Stopia!

Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr?

P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr autoreply trafferthus ymsyg y pethau mwya call dw i wedi darllen yn Saesneg am y sefyllfa yng Nghymru.

Dim syndod chwaeth, i weld bod yr awdur yn arfer byw yng Nghwebec, ac wedi cyflwyno papur trafod yn diweddar ar y sefyllfa ynglŷn ag arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg a dwyieithog yn y wlad honno, yn enwedig yr arwyddion Arrêt. Diddorol cymharu y sefyllfa yna a beth sy gyda ni yma yng Nghymru erbyn hyn.

Finally, important public/private tensions in Montreal’s language ideology are evident in stop signs due to the widespread practice of vandalism. Despite the prevalence of public French on stop signs, the vast majority of linguistically-identifiable vandalism is in English. Moreover, stop signs, as highly visible aspects of the city’s public material culture, are frequently vandalized in ways that reflect dissatisfaction with official language ideologies, and can thus highlight ongoing tensions.

Difyr, n’est-ce pas?

Geiriau drwg?

“Bad Language”: cofnod, a thrafodaeth, diddorol tu hwnt ar Language Log am newidiadau mewn iaith, ac ystyr y geiriau “language” a “bad”. Mae’r cofnod yn ymateb i rywbeth ar Languagehat, sydd ei hunain yn dilyn o gofnod blaenorol ar y Log.

Ro’n i am gymharu’r sgwrs yna a’r un ar maes-e ynglŷn â’r ffordd mae defyndd iaith yn newid, ond dw i’n methu ffeindio’r geiriau.

Normaleiddiad ieithyddol

Wedi bod yn siarad â’m ffrind Maff am normaleiddiad ieithyddol: syniad anodd iddo fe, fel Saes uniaith i’w ddeall. Wrth trafod y peth gyda fe (a chwarae teg iddo, faint o Saeson sydd gyda diddordeb yn y fath peth?) roedd rhaid i mi feddwl yn ddyfnach.

Un peth sy’n holl bwysig, yw’r angen i weithio mewn cyd-destun rhyngwladol ac i beidio bod yn ynysol: does dim byd arbennig i’n sefyllfa yng Nghymru.

Mae’r erthygl hon yn sôn am y ffordd mae’r we wedi datblygu fel ffenomen amlieithog. Mae ’na lot yn yr erthygl dw i ddim yn cytuno â fe, ond mae hyn yn taro tant:

Until a critical mass of internet penetration in a country builds up, and a corresponding mass of content exists in the local language, the motivation to switch from English-language sites will be limited to those for whom issues of identity outweigh issues of information.

Yma yng Nghymru, dyn ni’n gwastraffu egni ar gwyno bod Yahoo yn gwbl Saesneg neu bod angen diweddiad dot cym cyn i ni ddechrau creu’r we Gymraeg.

Mae hyn yn warthus. Dych chi moyn pori’r we yn y Gymraeg? Llwytho Opera a’i phecyn ieithoedd Celtaidd. Dych chi moyn ymchwilio’r we yn y Gymraeg? Defnyddiwch Google Cymraeg. Dych chi mo’yn cynnwys, annibynnol, anfasnachol. Creuwch fe eich hunain! Mae ’na degau o filoedd o bobl yn defnyddio Blogger ond, am wn i, dim ond un person sy’n cadw gwe-flog Cymraeg ei hiaith. Y cwyn o’r sîn blogio’n Saesneg yw bod popeth yn rhy losgachol, gyda phawb yn cyplysu eu blogiau â blogiau eu ffrindiau a neb yn dweud unrhywbeth newydd. Rhaid bod y sîn blogio’n Gymraeg yr un mwya mastyrbaidd ar y we!

</rhefru>

Amrywiaeth Ieithyddol

Disgrifiad o gwrs mewn Linguistic Diversity and Inequality yng Ngholeg Cymunedol Metropolitan, Omaha, Nebraska. Mae’r cwrs yn edrych yn wych, ond ddim yn debyg byddai’n bosib i’w wneud o fan hyn. Beth sy yn ddefnyddiol yw’r rhestrau adnoddau i gyd-fynd â’r cwrs. Mae tudalen yn cynnwys llyfryddiaeth, rhestr o gynodolion, a chasgliad o gysylltiadau gwe. Digon i’w ddarllen, ‘te.