i-dot MS Word

…rhag newid bob “i” i “I”.

Cer i Tools –> AutoCorrect Options, i agor y bocs isod.

Yn y rhestr dan “Replace text as you type” (yr un sy’n dechrau gyda (c), (r), ™ yn y llun), sgrolio lawr nes i chi weld i ac I. Cliciwch ar hyn. Cliciwch ar “Delete”. Cliciwch ar “OK”.

Bant â chi.

Reddit yn y Gymraeg?

Neges gan Pat yn fy mewnflwch Facebook (dylwn i sieco hwnna yn fwy aml) ynglŷ â lleoleiddio Reddit.

If you’d like a reddit in your language, please email us with the request and we’ll get it online. All we ask is that you tell all of your [insert language]-speaking friends about it (and that you let us know if we screw something up in translation).

Rhaid i mi gyfaddau mod i ddim yn gyfarwydd â reddit cyn hyn. Dw i ma’s o’r l

Limewire Cymraeg

Ces i hwn mewn ebost heddi:

Mae’r rhaglen Limewire bellach ar gael yn Gymraeg!
*Rhannu caneuon, lluniau, fideos, meddalwedd… gyda Limewire

Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael o http://www.limewire.com/download/

- Ar ol ei lwytho
- Clicia ar fflag bach America yn y cornel chwith isod
- Mae rhestr o ieithoedd yn ymddangos
- Dewis Cymraeg a wedyn ail-gychwyn Limewire…
a dyna ti, dy hoff raglen swopio ffeils i’w weld yn dy hoff iaith
(Gwerthaf modd mae blydi Jac yr Undeb sydd gynnon nhw ar gyfer fflag
Cymru a nid y Ddraig Goch.. be nei di?)

Sa i wedi defnyddio Limewire ers dyfodiad Rapidshare, ond mae’n braf gweld bod pethe fel hyn yn cael eu lleoleiddio.

Iaith a chof y twll yn y wal

Eto trwy Pat, sy’n tynnu cwestiwn diddorol ma’s o’r cyfweliad yma: pam bod rhaid i’r peiriant twll yn y wal ofyn “pa iaith dych chi’n siarad?” bob blydi tro dw i’n tynnu arian o’r banc?

Yet with all this investment when I go to the ATM at my bank it still asks me in what language I want to be spoken to as I’m withdrawing my money. What!? It doesn’t know me? Despite all that equipment and data, the system can’t call up my preferences when I put my bankcard into the machine? I have millions of dollars in this bank!! In terms of innovation this industry definitely gets an “F.”