Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o’r “weflog gymunedol” MetaFilter. Os ydy hi’n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw’r esiampl orau sy ’da ni, am wn i. Dyma’r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig.
Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio’u sylwadau’n gyson (dydw i ddim un o’r cyfranwyr mwya cyson – fel dwedodd y bardd, dw i’n sgwennu Saesneg fel iaith farw…). Fel arfer mae ’na rhyw 20-30 o bynciau newydd i’w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu’r rhai sy’n dod. Ond, fel arfer mae ’na beth wmbredd o bynciau i’w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we.
Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o’r aelodau’n dod o Ogledd America, ond mae ’na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw’r unig Cymro. Mae goleddf “rhydfrydig” (yn yr ystyr Americanaidd o’r gair) ar y safle, ond mae ’na hefyd geidwadwyr sy’n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a’i farn, ond dydy’r cymuned ddim yn diodde pobl sy’n treillio (trolling? – pobl sy’n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi‘r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie.
Pam ydw i’n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi’r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i’n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio’r côd “ffynnon agored” sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni “rannu, cyfoethogi a’n dysgu ein gilydd”.
“Ond mae seiadau trafodaeth ’da ni’n barod, y twpsin”, dw i’n eich clywed chi’n dweud yn syn.
Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy’n cael ei defnyddio’n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi’n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae ’na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly’n gallu troi’n gylch hudol sy’n cadw’r anghyfarwydd ma’s. Mae sawl rhestr e-bostio ’da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy’n uniaith Cymraeg neu sy’n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a’r treillwyr erbyn hyn, ondyfe?
Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i’n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio’r posibiliadau. Os oes awgrymiadau ’da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu ebostiwch nhw ataf. Diolch.