Archif Tag: Iwerddon

Rhwng An Daingean ac Hawai’i

Wythnos diwetha, ar ein gwyliau yn An Daingean, cwrddon ni â Clyde Sakamoto a’i wraig Gerrianne yn nhafarn An Droichead Beag, a chawson ni sgwrs diddorol iawn am ieithoedd Cymru, Iwerddon ac Hawai’i, ymysg pethau eraill. (Fel cwrw – diolch i Clyde, ffeindiais i dafarn arall ar bwys y dre sy’n wneud eu cwrw eu hunain.)

Dyna fi heddi, dal i fyny gyda’r blogiadau dw i wedi colli yn diweddar, a ffeindio cofnod This Recording sy’n cynnwys MP3 ail-fersiwn Hawaiieg o’r gân Nothing Compares 2 U. Mae’r gân ar drac sain y ffilm ’na gyda Russell Brand, felly dyw e ddim yn debyg y byddwn i wedi’i chlywed heb y blogiad.

Diawl, dw i’n sgwennu’n wael. Oes rhyfedd mod i’n wneud hyn mor anaml y dyddiau ’ma?

Ta beth, dyma’r MP3. Wedi cyfieithu’r teitl i gadw cyfreithwyr y Tywysog oddi ar fy nghefn.

Does Dim Byd yn Cymharu i Ti – Y Coconutz

“Coconutz” yw ffugenw Daniel Ho.

Dw i’n hoff iawn ail-fersiynau sy wedi’u cyfieithu. Wna i drial meddwl am fwy.

[Gol.]

Seu Gorge yn wneud Bowie yn Portiwgaleg, wrth gwrs.

Popeth yn Wyddeleg?

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? – cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd?

Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim ond mamiaith y wlad honno.

Dyma glip:

Mae’n amlwg bod dwy brif wahaniaeth rhwng modus operandi Magan a’r hyn wnaeth Ifor ap Glyn: oedd agwedd Ifor yn fwy agored a chyfeillgar, hyd yn oed pan oedd pobl yn gwrthod gwrando arno fe (dw i ddim yn siarad Gwyddelig, ond dw i’n deall iaith y corff; mae Magan yn dweud rhywbeth fel “mae hyn yn ridiculous” mewn un sefyllfa – agwedd hawdd i’w ddeall, ond ddim yn debyg i helpu’r sefyllfa), ac yn ail, mi oedd criw camera Ifor yn fwy amlwg. Mae’r rhaglen Gwyddeleg wedi’i ffilmio gyda chamera cudd, am wn i. Ond, os dw i’n cofio yn iawn, wnaeth y criw Cymraeg un rhaglen gyda chamera cudd, a dal ddim yn cael y fath ymateb mae’r boi ’ma yn cael.

Rhyfedd iawn.

Mae rhaid gofyn weithiau, beth sy’n fwy pwysig: i gadw’r ucheldir moesol, a wneud yn siwr bod pawb yn gwybod taw ti sy’n iawn, neu i wneud bob ymdrech posibl i helpu pobl eraill dy helpu di yn dy dasg? Mae Ifor ap Glyn wedi profi ei fod yn bosibl byw yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg os oes amynedd Job, a gwên neis, gyda ti. Dw i ddim yn siwr beth mae Manchán Magan wedi profi.

Ar wahân i’r ffaith bod rhaglenni S4C, pan maen nhw’n wreiddiol, a Chymreig, a ddim wedi’u copio o deledu poblogaidd Saesneg, yn ddigon cryf i gael eu copio yn eu tro gan wledydd eraill.

Bobby Sands

Eleni, bydd hi’n 25 mlynedd ers i Bobby Sands farw. Zmag: Bobby Sands, ymprydio a dysgu Gwyddeleg. Erthygl ddiddorol, ond efallai yn gorddweud tipyn bach yma:

He learned the importance of education and, particularly, of learning the Irish language. By using Irish to discuss strategy with his fellow prisoners under the noses of the prison guards, he made it a living language.

Dw i ddim yn gwybod digon amdano, yn amlwg. Ydy hyn yn deg i’w ddweud?

All rhywun awgrymu llyfrau i fi am adeg yr ymprydio? Dw i wedi darllen (blynyddoedd yn ôl) llyfr gan Tim Pat Coogan, ond dw i wedi ei golli ers hynny – a dw i wedi dysgu iaith fy ngwlad fy hun yn y cyfamser. A ddylwn i ail-ddarllen hwnna, neu oes ’na rywbeth mwy diweddar byddai’n rhoi cyflwyniad i hanes diweddar Iwerddon i mi?

