Macintosh Garden – ble mae hen gemau Maintosh yn mynd i farw.
Tag Archives: Hwyl
Desg Lego a Phapurau Wal Telebocs
Lego! So ni wedi cael dolen Lego-aidd ers tro’r byd. Dyma desg wedi’i wneud o Lego. [diolch, kafkaesque!]
Papurau wal oddi ar y teledu! Mork a Mindy! The Prisoner! Ivor the Engine! [diolch, kliuless!]
FrisbÓ i’r eithaf
Ultimate frisbee, gêm tîmau sy’n cael ei chwarae ar y lefel uchaf ond sy ddim yn defnyddio dyfarnwyr. Yn lle hynny, mae chwaraewyr eu hunain yn defnyddio Ysbryd y Gêm, a steil a chwarae teg yn fwy pwysig na phwy sy’n ennill. Blydi hipis.
Spirit of the Game is to ‘be cool.’ Play hard, be better, but don’t be an asshole. NO deliberate fouling… Be considerate about missunderstood rules, not cocky. No spiking, no trash talking (unless they’re friends like that), no dangerous play and make your own calls fairly. And it’s “contest” or “no contest” no yelling and spitting about it.
A chanol byd y gêm? Califfornia? Nage wir, y Ffindir.
[Mefi]
Prosiect Daedalus
Prosiect Daedalus – astudiaethau ynglŷn â seicoleg pobl sy’n treulio eu hamser sbâr mewn bydoedd dychmygol MMORPG. Dw i erioed wedi mynd yn bell gyda gemau o’r math, gan fy mod i’n rhy misanthrophic ar y cyfan (yn enwedig tuag at pobl ifanc America, sy’n tueddu bod yn y mwyafrif, yn fy mhrofiad i), ond mae rhywbeth am y syniad sy’n apelio o hyd. ‘Sai modd i chwarae gêm fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, bydda i ’na.
Mae Terranova yn weflog am MMORPG a bydoedd dychmygol.
Mae trafodaeth difyr ar maes-e am bersonae ar y maes ac yn y cigfyd, hefyd, ond dw i ddim yn siwr pa mor bell all rhywun gwthio’r cymhariaeth rhwng gemau RPG a’n profiad o gyfrannu at gyunedau ar-lein.
Llythrennau ar hap
typoGenerator – dodi testun i mewn i’r bocs, a bydd y teclyn yn defnyddio ymchwilydd lluniau Google i lunio llun newydd ar hap.
Jesus Was Never This Cool
Mae Tom Lazar yn ffan John S. Hall, felly mae e wedi recordio ei hunan darllen rhai o stwff John.
I mean, that’s so cool.
Cwrddais i â John Hall unwaith. Ydw i wedi dweud y stori ’na eto? Does dim llawer o storiau roc a rol ’da fi, ac, a bod yn onest, dyw honna ddim yn arbennig o dda.
Wna i gadw’r stori am rywbryd arall.
Peiriannau Uffernol
Compendiwm o Awtomatau Bychain. Hwyl gyda Fflach gan y brodyr Lycette o Melbourne, Awstralia.
Wedi’i sgwennu yn y sêr
Cynhyrchydd seryddol – sgwennu neges yng ngofod.
Wyt ti’n siarad ASCII?
Cynhyrchydd ASCII – teipio testun i mewn a chael fersiwn ASCII yn ôl:
Cadw fe lan
BallDroppings
– enw braidd yn anffodus, ond gêm/tegan bach neis.
Frŵm, frŵm
Ferrari wedi’i wneud o bren.. Sy’n gwch.
[Mefi]
Pwy geith eu bwyta yn gyntaf?
Pan cwrddodd Cthulhu â Chick – stori am beth fydd yn digwydd pan mae’r Hen Dduwiau yn codi, yn steil traethodynnau Jack Chick.
A Softer World – llên meicro gyda lluniau, stribennau cartwn bach trist. Lwcdeithwyr.
Hwyl gyda Ninjaiaid
Theatr Ninjas Bychain – wnewch eich golygfeydd cyffroes eich hunan.
Ninja Byrger – gêm chwarae rôl unigriw. Peidiwch â cholli’r haiku. Sdim enghraifft well o groes-wrteithio aml-ddiwylliannol na haiku Nadoligaidd:
Children cry “Ninja!”
My pockets have many gifts
Shuriken for all.
Llawer mwy o stwff Ninjaidd ar #!/usr/bin/girl.
Rhywbeth yn dy lygad, Harri?
Cit adeiladu chwedlau hanesyddol. Defnyddio lluniau o dapestri Bayeaux i ddweud dy storiau dy hunan.
Cloc y blociau
Cloc blociau. Mae’n hollol bosib y bydda i’n aros i fyny tan hanner nos heno jyst i wylio’r peth wirion ’ma.
Nukey Pikes
Symudiadau cyflym
RapidMotion – gêm pinbel gwahanol. Dw i ddim yn siwr os ydw i’n deall y gê neu beidio, ond mae’r effeithiau swn yn f’atgoffa o chwarae Myst, felly bodiau i fyny.
Shhhhhh!
Action Figure Llyfrgellydd. Deryn yw hi? Awyren yw hi? Nage, uwch-lyfrgellydd yw hi!
Sy’n atgoffa fi o un o’m hoff jôcs.
Dyn: Ga’ i Big Mac a milc-shêc, plîs?
Llyfrgellydd: Sori syr, ond llyfrgell yw hon.
Dyn (yn dawelach): O, mae’n flin ’da fi. Ga’i Big Mac a milcshêc, plîs?
Dw i fy lladd fy hun.
Roliwch eich Aaaarrgghhhhs!
O’t ti’n gwybod taw Medi 19 yw diwrnod rhyngwladol Siarad Fel Môrleidr? Wrth gwrs o’t ti, achos dy fod di’n darllen Bif Riv fel bob plentyn call.
Gaf i “B”, plîs, Bob
Brenhines y gwenyn, fersiwn o Hecs, gêm annodd iawn i dwpsinod fel fi.







