(Bron) Popeth (ar y we) yn Gymraeg

Hyd yn hyn, dw i wedi sôn am beiriant cyfieithu Google mewn termau eitha cul, Cymraeg/Saesneg. Ond mae ochr arall i’r ceiniog, sef bod (bron) holl gynnwys y we erbyn hyn ar gael i ni yn ein hiaith ein hunain, os ydyn ni’n fodlon rhoi tipyn bach o waith i mewn.

Er nad ydw i’n debyg iawn i ddarllen Metafilter yn y Gymraeg, mae’n anhygoel bod hynny yn bosibl. Ces i wefr o weld bar-lywio Mefi, rhywbeth dw i wedi gweld bron bob dydd ers 1999, wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, bron pob gair yn ei le:

Picture 1

Gwych o beth, ond ddim digon o reswm i ddewis darllen cyfieithiad carpiog yn lle’r Saesneg gwreiddiol.

Un lle dw i wedi defnyddio teclyn Google heddiw, i ddarllen rhywbeth na fyddai gobaith i mi ddeall heb gyfieithiad cyn nawr, yw gwefan arddangosfa Hermann Hirsch*, sef safle uniaith Almaeneg sydd erbyn hyn yn ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Trefol o Göttingen, am y tro cyntaf yn yr Almaen yn gwneud yn deyrnged i’r hanghofio unjustly artist. Mae’n darparu daith bywgraffyddol drwy fywyd a gwaith yr artist hyblyg, ac yn gosod pwyslais ar ei Südniedersächsische amser.

Diddorol gweld y gair Saesneg unjustly yn y canol, sy’n awgrymu bod y fersiwn Gymraeg yn dod trwy’r Saesneg yn gyntaf. Diddorol hefyd bod y gair teyrnged (am “eine Würdigung”) yna yn tro’n asesiad os dych chi’n bwydo’r teclyn â’r testun fesul paragraff. “Assessment” yn hytrach na “tribute” yw e yn y Saesneg, ond eto, os dych chi’n rhoi llai o gydestun i’r peiriant, mae’r gair yn newid i “appreciation”.

Mae’r dewisiadau y peiriant braidd ar hap weithiau: gan fwydo’r un ymadrodd uchod mewn ond heb yr atalnod llawn, mae Hirsche yn newid o fod yn “painter” i “artist”.

Ta waith am hynny, dw i dal yn gweld hyn fel datblygiad enfawr yn hanes y Gymraeg ar y we. A tu hwnt, wrth gwrs – cofiwch bod testun bob llyfr yn y byd yn cael ei sganio gan Google, sy’n golygu (mewn theori) y bydd bob llyfr yn y byd ar gael yn y Gymraeg, yn y man. Mae hynny yn dipyn o beth, ond yw e?

* Dw i wedi blogio am Hermann Hirsche yma o’r blaen, y tro diwetha i mi ddod yn ôl ar ôl hoe bach o’r blog, fel mae’n digwydd. Hen ewythr Philippa oedd e, a chafodd bron popeth o’i waith ei “brynu” gan y Natsïaid am brisiau chwerthinllyd. Ond cewch chi ddarllen gweddill ei hanes ar wefan Amgueddfa Drefol Göttingen, os dych chi’n gallu darllen Almaeneg.

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar y We

Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o’r “weflog gymunedol” MetaFilter. Os ydy hi’n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw’r esiampl orau sy ’da ni, am wn i. Dyma’r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig.

Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio’u sylwadau’n gyson (dydw i ddim un o’r cyfranwyr mwya cyson – fel dwedodd y bardd, dw i’n sgwennu Saesneg fel iaith farw…). Fel arfer mae ’na rhyw 20-30 o bynciau newydd i’w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu’r rhai sy’n dod. Ond, fel arfer mae ’na beth wmbredd o bynciau i’w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we.

Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o’r aelodau’n dod o Ogledd America, ond mae ’na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw’r unig Cymro. Mae goleddf “rhydfrydig” (yn yr ystyr Americanaidd o’r gair) ar y safle, ond mae ’na hefyd geidwadwyr sy’n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a’i farn, ond dydy’r cymuned ddim yn diodde pobl sy’n treillio (trolling? – pobl sy’n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi‘r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie.

Pam ydw i’n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi’r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i’n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio’r côd “ffynnon agored” sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni “rannu, cyfoethogi a’n dysgu ein gilydd”.

“Ond mae seiadau trafodaeth ’da ni’n barod, y twpsin”, dw i’n eich clywed chi’n dweud yn syn.

Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy’n cael ei defnyddio’n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi’n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae ’na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly’n gallu troi’n gylch hudol sy’n cadw’r anghyfarwydd ma’s. Mae sawl rhestr e-bostio ’da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy’n uniaith Cymraeg neu sy’n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a’r treillwyr erbyn hyn, ondyfe?

Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i’n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio’r posibiliadau. Os oes awgrymiadau ’da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu ebostiwch nhw ataf. Diolch.

Wil Weaton, druan

Drueni fues i ddim yn “Star Trek” – mae pawb yn hoffi’r blogwr newydd ar y bloc, y boi oedd yn chwarae Wesley Crusher. Mae e’n cwyno bod un neu ddau berson ar Metafilter wedi dweud pethau cas: os ydy e am fywyd tawel, heb ymwelwyr, heb sylwadau yn y fforwm trafod, heb unrhyw ymateb ond ‘ere, you wrote about my website in your funny language – what’dja say?, dylai fe drïal gweflogio yn y Gymraeg.

Chwerw, finnau?

Hei, falle bydd e’n dod ar draws hyn yn ei referrer logs a chwyno bod ’na bobl yn siarad amdano mewn ieithoedd dieithr, hefyd.

Kaycee Nicole

A Beautiful Life, an Early Death, a Fraud Exposed – mae hanes Kaycee Nicole wedi cyrraedd y New York Times, pythefnos ar ôl “marwolaeth” Kaycee.

Ro’n i’n dilyn y stori wrth iddo ddatblygu ar Metafilter a ches i ddim llawer o gwsg dros y penwythnos ’na. Anhygoel. Dw i ddim yn nabod unrhywun o’r bobl yn yr erthygl, ond dw i yn darllen eu gwefannau bob dydd. Roedd hi tipyn bach fel gwilio grwp o bobl cael newyddion drwg mewn ysbyty, ond mewn symudiad araf. Arswydus.

Cofiwch, fyddai rhywbeth fel hyn byth yn digwydd yng Nghymru. Fel mae bob feteran Wlpan yn gwybod, Mae pawb yn nabod pawb yng Nghymru.