. Os ydy hi’n bosib ymateb i neges o fewn 2 funud, dw i’n neud e yn syth (fel arfer). Os na, a dw i ddim yn gallu neud e heddi, mae’n cael seren ac mae’n mynd ar y rhestr “pethau i’w neud”.

Dw i’n casau gweld llawer o negeseuon yn y mewnflwch, ac yn methu deall pam mae cymaint o bobl yn gadael i’w mewnflwch mynd mor lawn. Mae un fy mam ag o leia 200 o negeseuon, y rhan fwya heb eu darllen, bob tro dw i’n digwydd ei weld. Oes rhyfedd dw i ddim yn boddran ei hebostio hi bellach? Dw i’n wgybod yn iawn na fydd hi’n gweld y neges, oni bai mod i’n ei ffonio i ddweud mod i wedi sgwennu ati. Man a man jyst ei ffonio hi gyda’r neges.

Cofnodion 43 Folders ar “Inbox Zero”. Llawn o gyngor da, hanfodol os ti’n byw ar y we. Pethau fel hyn, o’r cofnod Delete, delete, delete (or, “Fail faster”):

Just remember that every email you read, re-read, and re-re-re-re-re-read as it sits in that big dumb pile is actually incurring mental debt on your behalf. The interest you pay on email you’re reluctant to deal with is compounded every day and, in all likelihood, it’s what’s led you to feeling like such a useless slacker today.

Mewn geiriau eraill, os ti ddim yn mynd i wneud e nawr, a ddim yn debyg i’w neud e heddi, ydy hi’n well i dorri dy golledion a chael gwared ohono fe y funud hon?

Sut wyt ti’n cadw trefn ar dy ebost?

Gwerthu mas neu fod yn gall?

Sut i wneud arian o’ch blog. Erthygl (Saesneg) sy’n wneud beth mae’n dweud ar y tun.

If you’re going to do this, then fully commit to it. Don’t take a half-assed approach. Either be full-assed or no-assed.

Dw i ddim yn gweld bod llawer o botenshial wneud arian ar flog Cymraeg, ond mae gyda fi wefan arall, sy’n cael rhyw 20K page views y dydd. Mae modd prynu hysbysebion ar maes-e, ond hyd yn hyn dw i wedi bod yn half-assed dros ben ynglŷn â wneud y gorau o’r cyfle yma. Fy mantra tragwyddol yw “rhaid i bobeth ddatblygu yn organig” – sy wedi gweithio yn dda yn achos tyfiant y wefan ei hunan, ond erbyn hyn mae angen rhywbeth arall.

If you’re going to request donations, then really request donations. Don’t put up a barely visible “Donate” link and pray for the best.

Ers i ni ddechrau Clwb Cefnogwyr maes-e mae rhyw hanner cant o bobl wedi dewis talu y £2 y mis dw i wedi gofyn amdano. Er mod i’n ddiolchgar iawn i’r bobl hynny, pam bod cynlleiad o’r dros 2000 o aelodau’r wefan wedi dewis ymuno?

Dw i wedi bod yn sôn am wneud bywoliaeth o’r we ers dros blwyddyn nawr, a dydy Plan B ddim yn gweithio ma’s yn dda iawn. Rhaid i mi stopio piso yn y gwynt a naill ai wneud rhywbeth positif, neu torri fy ngholledion a gwerthu maes-e i rywun fydd yn wneud rhywbeth gyda fe.

Beth dych chi’n meddwl?

Losins!

Cofnod PingMag ar losins a thegannau o Siapan. Llawer o hwyl.

Aros am fy nysgwyr bore ddoe, yn festri capel Bethania, heb lot i wneud, es i drwy drar yn yr hen ddesg o’n i’n eistedd wrtho, a des i ar draws papurau Spangles a ches i drawiad hiraeth surfelys – ie, jyst fel y losin ei hunan.

Sbwci.

Mae’r papur yn fy waled nawr, jyt rhag ofn.

Trwy Number Six, blog brawd Mikal Dyas (isod).