Missives on Outlander Japanese. Cofnod mewn ffurf deialog ar y blog Néojaponisme ynglŷn â’r dewisiadau ieithyddol ar gael i “ddieithrin” yn Siapan sy wedi dysgu’r iaith. Mae llawer iawn o bwyntiau i gnoi cil drostynt, yn y ddeialog ei hun, yn y drafodaeth wedyn, a draw ar flog Languagehat, lle ffeindiais i’r peth yn y lle cyntaf.
Er enghraifft, mae pawb yn derbyn bod bwlch diwylliannol rhwng pobl Siapan a phobl y Gorllewin sy’n byw yna, a bod rhan o’r broses o “ffito mewn” i’r gymuned Siapaneg yw derbyn hyn ac addasu iddo fe. Yn ein hachos ni yng Nghymru, er i ni sôn am “groesi pontydd” wrth ddysgu’r iaith, prin iawn bod trafodaeth gall am y gwahaniaethau diwyliannol rhwng y Cymry Cymraeg a’r canran isel iawn o fewnfudwyr sy’n llwyddo dysgu’r iaith i safon defynddiol. A beth am y ffordd mae dysgwyr yn hoffi defnyddio geiriau dydy Cymry Cymraeg eu hardal ddim yn debyg i’w defynddio? Sut mae hynny yn effeithio ar y deinamig?
There are immediate rewards in using fancy Japanese in front of Japanese people: wow, you know the word X? At that moment, you do feel pretty fancy, the time spent in studying obscure Japanese feels completely justified, and your speaking partner probably does not necessarily think you are a wiener. The issue, however, is that becoming a working member of society means not always pointing out the fact that you are attempting to become a working member of society.
Kapow!
Mae’r sylwadau yn werth eu darllen – dw i heb orffen mynd trwyddyn nhw eto – ac mae mwy o ddolenni i bethau diddorol, fel traethawd ar “ego ieithyddol” a rhan o’r erthygl Wikipedia (Saesneg) ar ddwyieithrwydd.
(Diddorol cymharu, gyda llaw, yr erthygl olaf gyda’r erthygl Gymraeg ar yr un pwnc, ond testun cofnod arall yw hynny, siŵr o fod.)







