Fideo du Jour

Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ’ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd – prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:

Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd – do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):

Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.


[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.

Gêm y Grid

Tegan, yn hytrach na gêm, dwedwn i, oni bai bod yr amynedd ’da ti i weithio ma’s lle yw’r lle gorau i glicio a dechrau’r adwaith cadwynnol.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Porno i Nyrdiaid

O’r diwedd!

First I want to copy her Trig homework, and then I want to make mad, passionate love to her for hours and hours
until she reluctantly asks if we can stop because she doesn’t want to miss Battlestar Galactica.

Suma cum laude, baby!

That is what I call erotic.

Mwy o MP3au gan Ernie Cline.

[BoingBoing]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Arbrawf plentynaidd

Sori am hyn, ond ers i mi bostio fy rant hirwyntog ddoe, am ymdrechion “price4president” i dduo fy enw da, mae e/hi wedi troi off y sustem trackback ar y cofnod amdana i, fel wnes i ragweld yn y rant.

(This blog post contains a trackback ping. Trackbacks, I notice, are open on Nat Watch, even if comments aren’t. So a link to this rebuttal should appear on Nat Watch itself, unless p4p choose to delete it. I bet trackbacks get disabled by tomorrow.)

Mae e wedi troi off trackbacks ar y cofnod am Dafydd Wigley, felly dw i’n cymryd bod rhywun wedi blogio am hynny, a dweud rhywbeth sy ddim yn ffito yn daclus ym myd un deimensiwn p4p.

Mae hyn yn ddoniol iawn. Hyd yn hyn, dyw e ddim wedi troi off y trackbacks ar y cofnod hwn, felly dyma fi anfon ping at y cofnod hwnna. Bydd e naill ai yn ymddangos ar y blog, neu bydd yn cael ei ddileu gan p4p, ac wedyn bydd y sustem trackback yn cael ei chau ar y cofnod hwnna hefyd.

Dw i’n gwybod bod hyn yn blentynaidd, ond mae’n eitha diddorol hefyd i weld i ba raddau mae p4p yn fodlon mynd i gau i lawr trafodaeth, er gwaethaf pa mor chwerthinllyd mae hyn yn wneud iddo/iddi edrych. Does gen i ddim ots am edrych yn chwerthinllyd, achos dydw i ddim yn aelod etholedig y Cynulliad Cenedlaethol – nid bod p4p yn un o’r rhain, chwaith, wrth gwrs – dim ond blogiwr ar ei wyliau ydw i. ;-)

Sgrînlun y cofnod fel y mae nawr, 11.15 y bore.


[Gol.] Sgrînlun am 2.15 y prynhawn. Spot the difference.

Oes esboniad arall?