Vetiver ddim o’r un Ilk

Sawl wythnos yn ôl, wedi darllen erthygl ar Richard Youngs, es i Amazon ac ordro CD gan ei fand “proto-prog” Ilk. Pan cyrhaeddodd y disg, o’n i bach yn siomedig – nid prog mohoni, ond rhywbeth tebyg i stwff Devendra Banhart.

Dim byd yn erbyn Defi blew, ond nid beth o’n i’n disgwyl.

Ddim yn meddwl mwy amdano ar y pryd. Pethau i’w neud, pobl i’w gweld.

Neithiwr, chwarae’r CD eto, wrth fynd trwy’r holl stwff dw i wedi prynu yn diweddar. Eto, meddwl bod dim ffordd disgrifio’r gerddoriaeth ’ma fel prog o unrhyw fath. Wedi dweud hynny, mae’n eitha da, a rhywbeth hoffwn i wrando arno fwy. Yn y peil “i’r iPod” gyda fe ‘te.

Y bore ’ma, rhoi fe yn y Mac, aros i iTunes wneud ei stwff a ffeindio manylion y traciau ac ati, a dyna fe: nid Ilk yw e o gwbl, ond albym cyntaf Vetiver. Mae label y CD yn dweud ILK, ond Vetiver biau’r cynnwys.

Wedi dweud wrth label Ilk – tybed a ga’i gopi o’r CD cywir ganddyn nhw?