Gwelon ni The Golden Compass neithiwr, ac er i mi ddarllen a gwrando ar sawl adolygiad, ces i fy synnu pa mor wael oedd hi. Roedd pethau da amdani, a dw i’n falch rhoddais i’r DVD ar fy rhestr; roedd y rhan fwya o’r actorion yn iawn, ac oedd cynllun celfyddydol y ffilm yn wych. Ond oedd strwythur y peth yn gawlach llwyr. Mwy fel treilar hir am ffilm arall roedd hi, un set piece ar ôl y llall, heb amser i’r gwyliwr cymryd mewn pwy yw pwy, beth yw beth, a ble yw ble, cyn cael ei chwipio bant i ochr draw y byd, mewn zeppelin, neu ar gefn arth, neu gyda chriw o wrachod, sipsiwns dŵr a’r cowboi o’r Big Lebowski.
Gwraidd y broblem yw llyfrau Pullman, nid bod dim byd o’i le gyda nhw fel llyfrau, wrth gwrs. Ond gan fod y ffilm yn gorfod apelio at bobl sy ddim wedi darllen y llyfrau, ar y cyfan, mae rhaid trial stwffio i mewn bob syniad mor gyflym ag sy’n bosibl, ac i esbonio popeth gyda chlampau mawr o esboniadaeth bob pum munud. Mae hyn yn gweithio’n iawn gyda’r demoniaid – efallai byddai gwneuthurwr ffilm dewrach wedi trystio ei gynulleidfa i weithio ma’s arwyddocâd yr anifeiliaid heb esbonio’n fanwl mewn gor-lais, ond bai Hollywood yw hynny, nid Chris Weitz ei hunan. Ond mae’r busnes am y “llwch” yn torri’r ffilm yn racs. Mae’n sbel ers i mi ddarllen y llyfrau, ond ydw i’n iawn i feddwl bod y syniad yna yn cael ei gyflwyno yn ara deg, dros y ddau lyfr cyntaf? Efallai taw fi sy’n cam-gofio. Ta beth, pan daeth llwch i mewn i’r stafell, o’n i’n gallu clywed fy nghydwylwyr dechrau tagu ar yr esoniadaeth. Roedd e’n fy nrysu fi, a dw i wedi darllen y llyfrau.
Collon nhw gyfle yma, gyda’r llaw. I gyd oedd angen oedd cael Lee Scoresby i esbonio:
The Dust abides. I don’t know about you but I take comfort in that. It’s good knowin’ it’s out there.
(Dylwn i symud i Hollywood bois. Dyfodol disglair, ac yn y blaen.)
Tua diwedd y ffilm mae Lyra yn esbonio i Roger (sy’n cael ei ladd yn y llyfr, ond wrth gwrs nid yma) bod digon o’r stori ar ôl i wneud o leia dwy ffilm arall, a byddai’n syniad da iddo fe ddarllen y blydi llyfrau’n gyntaf i beidio bod mor ar goll y tro nesa. Wel, geiriau i’r diben ’na.
Siom, felly.
Ond diddorol oedd ffeindio, trwy’r erthygl ar Wikipedia ac wedyn fan hyn y rheswm am y gwahaniaeth rhwng teitl y llyfr Northern Lights fel y mae ym Mhrydain, a’r llyfr a ffilm The Golden Compass. Roedd yr holl beth yn deillio o gamddealwriaeth ar ran cyhoeddwyr Americanaidd Pullman. Roedd e am rhoi, fel teitl i’r gyfres i gyd, The Golden Compasses, sy’n cyfeiriad at ddelwedd Milton o offer cynllunio Duw:
The golden compasses, prepared
In God’s eternal store, to circumscribe
The universe, and all created things.
Dim byd i wneud â’r alethiometer, felly. Wnaeth Pullman newid ei feddwl am deitl y gyfres, gan ddewis dyfyniad arall o eiddo Milton, ond erbyn hynny oedd ei deitl gweithiol am y gyfres wedi glynu wrth y llyfr cyntaf yn America, ac wedyn i’r ffilm yn ei thro. Tan y bore ’ma ro’n i’n meddwl taw newid yr teitl er mwyn cael cysondeb rhwng y tri llyfr (The [Adjective] [Noun]) wneathon nhw, a dyna beth dwedais i wrth fy nghydwylwyr neithiwr. Well i mi fynd a dweud y gwir wrthyn nhw, ‘te.