Aha! Ro’n i’n gobeithio y byddai’r stori hon yn dod i’r amlwg cyn bo hir. Mae’n debyg bod “P4P”, neu’r tîm sydd tu ôl i Nat Watch, a mwy i’w golli na’r bobl maen nhw wedi bygythio yr wythnos ’ma.
Tag Archives: Gwleidyddiaeth
Arbrawf plentynaidd
Sori am hyn, ond ers i mi bostio fy rant hirwyntog ddoe, am ymdrechion “price4president” i dduo fy enw da, mae e/hi wedi troi off y sustem trackback ar y cofnod amdana i, fel wnes i ragweld yn y rant.
(This blog post contains a trackback ping. Trackbacks, I notice, are open on Nat Watch, even if comments aren’t. So a link to this rebuttal should appear on Nat Watch itself, unless p4p choose to delete it. I bet trackbacks get disabled by tomorrow.)
Mae e wedi troi off trackbacks ar y cofnod am Dafydd Wigley, felly dw i’n cymryd bod rhywun wedi blogio am hynny, a dweud rhywbeth sy ddim yn ffito yn daclus ym myd un deimensiwn p4p.
Mae hyn yn ddoniol iawn. Hyd yn hyn, dyw e ddim wedi troi off y trackbacks ar y cofnod hwn, felly dyma fi anfon ping at y cofnod hwnna. Bydd e naill ai yn ymddangos ar y blog, neu bydd yn cael ei ddileu gan p4p, ac wedyn bydd y sustem trackback yn cael ei chau ar y cofnod hwnna hefyd.
Dw i’n gwybod bod hyn yn blentynaidd, ond mae’n eitha diddorol hefyd i weld i ba raddau mae p4p yn fodlon mynd i gau i lawr trafodaeth, er gwaethaf pa mor chwerthinllyd mae hyn yn wneud iddo/iddi edrych. Does gen i ddim ots am edrych yn chwerthinllyd, achos dydw i ddim yn aelod etholedig y Cynulliad Cenedlaethol – nid bod p4p yn un o’r rhain, chwaith, wrth gwrs – dim ond blogiwr ar ei wyliau ydw i.
Sgrînlun y cofnod fel y mae nawr, 11.15 y bore.
[Gol.] Sgrînlun am 2.15 y prynhawn. Spot the difference.
Oes esboniad arall?
Baneri wedi’u hacio
Baneri wedi’u hacio – gorfodi baneri cenedlaethol dweud stori am eu gwledydd.

Darluniau o Darfur
Cyflwyniad gan y papur Awstraliaidd The Age i’r sefyllfa hunllefus yn Swdan. Mae’r safle yn cynnwys lluniau gan blant ifainc sy wedi gweld mwy o ddiodde nag ydw i’n gallu dychmygu.
Natwatch wedi’i ddallu?
Och a gwae! Mae Natwatch wedi marw. (Ond mae archif Google dal ar gael, os dych chi ddim wedi bod yn dilyn hyn.)
Ddydd Sadwrn cyntaf y Steddfod, a ninnau newydd gyrraedd, ces i nodyn fodyn gan gyfail o maes-e i ddweud bod y person tu ôl i’r wefan sarhaus o wrth-Gymraeg wedi troi ata i fel targed nesa ei gasineb, gan gymryd rhywbeth dwedais i ar y maes mas o’i gydestun, ei gyfieithu i rywbeth fel Saesneg, ac yn anwybyddu’r rhan o’r neges lle esboniais i taw jôc oedd y cyfan. Diawl, am frawddeg rhedeg ymlaen. Dyna chi’r Blogathon, dim amser am ail-sgwennu.
Dyma fwrdwn neges y Nat-wyliwr:
Does anyone out there know Mr Dafis? What branch of the Nats is he a member of? Is he a Nat spokesperson on energy we wonder?
Mae “Price4President” yn gwybod yn iawn pwy ydw i, oherwydd i mi sgwennu ato ddwywaith ers dechrau’r busnes gyda Aled Cottle. Dw i ddim yn cuddio tu ôl i ffugenw plentynaidd – diawl erioed, dw i wedi newid fy enw gan weithred cyfreithiol er mwyn bod yn haws i ffeindio ar y we. Dw i’n ffaelu credu bod P4P mor di-glem ei fod e’n ffaelu ffeindio dim byd amdana i.
Yn bell o fod yn “Nats spokesman” ar unrhyw bwnc, dw i ddim hyd yn oed aelod o Blaid Cymru, ond ar ôl y busnes yma dw i’n sicr ystyried ail-ymuno â’r Blaid, ac i helpu nhw curo Plaid Lafur yng Nghymru.
Achos mae gen i reswm i amau taw aelod etholedig Plaid Lafur yw “Price4President”, ac os ydy’r blaid lywodraethol yng Nghaerdydd wedi syrthio mor isel eu bod nhw’n barod i ddefnyddio tactegau fel hyn, wedyn mae dyletswydd â phob un ohonon ni i gael gwared ohonyn nhw.
Dw i hefyd wedi dod yn ymwybodol yn diweddar pa mor wan yw fy ngafael ar faterion y dydd, hynny yw gwleidyddiaeth. Mae safon y trafodaeth ar faterion felly ar y maes wedi achosi cymaint o benbleth i mi yn diweddar i beri i mi gau’r adran wleidyddiaeth, sy ddim wedi bod yn benderfyniad poblogaidd iawn. Ond nawr bod ’na Fforwm newydd sy’n mynd i arbenigo ym mhethau felly, falle bod yr amser wedi cyrraedd i mi gymryd diddorol mwy manwl.
Felly, diolch yn fawr “Price4President”, a beth bynnag sy wedi dy orfodi cau dy wefan i lawr, gobeithio dwyt ti ddim mewn perygl o golli dy swydd hefyd. Ti yw Swyddog Recriwtio gorau Plaid Cymru ers George Thomas. Mae cenedlaetholdeb Cymru yn dy angen di!
Deffrwch, Rhodri!

