Sut i ddileu sbam yn glou iawn

Ces i fy nharo gan sbamiwr neithiwr, a chafodd mwy na 950 o sylwadau eu dal gan y hidl, sy’n profi bod hwnna yn wneud ei waith. Y broblem wedyn yw sut i ddileu’r “sylwadau” o’r lein cymedroli. Ffeindiais i hac bach sy i fod i helpu, gan newid y ffordd mae WP yn dangos bob sylw sy’n aros i gael ei dderbyn neu ei ddileu – bydd hyn yn arbed amser yn y dyfodol, gan ei fod yn newid yr opsiwn di-ofyn o “Wneud Dim Byd” i “Dileu”.

Yn anffodus, doedd hynny ddim yn helpu gyda fy 950+ hysbys am Dala Nhw yn Nhecsas, gan fod y gweinydd yn pallu llwytho tudalen mor fawr. Ces i wall timed out bob tro.

Yn y diwedd, yr unig peth o’n i’n gallu wneud oedd mynd yn syth at y gronfa ddata a rhedeg y sgript bach ’ma, sy’n dileu bob sylw sy’n aros am gymedroli.

Jyst rhag ofn bod y dudalen ’na yn diflannu, y sgript yw:

delete from mb_comments where comment_approved = '0';

Oedd rhaid newid y wp_comments gwreiddiol, gan fy mod i wedi creu dau set o fyrddau yn y gronfa ddata, am ryw reswm oedd yn wneud synnwyr ar y pryd.

Sbam, ‘to

Dw i’n defnyddio’r hac bach ’ma i atgoffa pobl sy’n gadael negeeuon yma i fod yn amyneddgar. Ers i mi sylwi ar y sbam cyntaf, mae rhyw 20 darn o sbam “Texas Hold ‘Em” wedi cyrraedd, ond mae’n braf iawn i weld eu bod nhw i gyd wedi’u blocio.

Sbamwyr yn eu hôl

Wel, mae wedi cymryd rhyw bythefnos iddyn nhw ffeindio’r blog yn ei newydd wedd, ond mae sbamwyr wedi dechrau postio eu rwtsh ’ma. Mae ’na sawl ffordd o’u blocio gyda WordPress, ond am nawr, gan fy mod i wedi digon o hyn am y funud, dw i wedi newid gosodiadau i wneud bob sylw dod ata i cyn iddo fe gael ymddangos ar y blog.

Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y bydd oedi rhwng postio sylw yma a gweld e ar y blog. Plîs, plîs, plîs, peidiwch â phostio pethau mwy nag unwaith.

Collnodiadau bach yn rhy glyfar

Newydd sylweddoli bod WordPress yn troi dyfynodau sengl yn gyrliog yn awtomatig, sy’n gweithio yn iawn yn Saesneg, ond sy’n edrych yn od mewn cydestun Cymraeg lle mae geiriau sy’n dechrau gyda collnod, fel yr un ’ma.

Mae MS Word yn wneud pethau fel hyn, ac mae rhaid wneud dau gollnod, ac wedyn dileu’r un cyntaf, os wyt ti am dy gollnodiadau i fod yn gall.

Bydd rhaid ffeindio ffordd handi i ddysgu WP sut i handlo collnodiadau blaenorol yn y Gymraeg. Neu alla i fynd yn ôl at fy hen arfer o ddefnyddio’r entities HTML, fel o’n i’n wneud nôl yn y dyddiau pan oedd pethau fel hynny yn fy moddran i. Neu ai dim ond fi sy’n meddwl bod y gair ’ma yn edrych yn well na’r un ‘ma?

Gol. ‘Sdim byd i’w weld ’ma, symud ymlaen.

Chwarae gyda WordPress

O’r diwedd, dw i wedi gosod WP ar y gweinydd, a chael pethau i weithio, am wn i. Diolch yn fawr iawn i Iwan am ddarparu’r fersiwn Gymraeg: mae’n brofiad newydd i fi gael dysgu pecyn meddalwedd newydd yn yr hen iaith, yn lle yn Saesneg, a bydd yn fy ngorfodi imi feddwl am y peth yn wahanol, dw i’n tybio.

Mae lot i’w wneud yma cyn i mi lansio hyn yn swyddogol, fel:

  • Newydd y patrymlun
  • Mewnforio cofnodion yr hen Forfablog (falle)
  • Penderfynnu ar gategorïau ac ati
  • W, lot o bethau eraill

Dw i yn nef y giciaid. ;-)