Archif Tag i » Newyddion «

Drist iawn glywed y bore bod Kurt Vonnegut wedi marw, yn 84 oed. Vonnegut oedd un o’r awduron Americanaidd des i ar eu traws yn nyddiau’r coleg, a roddodd i fi obaith mewn adeg o’n i wedi colli fydd Cristnogol fy mhlentyndod, ond heb ffeindio dim byd i lenwi’r “twll”. Y rhai a helpodd i mi ddarganfod nag oes ‘na “dwll”.

“Hello, babies. Welcome to Earth. It’s hot in the summer and cold in the winter. It’s round and wet and crowded. At the outside, babies, you’ve got about a hundred years here. There’s only one rule that I know of, babies — ‘God damn it, you’ve got to be kind.’ ”

Vonnegut yn Wikipedia.
Vonnegut Web.
vonnegut.com

13 Ebrill 2007 | Paraddolen | Sylwadau (3)

Tîm SWAT cau lawr parti dawnsio yn Utah (erthygl WIKI). Yn anffodus i’r ffasgwyr (oes gair arall?) roedd rhywun gyda chamera.

26 Awst 2005 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Cyflwyniad gan y papur Awstraliaidd The Age i’r sefyllfa hunllefus yn Swdan. Mae’r safle yn cynnwys lluniau gan blant ifainc sy wedi gweld mwy o ddiodde nag ydw i’n gallu dychmygu.

7 Awst 2005 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Rhaid i mi gyfaddau nad ydw wedi cymryd lot o sylw o’r ymgyrch i arbed rhaglenni CYmreig ar ITV, ond dw i’n diolchgar i Richard Nosworthy am y ddolen:

Gallai rhaglenni Cymreig ar ITV ddiflannu. Dyma wefan yr ymgyrch swyddogol i sicrhau ein bod ni dal i fwynhau newyddion, chwaraeon, materion cyfoes ac adloniant Cymreig ar ITV Cymru. Cymerwch ran trwy ysgrifennu at eich ASau, ACau a’r corff rheoli OFCOM i ddangos eich cefnogaeth.

3 Tachwedd 2004 | Paraddolen | Sylwadau (2)

Mae mor braf cael blogio erthyglau yn y Gymraeg sy ddim wedi dod o’r BBC. Dyma “Y Pyndit” yn gofyn a ydy ymgyrch Adam Price yn cynnig gobaith i Lafur llawr-gwlad?:

Ys dywed Adam Price mewn sawl erthygl heddiw - ac fel y soniodd un cyfranwr mewn erthygl yn Barn rhai misoedd yn ol - mae hyn yn mynd i graidd dmocratiaeth. Pwy hawl sydd gan Blair i fynd i ryfel a lladd degau o filoedd o bobl ddiniwed yn Irac i gyflwyno democratiaeth yno tra’n amlwg yn anwybyddu democratiaeth yma?

Dyma Sleifar ar yr un stori.

Uchelgyhuddier Blair. Mwy o lincs defnyddiol ar flog y Pyndet.

27 Awst 2004 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Mae’r broses o roi tag pris ar bopeth yn y byd wedi cymryd cam newydd ymalen gyda dechreuad y Gemau Olympaidd yn Athen, yn ôl y stori hon ar BoingBoing:

Sweltering sports fans who seek refuge from the soaring temperatures with a soft drink other than one made by Coca-Cola will be told to leave the banned refreshment at the gates or be shut out. High on the list of blacklisted beverages is Pepsi, but even the wrong bottle of water could land spectators in trouble.

Wythnos o’r blaen oedd rhaid i mi cerdded mas o’r ffilm newydd Thunderbirds pan sylweddolais i bod FAB 1, car Lêdi Penelope, wedi newid o fod yn Rolls Royce, i fod yn Ford, er mwyn hybu’r cwmni hwnna a oedd wedi rhoi arian tuag at wneud y ffilm rhy-gachlyd-i-blant-hyd-yn-oed. Dw i’n hanner meddwl am fynd i weld Catwoman heno (Halle Berry mewn catsuit; pa mor wael allai fe fod?) ond dw i’n ofni bydd hynny achos arall o dalu 4 i weld dwy awr o hysbysebion.

Diolch i Macsen. Lledu’r llonydd yw cyfrifoldeb cyntaf bob newyddiadurwr, sbo.

14 Awst 2004 | Paraddolen | Sylwadau (4)

The Necessary Group - criw sy’n ymgyrchu dros ddatganoli yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae ganddyn nhw faner yn barod, chwarae teg.

Byddai’n hawdd iawn i fod yn sinicaidd neu’n gas am hyn (neu i ofyn allen ni gael ein dŵr yn ôl, plîs?), ond wedi meddwl, dw i’n credu bod hyn yn syniad wych. Nid yn unig i bobl y rhanbarth ei hun, ond am y sgil-effeithiau gall hyn cael arnon ni yng Nghymru fach. Gyda rhai eithriadau anrhydeddus, mae ysgogiad ar gyfer datganoli yng Nghymru wedi dod o’r cenedlaetholwyr, ac mae’r broses wedi’i arafu fel canlyniad. Faint o amser sy wedi ei wastraffu dadlau nad ydyn ni “casau y Saeson” neu “casau Lloegr”? A fydd rhaid i’r grwp ‘ma amddiffyn eu hunain rhag gyhuddiadau o fod yn “wrth-Lundain” neu “wrth-Brymi”? Dw i’n amau’n fawr.

