Gwersi iaith am ddim i fewnfudwyr

O’r diwedd, mae rhywun wedi derbyn bod rhaid i fewnfudwyr cael gwersi iaith am ddim os ydyn nhw am gymryd swydd yng Nghymru.

Gwersi yn yr iaith fain, hynny yw.

Mandy Price, human resources manager at Le Monde Restaurants in Cardiff, said, “Providing English lessons is something we were looking at for a while and are now benefiting from this initiative.

“It has helped with attracting, retaining and developing our staff and has led to improved customer service.”

No shit, Sherlock. Ond ’sai unrhywun yn ddigon hy i awgrymu y dylai gweithwyr yn y sector twristiaeth yn y Fro Gymraeg yn cael gwersi Cymraeg am ddim (gorfodol?) tybed beth fyddai’r ymateb?

Bobby Sands

Eleni, bydd hi’n 25 mlynedd ers i Bobby Sands farw. Zmag: Bobby Sands, ymprydio a dysgu Gwyddeleg. Erthygl ddiddorol, ond efallai yn gorddweud tipyn bach yma:

He learned the importance of education and, particularly, of learning the Irish language. By using Irish to discuss strategy with his fellow prisoners under the noses of the prison guards, he made it a living language.

Dw i ddim yn gwybod digon amdano, yn amlwg. Ydy hyn yn deg i’w ddweud?

All rhywun awgrymu llyfrau i fi am adeg yr ymprydio? Dw i wedi darllen (blynyddoedd yn ôl) llyfr gan Tim Pat Coogan, ond dw i wedi ei golli ers hynny – a dw i wedi dysgu iaith fy ngwlad fy hun yn y cyfamser. A ddylwn i ail-ddarllen hwnna, neu oes ’na rywbeth mwy diweddar byddai’n rhoi cyflwyniad i hanes diweddar Iwerddon i mi?

Cyfieithu ar y Pryd

Neges gan Rhian Owens, Swyddog Maes Bwrdd yr Iaith yn Aberteifi a ddaeth y bore ’ma.

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar effaith Cyfieithu ar y pryd a pha mor effeithiol y mae’r wasanaeth honno.

Rydym yn awyddus felly i ddod o hyd i grŵp o bobl a fydd yn fodlon dweud eu barn am eu profiadau hwy wrth fod mewn cyfarfodydd sy’n defnyddio cyfieithwyr ar y pryd.

O ganlyniad, rwyf wedi eich dewis chi fel bobl rwy’n tybio sydd wedi cael profiadau da a gwael efallai yn y maes hwn ac yn awyddus iawn pe byddech yn fodlon ein cynorthwyo gyda’r gwaith ymchwil.

Bydd ebost yn cael eu danfon allan yr wythnos nesaf yn nodi mwy o fanylion ynglŷn a ffurf yr ymchwil ac ati.

Gan ddiolch i chi o flaen llaw am eich cydweithrediad.

Unrhywun sydd â diddordeb cymryd rhan yn y gwaith ymchwil, cysylltu â fi a wna i basio eich manylion ymlaen at Rhian.

Dw i dal yn cofio bod mewn cyfarfod yng Nghaerdydd lle oedd dyn o Wlad y Basg yn siarad i gynulleidfa o (ar y cyfan) siaradwyr Cymraeg. Yn Saesneg oedd e’n siarad, gan fod dim ond cyfieithydd Cymraeg-Saesneg oedd yna, a dim ond Basgeg, Sbaeneg a Saesneg oedd y Basgwr yn siardwr. Pan daeth amser am gwestiynau, cododd rhuywun i ofyn rhywbeth, un o Genedlaetholwyr mwya amlwg Cymru, a dechreuodd e gofyn ei gwestiwn yn Saesneg. Torrodd y Basgwr ar ei draws, i’w atgoffa fe bod darpariaeth cyfieithu ar gael, a dylai’r Cymro ofyn ei gwestiwn yn ei iaith ei hun.

Dw i ddim yn cofio ei eiriau yn union, ond oedd e’n rhywbeth fel:

The translator will get paid, even if I’m the only one wearing headphones. You’ve spent 30 years winning the right to have a translator in public meetings. Don’t blow it now.

Rhith-Gaerdydd

Dw i heb chwarae Sim City ers y fersiwn diwetha ond un, ond mae gweld y delweddau o’r brosiect Ail-greu Caerdydd yn wneud i fi feddwl bod hi’n amser prynu copi o SC4. Neis iawn i weld pethau fel arwyddion dwyieithog ac ati.

A fydd y Rhith-Gaerdydd yn fwy Cymraeg na’r Caerdydd go iawn, dybed?

(Newydd sylwi: dyw e ddim ar gael i’r Mac. Bŵŵŵŵ!)

