Saeson Obsesiynol

Mae gan Adele Prince hobi bach od: mae hi wrth ei bodd canfod trolïau siopa ar strydoedd dinasoedd mawrion Lloegr.

Mae rhaid i rhywun wneud, sbo.

Dydy hi ddim ar ei phen ei hunan chwaith.

Bocs rhegi rhithiol?

Bydd Dogfael yn lico hyn: merch sy’n tynnu llun o bopeth mae hi’n bwyta am flwyddyn. Popeth.

Saeson, eh? Ffaelu byw gyda nhw, ffaelu wneud jôcs am losgi eu tai haf i lawr.

(Y nodyn anghenrheidiol: nid “y Saeson” yw gwir targed ein dirmyg eironig yma, ond “yr artistiaid cysyniadol”. Dyn ni’n chwarae gyda’r syniad o fod yn philistaidd, ond i fod yn deg, mae rhai o’n ffrindiau gorau yn artistiaid cysyniadol. Diolch am fod yn amyneddgar.)

Beth mae’r Saeson wedi’i wneud i ni?

Englandism:

Had webstats on for a couple of weeks 5,000 and counting.  When we’re up to 100,000 we should be able to invade Wales again – this time use the old Severn Bridge and the Ross spur?

Ti a byddin pwy, gwboi?

Lot o stwff da yna, gan gynnwys bywargraffiadau Saeson mawr megis Darwin, Brunel a Purves. (Credwch neu beidio, des i ar draws y wefan gan Googlo Lesley Judd, yn sgil breuddwyd hapus iawn ces i neithiwr. Rhywbeth arall mae’r Saeson wedi’i wneud i ni, gawd bless ‘em.) Mae rhai Darwin a Brunel wedi’u dwyn o’r we, ond mae paragraff ola yr un Peter Purves yn wreiddiol, o leia. Sy’n awgrymu wnaeth y boi ddwyn y holl gynnwys ’na, a chreu’r holl dudalennau ’na, dim ond er mwyn wneud un jôc am Peter Purves, rhywun does neb dan 30 oed yn gwybod dim amdano. Chwarae teg, mae ysbryd y Blitz yn fwy ac yn iach yn Warminster.

Yr unig peth sy’n pryfoco fi am y safle yw’r camdeipo “..in out likeness..” sy’n ymddangos ar frig bob tudalen, a’r cam-gam-ddyfynnu geiriau’r anfarwol Cerys ar y dde [gol. fy ne innau, eich chwith chithau]. Mae popeth arall yn ddoniol iawn, ddo.

Sioe dda felltigedig, ychan.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd , |

Adolygiadau Prysor Pamffledi’r Pleidiau

Yn ôl y Sun, hwn yw’r etholiad cyffredinol mwya diflas yn hanes y byd erioed. Dydy’r Sun ddim yn darllen maes-e, mae’n amlwg. Dros y wythnos neu ddwy diwetha mae Dewi Prysor wedi bod yn postio adolygiadau o hysbysebion-trwy’r-drws gan y Pleidiau Mawrion, ac UKIP hefyd. Dyma nhw, ddim mewn unrhyw drefn arbennig:

Plaid Cymru
Democratiaid Rhyddfrydol
Llafur Newydd
Tori
UKIP

…ac, yn nawr…

Plaid Cymru, y sequel

Wyt ti’n meddwl o gwbl?

Tro cynta i mi weld un o bosteri hiliol y Ceidwadwyr o’n i’n meddwl oedd yn jôc. Wedyn, ar ôl syweddoli pa mor isel mae’r Toris wedi syrthio, ro’n i’n meddwl pa mor hawdd byddai fe i’w newid i ddweud rhywbeth arall.

Ond nawr, cei di wneud dy boster hiliol dy hunan gyda’r teclyn bach ’ma.

Croeso i unrhywun sy moyn creu un i’w ebostio fe ata i, a wna i bostio’r goreuon yma.

“Spore” a’r byd nesa

Ffordd newydd o feddwl am gemau. Will Wright (SimCity, The Sims) yn sôn am Spore, ei gêm nesa. Y peth sy’n newydd am hyn yw ei fod yn dibynnu ar y chwaraewyr i greu cynnwys y gêm. Fel gemau eraill Wright, mae’n fwy o “degan” na “gêm” – does dim llinell enill, mae’r gêm yn chwarae ei hunan mewn ffordd.

Pethau fel hyn sy’n wneud i fi ddifaru nad yw cloning yn bosibl eto. Mae rhan ohona i byddai’n gwbl hapus i fwy mewn byd hollol artifisial fel hyn, ond rhan arall ohona i sy moyn byw yn y coed. Noeth.

A’r unig corff sy ’da fi yn gorfod byw rhywle rhwng y ddau.

O’r gorau, dyw e ddim yn Hamlet, ond mae yn drasiedi bach, yn ei ffordd ei hun.

[trwy wonderland]

Pont Scott Gibbs

Scott Gibbs yn dawnsio fel y gwynt(Jyst rhag ofn bod chi ddim wedi cael yr ebost sy’n mynd rownd am hyn, neu’r edefyn ar y maes.)

Mae Asianaeth Datblygu Llundain wedi gofyn am awgrymiadau i enw pont newydd i stadiwm Wembley. Ar hyn o bryd mae Scott Gibbs ar frig y pôl. Prin iawn y bydd y bastads yn gadael iddo ennill, ond bydd yn ddiddorol gweld pa esgus maen nhw’n defnyddio. Ar hyn o bryd “It was just a bit of fun” yw’r un mwya tebygol.

Mae’r Byd yn Anhygoel, Simon

Extraordinary World – o’r diwedd! Gêm chwarae rôl canol oesol i ffans Duran Duran!

The evil Warlock Prince, and ruler of Arcadia. Nikolai has been recently banished to another dimension by his even eviller twin brother, and his identity stolen by him. Nikolai is stuck in a normal, non-magical human world, and people keep calling him Nick Rhodes…

Mae hyn yn cyrraedd lefel gici-rwydd doedd y Brunching Shuttlecocks erioed wedi dychmygu.

[Ffeindiwyd trwy tudalen Flickr tylluan - lluniau hyfryd, hefyd.]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Dw i’n teimlo fel Gethin Ev heno

KFC< nid KFC. Sut i wneud dy siop cyw iar wedi’i ffrio edrych fel siop cyw iar wedi’i ffrio bach mwy enwog, heb gael dy siwio. Falle.

Un o’r pethau trist am y band Kentucky AFC – beth ydw i’n dweud? – yr unig peth trist, yw’r ffaith y bydd rhaid iddyn nhw newid eu henw unwaith maen nhw’n “gwneud e yn fawr”, achos bydd cyfrieithwyr KFC i lawr arnyn nhw fel tunnell o frics poeth.

A ydy e’n wir bod Gethin Ev wedi dechrau “cwmni chickens”? Beth yn y byd?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd