Misoedd yn ôl bellach, wnes i gau trackbacks ar Morfablog, gan fod 99.9% o’r pingiadau o’n i’n eu derbyn ar y pryd yn sbamllyd. Erbyn hyn, mae WordPress wedi dod yn llawer gwell am ddal sbam, gyda sawl ategyn ar gael. Dyma fi felly, gweld beth sy’n digwydd os agora i’r blog i bingiadau pobl eraill.
Tag Archives: Offer blogio
Ochrflog fach Twitter
Diolch i Suw, dw i wedi bod yn chwarae gyda’r app gwe Twitter am gwpl o ddiwrnodau, ac heddi sylweddoli y bydd modd i mi ei ddefnyddio i flogio, o’r ffôn mudol, o faes y Steddfod.
Dw i wedi addasu’r côd Jafa tamaid bach i gael popeth yn Gymraeg – os dych chi am ddefnyddio hwnna, a wnewch chi ei gopio i’ch gweinydd eich hunan yn gyntaf, os gwelwch yn dda?
Mae’r pigion yn eu hôl
Os edrycha di i’r dde (fy chwith i), mi weli di restr o ddolenni. Wnes i dreulio rhyw awr chwarae gyda sgriptiau php ac yn y blaen i greu’r fath rhestr, cyn darganfod bod deli.icio.us yn cynnig y wasaneth erbyn hyn.
Dw i’n edrych nawr am ffordd i ychwanegu rhywbeth tebyg i maes-e.
Textpander
Mae Textpander yn declyn handi iawn i’r Macafalwyr. Rhaglen fach sy’n rhedeg trwy’r amser, ac yn gwylio beth wyt ti’n teipio am ddefnydd o fyrfoddau sy’n cael eu cyfnewid yn awtomatig i ddarnau o destun plein. Felly yn lle i fi gorfod teipio <img src="http://morfablog.com/06/03/XXX" title=""> bob tro dw i eisiau rhoi llun mewn cofnod blog, dw i’n defnyddio’r byrfodd imgsrc, ac mae TP yn wneud y gweddill. Mae’n debyg iawn i bethau fel Autocorrect Microsoft, ond mae’n gweithio mewn bob rhaglen.
Wel, dw i’n ei hoffi.
Pixoh: Golygu lluniau ar-lein
Mae Pixoh yn declyn handi iawn sy’n gadael i chi olygu lluniau JPG, PNG ac ati ar lein, heb angen meddalwedd arbennig.
Amser i ddechrau mapio’n iawn?
Newydd fod yn hedfan trwy bywyd Jack Kerouac ar Google Earth.
Dw i’n hoff iawn o gerdd Twm Morys, “Darllen y Map yn Iawn” (yn ei gyfrol 2, os ti ddim yn gyfarwydd), a dw i wedi sgwennu o’r blaen am y posibiliad o weithredu’r syniad sydd yn gefndir i’r gerdd honno yn realiti trwy ddefnyddio offer megis GoogleMaps a Flickr. Dim ond nawr dw i’n sylweddoli bod Google Earth yn berffaith i brosiect fel hyn, ond bod safon y lluniau o’r rhan fwya o Gymru yn isel iawn. Cymharer y lluniau o Lowell, MA (man geni Kerouac) lle mae pob tŷ yn amlwg, i rywle fel ffarm y Cilie (ffeil kmz) lle dw i ddim hyd yn oed yn siwr os ydw i wedi ffeindio’r lôn cywir.
Ta beth am hynny, a fyddai diddordeb mewn creu map diwylliannol, hanesyddol o Gymru a’r Cymry?
MP3au del.icio.us
O’r adran “pethau do’n i ddim wedi sylweddoli o’r blaen”: sut i ffeindio MP3au gyda deil.icio.us, a gwrando arnyn nhw heb eu lawrlywtho.
Mae’n defnyddio tag arbennig: system:filetype:mp3, sy’n dychwelyd bob MP3 sy wedi’i glustnodi gan ddefnyddwyr del.icio.us. Ffordd eitha da o ffeindio rhywbeth ar hap, falle, ond mae’r peth yn dod yn fwy defnyddiol pan ti’n ychwanegu tagiau eraill i’r ymchwiliad. Dyma i chi sesiwn Peel gan Black Sabbath ac wedyn rhywbeth hollol wahanol.
Cyngor ar gwpl o bethau
Sut i gael mwy mas o Bloglines. Cwpl o bethau yma do’n i ddim yn gwybod.
Sut i ddenu pobl i ddarllen dy flog. Dylen nhw fod wedi cynnwys “paid blogio mewn iaith mae dim ond hanner miliwn o bobl yn ei deall”, ond does neb yn berffaith.