[maes-e]

Ymadroddiadau Hugo

Un am fy nghyfeillion sy’n bodio’r bydysawd: rhestr o ymadroddion anarferol yn nofelau Hugo, wedi’u tynnu o gronfa ddata “Search Inside” Google.

Pa lyfr yw hwn?

shadow square wire, stepping discs, sonic fold, hyperdrive shunt, intercom image, cziltang brone, second quantum hyperdrive, puppeteer fleet, crash balloons, transfer booths, sleeping plates, galactic axis, flashlight laser, electromagnetic cannon, shadow squares, puppeteer worlds, fusion motors, ring foundation, lifting motors, crash couch, infinity horizon, zap gun, floating building, scope screen, fusion drives

Carcharu Gwenno

Mae Gwenno Teifi yn y carchar heddi, am ei rhan hi yn y protetiadau yn erbyn Radio Carmarthenshire. Delfrydwyd i 5 niwrnod yng Ngharchar ei Mawrhydi, Caerloyw. Mae hi’n 19 oed.

Mae Radio Carmarthenshire yn galw ei hunan “your radio station”, ac mae’n darlledu ar draws Carmarthenshire, o Ammanford i Newcastle Emlyn, o Llandovery i Whitland.

Dw i newydd diwnio i mewn i Radio Carmarthenshire ac yn ddigon lwcus i glywed doethineb y Sugarbabes:

People are all the same
And we only get judged by what we do

Wir yr.

Edrych ymlaen at glywed bwletin newyddion “your station”.

Amseroedd diddorol

Dw i’n dechrau rhannu teimlad Hedd Gwynfor a sawl cenedlaetholwr arall bod rhywbeth od wedi digwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru: maen nhw’n dechrau edrych yn radicalaidd ar gwestiwn yr Iaith. O leia, wrth eu cymharu â’r Blaid Lafur “Gymreig”, sy’n mynd yn fwy ffiaidd tuag at yr iaith a’r sawl sy’n dewis ei defnyddio gyda phob datganiad.

Mewn datganiad o’r wythnos diwetha, eto gan y Toriaid, dwedwyd:

Welsh Conservatives have demanded that Culture Minister Alun Pugh distances himself from “inflammatory” comments made by a government spokesperson about the Welsh language.

The comments came in an article on proposals from the Welsh Language Board for an independent regulator to monitor the rights of Welsh language speakers in the public sector.

In the article the government spokesperson refers to the “death throes” of the Welsh Language Board, and adds: “We are talking about a situation where English speakers have rights too. Turkeys don’t vote for Christmas but no-one voted for the language board either.”

Iawn, dw i’n gwybod bod hyn yn beth hurt i’w ddweud, ac mae llafarydd siwr o fod wedi difaru, ond mae’n dangos pa mor bell yw Plaid Lafur o’r pwynt o wneud Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol – maen nhw’n dal i weld hyn fel cyfaddawd i siaradwyr Cymraeg yn lle y cam cynta tuag at ddatwneud effeithiau canrifoedd o anghyfiawnder yng Nghymru. Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd Llafur yn ymateb i’r her newydd o ddefnyddio’r iaith fel ffordd o ymosod ar y Toriaid a Phlaid Cymru.

Difyr iawn.

Ddim yn siarad Saesneg? 15 mlynedd!

Dyn ni’n cael ein gwylltio/diddanu gan enghreifftiau o gyfieithu gwael ond weithiau mae canlyniadau’n gallu bod tipyn bach yn fwy difrifol. Yn America, os dydy dy sgiliau Saesneg ddim yn dda, allwch chi bennu lan yn y carchar:

Unable to speak English, Juan Ramon Alfonzo stood before a judge and expected to receive probation for stealing a toolbox.

To his surprise, the judge sentenced him to 15 years in prison, followed by 15 years of probation, for stealing a dump truck valued at $125,000.

Now, court officials agree Alfonzo entered the wrong plea because his court-hired interpreter, Marianne Verruno, provided an incomprehensible translation.

Fyddai rhywbeth fel hyn byth yn digwydd yma, wrth gwrs.

Her Majesty’s Courts Service Welsh Language Scheme commits Her Majesty’s Courts Service to support fully the principle behind the Welsh Language Act and accept the importance of treating those in Wales who wish to use Welsh, in the same way as those who wish to use English.

Tybed, pryd oedd y tro diwetha oedd rhaid gohiro achos llys gan fod yr ynadon ddim yn medru’r Saesneg?

Bu’n rhaid gohirio’r achos [yn erbyn Gwenno Teifi] gan nad oedd hi’n bosib i’w gynnal yn Gymraeg, dadleuodd swyddogion y llys fod yn rhaid gwneud cais arbennig i gael yr achos yn Gymraeg.

