Camgymeriad mwya yn hanes America?

Or what if, as the CIA predicted last fall, Saddam, concluding that a U.S. attack was inevitable, gave quantities of chemical and biological weapons to terrorists to attack the United States? In that case George W. Bush will have killed who knows how many human beings for worse than nothing, making his war not only a crime but a blunder, potentially the most catastrophic in American history.

Merthyr yw prifddinas sanau gwyn, yn ôl y BBC:

The only reason Asda colleagues have come up with for the demand for white socks is the windy weather – which frequently blows washing from lines around the town.

Dw i mor falch dw i newydd prynu trwydded teledu newydd. Ble fyddan ni heb y BBC?

Sôn am hynny, dyma ail stori’r wythnos ’ma dw i wedi gweld ar wefan y BBC sy’n edrych fel bod hi’n seiliedig ar ddatganiad i’r wasg o archfarchnad. Pa mor ddespret ydyn nhw?

Yn Santiago yn ’73

Diwrnod Glyndwr yw e heddi, wrth gwrs, ond mae’n ddiwrnod pwysig yn Chile hefyd: 29 mlynedd ers bu farw Victor Jara.

Mae c’n Victor Jara i’w chlywed o hyd
Yn atsain yn uchel drwy wledydd y byd.
Fe erys y Ffasgwyr, erys y trais
Ond gwrando mae’r bobl am alwad ei lais,
Yn Santiago ein dyddiau ni.
Dafydd Iwan

[diolch i wood s lot]

Deg peth am ddyn call

Bruce Dickson: Ten Things. Deg peth diddorol am Gomisiynydd Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon:

6: Having been quite religious until I was 21, I then became firmly atheistic. Although I would fervently support people’s right to believe what they want to believe, I am proud to have been on the cover of the Ulster Humanist Society’s magazine. I feel tremendously liberated not being a believer.

Eironig bod un o’r pobl prin yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon sy ddim yn esgus bod yn Gristion, yw hefyd un o’r rhain sy’n meddwl na ddylai’r heddlu gael saethu pobl gyda bwledi plastig.

Pa Duw mae Ronnie Flanagan yn ei ddilyn, er enghraifft? Nid yr un ’ma, mae’n debyg.

Godless and goodly in Northern Ireland.

Sut mae Marks & Spencers yn dinistrio Aberteifi

Yn ôl bob tebyg bydd ffatri Dewhirst Aberteifi yn cau erbyn mis Tachwedd eleni. Dewhirst yw’r cyflogwr mwya yn y dre: caiff o leia 325 eu diswyddo.

Mae reswm dros hynny. Tu ôl y malu cachu, mae’n rhatach i Marks & Spencers prynu eu dillad oddi wrth cwmniau yn Twrci a Morocco. Mae’r polisi ’ma yn gweithio – o adroddiad ariannol M&S:

Clothing performance of +14.8%, against comparative sales last year of -9.1%, continues the progress made since last Autumn. Sales have improved in all adult clothing areas, with the best performance being within womenswear.

Rhywbeth arall i gnoi cil drosto: ym mis Mawrth rhoddodd M&S £2 biliwn i’w cyfranddalwyr. O’r £2 biliwn honna, rhoddodd y cyfranddalwyr hael £75,000 i elusennau.

Dyna 0.00375%.

Neu £230 i bob gweithwr Dewhirst Aberteifi fydd yn ddi-waith fis Tachwedd.

Mae pris cyfrannau M&S wedi mynd i fyny gan 2.25p heddiw. Da iawn Marks & Spencers!