Pa mor wych yw matooke?

Mae’r fideo uchod, gan John Green, a dw i’n addo bydd cofnodion Morfablog sy dim yn cynnyws un o’r Brodyr Flog cyn bo hir, yn sôn am sut mae microgyllido yn gweithio. Mae’n gyflwyniad da, ac os dwyt ti ddim wedi dod ar draws y syniad o’r blaen, mae’n werth gwylio.

Dw i’n aelod Kiva ers 2008, ac yn y pedair blynedd ers i mi sgwennu amdano o’r blaen, mae fy $100 gwreiddiol wedi cael ei fenthyg, fesul $25, i ddeunaw o brosiectau ledled y byd. Mae bob benthyciad dw i wedi ei wneud hyd yn hyn wedi ei ad-dalu o fewn y cyfnod priodol, a dw i’n gallu darllen am y prosiectau dw i wedi helpu eu noddi trwy wefan Kiva.

Ar hyn o bryd, mae Kiva yn cynnig $25 am ddim i aelodau newydd (diolch i rodd gan Reid Hoffman, sefydlwr LinkedIn), felly cei di ddechrau helpu pobl, a gweld sut mae’r sustem yn gweithio heb roi dim o dy arian dy hunan mewn.

Dw i’n gwybod mod i wedi addo fydd dim mwy o Vlogbrothers fan hyn, ond dyma Hank yn ei ôl, yn ystod y heip am “Koby 2012″, yn sôn am pam mae’n meddwl taw Kiva yw’r ffordd orau i bobl “cyfoethog” y gogledd helpu pobl sy heb ein manteision.

Reit, dw i’n addo addo. Dim mwy o’r Brodyr Flog.

Byddwch yn wych. Cerwch i Kiva.

Kiva

Wrth bori edefyn ar Metatalk des i ar draws linc i Kiva, enw dw i’n siwr mod i wedi dod ar ei draws o’r blaen, ond heb sieco ma’s cyn heddi.

Beth yw e, yn y bôn, yw cyfundrefn sy’n dy adael wneud “meicro-fenthyciadau” ($25 y tro) i unigolion penodol mewn gwledydd tlodion, er mwyn eu helpu gyda eu busnesau. Dyw Kiva ei hunan ddim yn cadw ceiniog (mae opsiwn i wneud rhodd bach iddyn nhw ar yr un pryd, ond dim rhaid i ti wneud hyn) – mae’r arian i gyd yn mynd at y bobl wyt ti’n eu dewis.

Mae’n defnyddio Paypal i wneud y benthyciadau, a fel dw i’n deall unwaith bod yr arian yn dod yn ôl atat ti, cei di ddewis rhoi benthyg i rywun arall, neu tynnu’r arian ma’s. Mae’n anhygoel pa mor glou mae’r arian yn cael ei godi – ers i mi ddechrau sgwennu hyn mae un o’r prosiectau dw i’n ei gefnogi wedi cyrraedd ei darged.

Oes unrhyw un arall wedi defnyddio’r gwasanaeth?