Os oes mantais i fyw yn Lloegr, dyna un ohonyn nhw: mae’n bosib bod yn ddatganolwr heb fod yn genedlaetholwr. Byddwn i’n dadlau bod cenedlaetholdeb Cymru â mwy yng ngyffredin â “chenedlaetholdeb” y bobl yma (y “Northwesterners”) na chyda “cenedlaetholwyr Lloegr”, sydd, yn rhy aml, dim byd mwy na Toris sy ddim yn lico Cymru a’r Alban </jôc>

Mae’r bobl ‘ma â syniadau gwych am ddeunyddau ymgyrchu, hefyd. Campwaith oedd ennill cefnogaeth cynllunydd byd-enwog fel Peter Saville (y boi wnaeth cloriau New Order a Joy Division). A chan bod nhw’n dechrau o’r dechrau, mewn byd sy’n tra wahanol i’r un a welodd dechreuad mudiadau tebyg yng Nghymru, mae eu defnyddio o offer ymgyrchu cyfoesol yn edrych yn fwy sicr - dw i ddim yn siwr os ydw i’n bod yn glir yma; beth sy ‘da fi yw’r ffaith eu bod nhw annog pobl i ddechrau gweflogiau i ledu’r gair am ddatganoli, tra bod ni yng Nghymru ddim yn gwybod beth yw gweflog (dyn ni ddim yn gallu cytuno pa gair y dylen ni ddefnyddio i’w disgrifio, heb sôn am gynnal mwy na hanner dwsin o’r blydi pethau rhwng y 500,000 ohonon ni sy’n medru’r iaith).

Ta beth, dw i’n meddwl bod hyn yn tuedd i’w chefnogi yn ein cymdogion, felly dw i’n falch i ymddangos y logo isod.


ypdêt (3/5/04) this entry has been translated by marnanel - diolch yn fawr i ti!

1 Mai 2004 | Paraddolen | Sylwadau (1)

Wrth-hysbysebion Bush-Cheney.

Dw i’n hoffi’r un sy’n dweud We Cuddle Firemen.

20 Mawrth 2004 | Paraddolen | Sylwadau (1)

Where’s the incentive to integrate? - nid jyst ym Mhrydain Fawr mae llywodraethau yn dilyn polisi o “integreiddiwch, yntau beidiwch dod ‘ma”, mae’n debyg.

But interestingly, people from the US, Canada, Australia, New Zealand and Japan are exempted from having to complete an integration course in their home country because their national governments have signed treaties with Dutch authorities.

Ydy hyn yn wir ym Mhrydain hefyd?

14 Mawrth 2004 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Drist iawn i glywed bod John Charles wedi marw. Dw i ddim yn ffan mawr chwaraeon, ond dw i’n gwybod oedd Charles yn arwr i fy nhad a’i genedl.

Addio Gigante Buono!

22 Chwefror 2004 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Troellwynt yn y Bari. Wel, rhywbeth sy’nedrych yn debyg iawn i droellwynt.

13 Ionawr 2004 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Simon Thomas - ‘Wales has nothing to lose but its chains’. Braf i’w weld bod Plaid Cymru yn barod i ddweud pethau fel hyn nawr.

5 Hydref 2003 | Paraddolen | Sylwadau (3)

Mae’r Prifardd Dic Jones wedi arall-gyfeirio ar ei fferm ym Mlaenannerch gan ddechrau gwersyll tipi.

25 Mai 2003 | Paraddolen | Sylwadau (3)

Mae llyfrgell Stanford wedi prynu robot i sganio eu casgliad o 8 miliwn o lyfrau. Mae’r peiriant yn gallu sganio 1000 tudalen yr awr.

13 Mai 2003 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Erthygl Guardian gan Arundhati Roy am ryfel, propanganda a chelwyddau:

So far the Iraqi army, with its hungry, ill-equipped soldiers, its old guns and ageing tanks, has somehow managed to temporarily confound and occasionally even outmanoeuvre the “Allies”. Faced with the richest, best-equipped, most powerful armed forces the world has ever seen, Iraq has shown spectacular courage and has even managed to put up what actually amounts to a defence. A defence which the Bush/Blair Pair have immediately denounced as deceitful and cowardly. (But then deceit is an old tradition with us natives. When we are invaded/ colonised/occupied and stripped of all dignity, we turn to guile and opportunism.)

12 Ebrill 2003 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Erthygl da yn y Scotsman am ddatganoli yng Nghymru.

8 Ebrill 2003 | Paraddolen | Sylwadau (1)

Posteri dros heddwch - cystadleuaeth i ddarlunio posteri wrth-ryfel.

6 Ebrill 2003 | Paraddolen | Sylwadau (0)

Mae Get Your War On newydd wedi dod mas, ac mae’n well nag erioed.

21 Mawrth 2003 | Paraddolen | Sylwadau (0)