Cymro? O’r Ariannin? Ar dy feic, ychan.

Stori ar icNorthWales am ddyn ifanc o Batagonia a gafodd ei holi am bedwar awr gan swyddogion mewnfudo Heathrow, ar ôl iddo awgrymu bod linc diwylliannol rhwng Cymru a’r Ariannin:

[Alejandro Jones] is the great great grandson of John Daniel Evans, one the pioneers who boarded the Mimosa in Liverpool 140 years ago this coming Wednesday, and one of the 153 hardy souls bound for Argentina where they hoped to found a New Wales.

He feels particularly strongly about the lack of knowledge and crass indifference he says immigration officials at Heathrow displayed about Wales, and in particular the nation’s long-standing links with Argentina.

His pleas were apparently dismissed with the same arrogance shown to those who expressed concerns about Welsh troops having to cross swords with Argentine soldiers of Welsh ancestry during the Falklands War in 1982.

[diolch i Mali, ar y maes]

Beth mae’r Saeson wedi’i wneud i ni?

Englandism:

Had webstats on for a couple of weeks 5,000 and counting.  When we’re up to 100,000 we should be able to invade Wales again – this time use the old Severn Bridge and the Ross spur?

Ti a byddin pwy, gwboi?

Lot o stwff da yna, gan gynnwys bywargraffiadau Saeson mawr megis Darwin, Brunel a Purves. (Credwch neu beidio, des i ar draws y wefan gan Googlo Lesley Judd, yn sgil breuddwyd hapus iawn ces i neithiwr. Rhywbeth arall mae’r Saeson wedi’i wneud i ni, gawd bless ‘em.) Mae rhai Darwin a Brunel wedi’u dwyn o’r we, ond mae paragraff ola yr un Peter Purves yn wreiddiol, o leia. Sy’n awgrymu wnaeth y boi ddwyn y holl gynnwys ’na, a chreu’r holl dudalennau ’na, dim ond er mwyn wneud un jôc am Peter Purves, rhywun does neb dan 30 oed yn gwybod dim amdano. Chwarae teg, mae ysbryd y Blitz yn fwy ac yn iach yn Warminster.

Yr unig peth sy’n pryfoco fi am y safle yw’r camdeipo “..in out likeness..” sy’n ymddangos ar frig bob tudalen, a’r cam-gam-ddyfynnu geiriau’r anfarwol Cerys ar y dde [gol. fy ne innau, eich chwith chithau]. Mae popeth arall yn ddoniol iawn, ddo.

Sioe dda felltigedig, ychan.

A most peculiar people

A most peculiar people – erthygl ar wefan y Cyngor Prydeinig i bobl o Slofenia (?) am y “perthynas arbennig” rhwng y Cymry a’r Saeson *perswch*11-9*peswch*.

Stwff cryf:

ëSheepshaggerí (referring to bestiality) is a deeply offensive slur on the Welsh by English racists. ÝThough this particular insult is usually not made publicly for obvious reasons, it is only the most extreme example in a long tradition of attacking the Welsh for cheap laughs.

[diolch i Castell Tywod]

Posted in Heb gategori | Tagged

Cymru Sbwci

Weird Wales – adran newyddd ar wefan y BBC sy’n edrych ar ddigwyddiadau X-ffeiliaidd yng Nghymru. Mae ganddyn nhw stori o Langrannog:

“Late at night whilst walking along the beach alone to find my beach towel, I saw a person standing by the sea. I thought nothing of it until I saw he was wearing an old-fashioned sailor suit! He stood there glaring into the sea and I turned my back for one split second to pick up my towel and when I looked behind me he had gone!

“I went back and I told the people at the local cafe this story and they said “Oh it’s only Huw Pugh”. Huw Pugh was a sailor who died in the area back in the 18th century. Many people in the area have experienced encounters like mine too.”

Na, nid y Huw Pugh ’na yw e. Mae ein Huw Pugh ni yn foi sy’n byw ar dyddyn tu mas i Bontgarreg. Mae’n joio gwisgo lan fel merch ysgol Siapaneg a cherdded y traeth fin nos yn y haf.

Camgymeriad hawdd i’w wneud, ddo.

diolch i Dio Bach

Posted in Heb gategori | Tagged

Niclas y Glais a’r swastikas bach

Fframio Niclas y Glais – mae Archif Genedlaethol Prydain, Gerddi Kew, wedi rhyddhau’r papurau o adeg cafodd Niclas y Glais ei arestio ar gyhuddiad o fod yn ffasgydd.