Eithafol
Arbrofi gyda cyfrifydd newydd, eXTReMe. Mae’r ystadegau dw i’n cael gan Dreamhost mor lawn o sbam does dim pwynt edrych arnyn nhw bellach. Cawn weld os ydy hyn yn well.
Vocab ar eich gwefan chi
Mae’r BBC yn cynnig eu gwasanaeth Vocab ar eich gwefan chi. I’r rhai sy ddim wedi sylwi, Vocab yw’r sustem tooltips sydd ar gael ar BBC Cymru a’r Byd sy’n dangos cyfieithiadau Saesneg o eiriau Cymraeg wrth i’r defnyddiwr symud ei lygoden dros y geiriau.
Bydd e ar gael ar Morfablog cyn bo hir, gobeithio.
Ymchwilydd Blog Google
Google Blog Search – ffordd arall i ffeindio pethau i wastraffu dy amser arnynt.
How to adapt your blogspot.com blog to your language
How to adapt your blogspot.com blog to your language – trosiad o’r fersiwn Gymraeg, yn benodol ar gyfer siaradwyr ieithoedd Celtaidd eraill, ond handi i unrhywun, siawns.
Rhithfro.com
Rhithfro.com – profi profi profi.
[Gol.] Mae’r Rhithfro yn fyw! Da iawn Aled, mae popeth yn edrych yn wych.
Mapio ymwelwyr gyda Googlemaps
Teclyn Googlemaps yr wythnos yw’r peth lawr fan ’na sy’n tracio lleoliad ymwelwyr i’r blog a’u plotio ar fapGoogle.
Dim byd ’na eto, wrth gwrs, felly dw i ddim yn gwybod os ydy e’n gweithio neu beidio. Gawn ni weld.
XFN – XHTML
XFN – rhwydwaith ffrindiau XHTML. Newydd ddod ar draws hyn wrth ddechrau ychwanegu dolenni i’m hoff flogiau Cymraeg. Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol y bydd hi – un o’r pethau ’na sy’n dibynnu ar lot o bobl wneud yr un peth cyn iddo fe gael effaith llawn ei botensial, fel Flickr a Technorati.
Sgript y dyddiadau yn Gaeleg
Mae Cadalach wedi addasu sgript Sbwriel i wneud dyddiadau Blogger ymddangos yng Ngaeleg yr Alban.
Da ‘de?
Ceidwadwyr yn y blaen
Wedi sylwi yn diweddar bod straeon o wefan y Blaid Geidwadol, fel yr un ’ma am araith Lisa Francis i’r Cynulliad, wedi dechrau ymddangos yn fy nhanysgrifiadau o Google News. Dim un o’r pleidiau eraill.
Tagiau a Technorati
Wedi sylweddoli (o’r diwedd) mod i’n colli mas ar bosibiliadau Technorati gan ddal i feddwl am “categorïau” ar y blog, yn lle am “dagiau”. Prin iawn bod neb ag ots pa gategori dw i’n rhoi fy nghofnodion ynddo, ond mae’n wneud ots i Technorati, sy’n dangos bob un o’m cofnodion. Felly does dim pwynt defnyddio tagiau does neb arall yn mynd eu defnyddio – mae’n llawer gwell defnyddio “bwyd” fel tag na rhywbeth fel “bwyd time” fydd neb arall yn ei ddefnyddio.
A dweud y gwir, y peth mwya call fyddai defnyddio tagiau Saesneg hefyd, fel dw i’n wneud ar Flickr, weithiau, os taw’r bwriad yw i godi ymwybodiaeth o’r iaith Gymraeg. Dw i’n mynd i arbrofi am sbel, gan roi cofnodion newydd am iaith/ieithoedd yn y categori “language” – dylai unrhyw h dw i’n postio yn y categori yna ymddangos ar y dudalen Technorati cyffelyb.
(O’n i wedi meddwl am drïal dechrau’r arfer o ddefnyddio tagiau Esperanto ymysg blogwyr di-Saesneg, yn lle defnyddio’r iaith fain fel hyn, ondanhebyg iawn byddai’r arfer yn lledu.)
Beth amdanat ti? Wyt ti’n defnyddio categorïau/tagiau ar dy flog, ac os felly, wyt ti’n meddwl am sut mae (a bydd) gwefannau fel Technorati yn eu trin?
Pigion a’r RSS Digest
Des i ar draws RSS Digest ar blog Dogfael. Mae Dogfael yn ei ddefnyddio i ddangos penawdau’r BBC, ond dw i’n ei bwyntio fe at ffîd RSS fy nhudalen del.icio.us.
Dw i wedi bod yn edrych am rywbeth fel hyn ers sbel, ac mae RSS Digest yn wneud popeth dw i moyn, ond am roi disgrifiad y linc mewn elfen <title> yn y tag <a> – ond dw i’n gallu byw heb hynny.
Felly, diolch yn fawr iawn RSS Digest.