Triniaeth cyfartel fy mhen-ôl.

[Diolch i Pat]

Bwrdd yr Iaith yn deffro

Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg. Dw i dal heb orffen darllen hyn, ond mae’n ymddangos yn fwy radicalaidd na dim byd dw i wedi gweld o’r Bwrdd o’r blaen. Mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith yn ei groesawi. Dim ond person sinigaidd iawn byddai’n dweud bod hyn yn dod bach yn hwyr yn hanes y Bwrdd, nawr eu bod nhw’n wynebu cael eu llyncu gan y Llywodraeth, a dw i ddim yn teimlo yn sinigaidd heddi. Mae’r haul yn gwenu, mae’r adar yn canu, ac mae Bwrdd yr Iaith yn tynnu ei fys ar fater Deddf Iaith Newydd: gwanwyn cynnar eleni?

BBC Cymru: Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw am newid deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith.
BBC Wales: The Welsh Language Board is calling for a revamp of language laws.
Mordicai: Datblygiadau Deddf Iaith.
Trafodaeth ar maes-e.

Adfer iaith am ffilm Malick

The New World, ffilm diwetha y cyfarwyddwr Terrence Malick, yn dilyn hanes John Smith a Pocahontas, ond nid stwff Disney sydd yma, mae’n debyg. Roedd Malick am i’r bobl frodorol yn y ffilm siarad yr iaith frodorol a oedd Pocahontas a’i thylwth yn ei siarad yn yr ail ganrif ar byntheg. Dim ond un broblem sydd: does neb wedi siarad yr iaith honno ers 1795.

Dim problem, meddai Malick, a dyma fe’n cyflogi’r ieithydd Blair Rudes o Brifysgol Charlotte i adfer iaith farw Algonquieg Virginia.

Gwenno yn wynebu carchar

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Aelod yn wynebu carchar.

Bydd aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos o flaen Ynadon Caerfyrddin am 10am fore Llun (9.1.06) i esbonio paham ei bod yn gwrthod talu costau a iawndal i Radio Sir Gar hyd werth £200.

Mae Gwenno Teifi, 18 oed, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn cyntaf yng Ngholeg y Prifysgol Aberystwyth. Ym mis Ebrill 2005, fe’i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200.

Bydd Gwenno’n dweud wrth y llys nad oes unrhyw fwriad ganddi i dalu lawndal i’r Orsaf Radio a fu’n destun ymchwiliad llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o’r Gymraeg. Hyd yma, mae swyddogion ar ran y llys wedi methu meddiannu unrhyw eiddo gan Gwenno.

Bydd Gwenno’n ychwanegu yn ei datganiad i’r Ynadon “Mae’r Orsaf Radio hon yn dwyn enw’r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o’r Gymraeg yn warthus. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy’n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol.

“Mae’r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i’r Gymraeg yn holl cyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd.

Pob lwc i Gwenno. Safiad dewr iawn.

[Gol. 9 Ionawr 2006] Anhygoel. Oedd rhaid gohiro’r achos yn erbyn Gwenno tan 6 Mawrth gan fod Llys Ynadon Caerfyrddin – blydi Caerfyrddin ddim â’r gallu i glywed achos yn y Gymraeg. Beth yn y byd o’n nhw’n disgwyl, bod aelod Cymdeithas yr Iaith sy’n wynebu carchar ar ôl ymgyrchu dros y Gymraeg yn mynd i ddweud “o, peidiwch poeni, sdim ots ’da fi cael fy achos yn Saesneg”.

Ddim yn Criogaid

Expert slams plan to ‘invent’ Gaelic words. Ond dydy’r arbennigwr ddim yn arbennigwr, a dydy’r geiriau newydd ddim yn newydd.

New Gaelic words conceived by the panel include:

Cricket – Criogaid
Curry – Coiridh
Fax – Facs
Giro – Dioro
Jeans – Dinichean
Lesbian – Leasbach
Ozone – Oson
Pizza – Piotsa
Quango – Cuango
Video – Bhidio
Vodka – Bhodca
Yoga – Ioga

Dyfeisiol iawn. Pam mae hyn yn stori, tybed?

[Gol.] Mwy ar y stori yn Herald, sy’n adnabod y ffaith taw cadarnhau orthograffi sy’n digwydd yma, ar y cyfan, nid “inventing new words”. Ond mae’n dal llawn top o ystradebau nawddoglyd am siaradwyr yr Aeleg:

Eacstasaidh Ecstasy
While you are unlikely to score this drug at a ceilidh on Barra, at least Gaelic now allows you to inquire about its availability.

Ho ho ho.

[Gol. eto] I fod yn deg, mae’r golofn olygyddol yn yr Herald yn siarad sens.