I fod yn deg i Alun Pugh, mae e’n gwybod yn union beth mae’n wneud, sef yr un peth mae Plaid Lafur wedi bod yn wneud ers dyddiau George Thomas: cadw’r di-Gymraeg yn ofnus o’r Nashis gan ddweud eu bod nhw mewn perygl o fod yn ddinasyddion ail-radd yn eu gwlad eu hunain. Sôn am y bobl sy’n galw am, a gweithio tuag at sichrau, hawliau sifil i’r 20% o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu bod nhw yn fygythiad i hawliau sifil y 80% o bobl Cymru sy ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn dacteg oedd Southern Democrats yr UDA yn ei ddefnyddio yn y 60au i gadw cefnogaeth y croenwynion tlawd; demoneiddio protestwyr hawliau sifil.
Ac hyn yn yr un wythnos a gollon ni Rosa Parks.
Gorddweud?
Dych chi wedi gweld y ffilmiau o heddweision llusgo aelodau Cymdeithas yr Iaith gan eu gwallt yn ystod protestiadau’r 70au? O’r “Cymry da” gweiddi a phoeri arnyn nhw ar loriau y Swyddfa Bost yn y 60au? Heb y protestiadau heddychlon sy wedi cadw pwysau parhaol ar yr “awdurdodau”, fyddai dim hawliau ieithyddol ’da’r Cymry Cymraeg o gwbl. Mae Alun Pugh yn siarad fel bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu bod yn well na’r rhai sy ddim yn medru’r iaith. Ein lle ni yw gofyn am gonsesiynau gan gwmnïau mawrion fel Tesco a Microsoft, ac i beidio bod yn rhy anamyneddgar os dydyn nhw ddim yn cweit yn barod i’n bodloni. Gwell peidio cynhyrfu’r dŵr gormod gan fynnu eu bod nhw’n trin y Gymraeg yn gyfartel â’r Saesneg, neu fyddan nhw… beth? Tynnu eu busnes ma’s o Gymru? Gwynt teg iddynt.
Tasai llywodraeth Cymru â digon o geilliau i basio Deddf Iaith sy’n werth yr enw, byddai’n bosibl dweud wrth Microsoft “either you produce Welsh language versions of all your software, or we install Linux and Open Office on every publically owned computer in Wales”. Ond yn hytrach na hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd at Bill Gates a’u capiau yn eu dwylo, gofyn yn boleit, cynnig talu am y gwaith cyfieithu gydag arian y trethdalwr, ac wedyn dweud diolch yn fawr iawn i Microsoft ym mhob datganiad i’r wasg am y tair blynedd nesaf, fel eu bod nhw wedi wneud ffafr i ni, gan adael i ni wario ein arian ni ar feddalwedd dyn ni wedi talu i’w ddatblygu.
We are idiots babe,
It’s a wonder we can even feed ourselves.
Bob Dylan said that.
Cei di fod yn fy mreuddwyd i
Os ga’ innau fod yn dy freuddwyd di.
Dylan ddwedodd hynny, hefyd.