Cyfieithu i’r Wyddeleg

Erthygl ar Slugger O’Toole am y costiau honedig o gynhyrchu un ddogfen swyddogol yn Saesneg (€685) a’i cyfieithu i’r Wyddeleg (€17,000). Mae’r bwlch amlwg rhwng y ddau ffigwr wedyn yn sail i ddadl “allen ni wario’r arian yn well? – er lles yr iaith, os oes angen, ond dere mlân, faint o bobl sy wir yn ei defnyddio…” ac yn y blaen.

Fel mae trafodaeth ar y cofnod yn awgrymu, dyw e ddim yn glir sut cyrhaeddwyd ar y ffigyrau yma:

The Taoiseach on this occasion was only quoting the costs associated with graphics etc wrt to the English version of the document while the time involved by the civil servants and the entire kitchen sink was accounted for in the figure for in the Irish language document.

Ac wedyn, unwaith eto, y ddadl dros wneud dim byd rhag ofn bod siaradwyr Tsieinëeg yn dechrau gweiddi am eu hawliau ieithyddol. Ydy poblogaeth Tsieinëeg Iwerddon yn enwedig o weithredol neu rywbeth? Mae pawb yn eu hofni, mae’n debyg.

Gwyddeleg yn iaith dramor yn Wlster

O Ogledd Iwerddon, lle mae dadlau am hawliau ieithyddol ag elfen mwy gwleidyddol na’r arfer, gawn ni ddweud, y daw’r stori am drigolion Cenedlaetholgar sy’n bygwth mynd â’u cyngor i’r llys er mwyn cael arwyddion eu strydoedd yn Wyddeleg. Nid bod y cyngor (Undebol) yn poeni dim am hyn:

DUP councillor Frank Campbell believes putting up Irish street signs in the area will set a dangerous precedent.He said: “There are more people who speak Chinese and Czech in Ballymoney than who speak Irish. What are we to do next, put up signs in the those languages?”

Am ddadl soffistigedig! Neis iawn gweld bod Undebwyr Wlster yn defnyddio’r un ddadl â’r Undebwyr Wêls wrth wfftio hawliau ieithyddol brodorion eu “Provinces”.

Saesneg ar RnaG

[Dw i wedi golygu'r cofnod hwn tipyn bach, gan ddefnyddio Radio 1 yn lle Radio 2 fel enghraifft o orsaf Saesneg.]

Trist yw clywed bod Raidio na Gaeltachta wedi penderfynnu chwarae caneuon Saesneg ar ôl dros 30 mlynedd o ddilyn polisi “dim Saesneg”.

Dave Davin, an Irish-speaking DJ on Spin, said: “It is only right that RnaG moves with the times and introduces English language songs onto the airwaves. I think the station has projected a snootiness or poshness until now in relation to the Irish language. There was an attitude that if you couldn’t speak it, then RnaG wasn’t for you.

Sef yr un peth mae rheolwyr Radio Cymru yn poeni amdano, bod rhywun rhywle yn mynd i ddweud nad yw hyn yn deg:

If you can’t speak Welsh then Radio Cymru isn’t for you.

Mae hynny yn swnio yn gas, ond yw e? Dim ond eithafwyr fyddai’n dweud rhywbeth fel ’na.

Nawr, tria ddychmygu rhywun sy’n dweud yr un peth am Radio 1.

If you can’t speak English then Radio 1 isn’t for you.

Ond mae hynny yn wneud sens perffaith! Wrth gwrs fyddai rhaid i person sy am wrando ar Radio 12 fedru’r Saesneg! Gorsaf Saesneg yw hi. Byddai disgwyl clywed bhangra ar raglen Chris Moyles bob bore yn afrealistig, er mor boblogaidd yw’r fath ’na o gerddoriaeth gyda chanran go fawr o bobl ifainc Prydain.

Ond wrth gwrs does neb yn debyg i ddweud pethau mor dwp am radio Saesneg ei iaith, achos dydy Saesneg ddim yn iaith; hi yw’r awyr yr ydym yn ei anadlu, a chyfrwng normal i feddwl a chân. Byddai unrhywun sy’n awgrymu fel arall yn wallgof, mae’n amlwg.