Yn swyddogol, roedd dau gyhuddiad yn ei erbyn e a’i fab Islwyn sef:

1. Eu bod wedi bod yn weithgar yn yr ymdrech i rwystro’r broses recriwtio i Luoedd Arfog ei Mawrhydi.

2. Eu bod yn berchen ar gasgliad o swastikas papur coch.

Pan ddaeth heddlu Aberystwyth ar draws y swastikas bach papur coch yma, cafodd Nicholas ei arestio ar unwaith a’i anfon i garchar Abertawe ac wedyn i Brixton.

[..]

Nid am ei fod yn ffasgydd yr oedd baneri bach ’ swastikas arnyn nhw gan Niclas y Glais – ond am ei fod yn darllen y Daily Telegraph.

Roedd y baneri wedi dod, mae’n debyg, gyda map o’r rhyfel am ddim yn y papur newydd.

Fersiwn Saesneg o’r stori hon.

Posted in Heb gategori | Tagged

Gardd Glyndŵr

Agorwyd Gardd Goffa Owain Glyndŵr ym Mhennal ddydd Sadwrn, gyda datguddio cerflun newydd o Owain gan David Haynes.

Dw i’n ffaelu ffeindio lluniau o’r achlusur, naci’r cerflun. Mae’n bosib bod rhywbeth ar wefan Llysgenhadaeth Glyndŵr, ond gan fod hwnna yn crasho fy mhorwr bob tro dw i’n ymweld â fe, dw i ddim yn gwybod – http://www.embassy-glyndwr.co.uk/ yw’r URL, os wyt ti’n teimlo’n ddewr. Paid ymweld â fe os wyt ti yng nghanol gweithio ar rywbeth arall yn dy borwr, fel cofnod blog er enghraifft.

Grrr.

O Ddengair Deddf y We: Na wna dy wefan yn ffieiddbeth ar y synhwyrau.

Posted in Heb gategori | Tagged

Mieri lle bu mawredd

Chwilio am Ifor Hael. Yn 1780, sgwennodd Ieuan Brydydd Hir ei englyn enwog*:

Llys Ifor Hael, gwael yw’r gwedd – yn garnau
Mewn gwerni mae’n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a’i medd,
Mieri lle bu mawredd.

Dim lot wedi newid, felly.

Enwog i chi falle. Dw i newydd ei ddarllen am y tro cynta. Ew, braf yw bod y dysgwr. Pethau gwych i’w ddarganfod bob dydd.

Posted in Heb gategori | Tagged

William Wirt Sikes

British Goblins gan William Wirt Sikes. Gwelais i ddarlith ar y llyfr hwn gan Dr Brinley Roberts cwpl o wythnosau yn ôl.

Tipyn o gymeriad oedd William Wirt Sikes. Americanwr o enedigaeth, daeth e i Gymru yn 1876 i weithio fel conswl yng Nghaerdydd. Mae’n debyg iddo dreulio llai o amser wrth ei waith swyddogol na’r aelod cyffredin o faes-e.com, achos ffeindiodd amser i grwydro’i wlad fabwysiodol a sgrifennu sawl llyfr amdani, gan gynnwys Rambles in Old South Wales, The True Story of Owen Glendower a Christmas in Wales, sy’n werth ei ddarllen:

One of the most indecent books I ever came across is an old work in the British Museum describing a tour in Wales, by an author who evidently had never set foot in the country, but who lampooned the people with a coarse and brutal humor, from his garret in Fleet Street, which was no doubt considered “the thing” in his day. In English comic songs we still hear that “Taffy was a Welshman, Taffy was a thief.” At English horse-races, a Welsher is a man who disgraces honor, and is stoned off the course. These things and their like are survivals of the old injustice and ignorance. No longer ago than the present year the assertion was made by a writer in the London Daily Telegraph that Wales and Scotland are the most immoral of her majesty’s dominions.

Dw i’n siwr y byddai Sikes yn falch iawn i weld pa mor bell mae sefyllfa wedi gwella. Anodd credu y byddai’r Telegraph yn agraffu erthygl fel ’na y dyddiau ’ma, 100 mlynedd ar ôl i’w ddyddiau ef.

Posted in Heb gategori | Tagged