Neges oddi wrth Mercator:
Ers dechrau mis Awst 2001 bu Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o dan oruchwyliaeth Ned Thomas yn gweithio ar gynllun ymchwil i weld sut orau y gellir sefydlu a chynnal papur newydd dyddiol Cymraeg. Cafwyd nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Awdurdod Datblygu Cymru a Phwyllgor Cymru Biwro yr Ieithoedd Llai. Ein bwriad yw paratoi cynllun ymarferol a gweld ei wireddu ond, i sicrhau hynny, mae’n rhaid ymgynghori’n eang a chydweithio tuag at y nod.Os ydych am fynegi barn am yr hyn a fyddech yn hoffu gweld mewn papur o’r fath mae’n bosib cwblhau holiadur y prosiect ar ein safle we.