Mae Rhodri Morgan, fel y Capten Jack Aubrey, yn gallu cysgu unrhywle, hyd yn oed yng nghanol protest Cymdeithas yr Iaith.
Gwylio’r Gwylwyr
Fel sôniais o’r blaen, does dim modd gadael sylwadau ar y blog wrth-genedlaetholdeb Cymru/Yr Alban Natwatch, felly mae rhywun wedi mynd ati i ddechrau NatWatchWatch.
Difyr iawn.
Ceidwadwyr yn y blaen
Wedi sylwi yn diweddar bod straeon o wefan y Blaid Geidwadol, fel yr un ’ma am araith Lisa Francis i’r Cynulliad, wedi dechrau ymddangos yn fy nhanysgrifiadau o Google News. Dim un o’r pleidiau eraill.
Arbed Parc Bute
Save Bute Park. Enghraifft da i ddefnyddio blog i gefnogi ymgyrch gwleidyddol.
Ffeindiwyd trwy PledgeBank, sy’n syniad wych yn ei hunan.
[A ffeindiwyd hwnna trwy Rwdls Nwdls]
Araith Gyntaf Mark Williams
What is different is that many of the youngsters who have been forced to move away are Welsh speaking, and 59 per cent. of the people in my constituency speak Welsh as their first language. Therefore, such moves inevitably have a negative effect on language and culture. That is a widespread feeling in my constituency and I share it.
Cofia ei bod hi’n bosibl cael nodyn trwy ebost bob tro mae dy Aelod Seneddol yn dweud rhywbeth yn San Steffan trwy They Work For You.
Ble mae Blair?
Anodd yw ffeindio rhywbeth i wenu amdano ar fore pan collwyd Ceredigion gan Blaid Cymru, ond oedd y graffig isod ar dudalen flaen y BBC yn dod yn agos.

Cardiff Observer
(This post has an English version. Yes, it’s another of those “politicians and the IntarWeb” stories.)
Stori fach neis arall ar y maes sy’n dangos nad oes monopoli ar fod yn ddi-glem ’da Plaid Lafur.
Yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholaeth [Gogledd Caerdydd] yma yw Jonathan Morgan, aelod o’r Cynulliad ar hyn o bryd. Mae e wedi danfon allan papur newydd ffug o’r enw’ y ‘Cardiff Observer’ yn llawn storiau a lluniau o’r Bnr Morgan. Mae e wedi sgrifennu yn eitha da ac am wn i mae’n ddigon cyfreithiol creu taflen ymgyrchu yn y modd yma.
Un problem.. mae cyfeiriad gwefan y ‘papur newydd’ ar y dudalen flaen ond wnaeth y twpsyn ddim cofrestru’r parth. Mae rhywun wedi bod yn gloi iawn a chofrestru’r parth a wedi creu gwefan iddo – Cardiff Observer.
Adolygiadau Prysor Pamffledi’r Pleidiau
Yn ôl y Sun, hwn yw’r etholiad cyffredinol mwya diflas yn hanes y byd erioed. Dydy’r Sun ddim yn darllen maes-e, mae’n amlwg. Dros y wythnos neu ddwy diwetha mae Dewi Prysor wedi bod yn postio adolygiadau o hysbysebion-trwy’r-drws gan y Pleidiau Mawrion, ac UKIP hefyd. Dyma nhw, ddim mewn unrhyw drefn arbennig:
Plaid Cymru
Democratiaid Rhyddfrydol
Llafur Newydd
Tori
UKIP
…ac, yn nawr…
Plaid Cymru i ennill Battersea
An intriguing political experiment conducted by BBC’s Newsnight programme has concluded that Plaid Cymru could be the most popular party in at least one inner London district.
Da iawn Mabs.
Dw i’n siwr nad oes unrhyw sail i’r si ar led ar y maes bod Newsnight yn cysidro beidio darlledu’r eitem achos na chafodd y canlyniad disgwyledig.
Wyt ti’n meddwl o gwbl?
Tro cynta i mi weld un o bosteri hiliol y Ceidwadwyr o’n i’n meddwl oedd yn jôc. Wedyn, ar ôl syweddoli pa mor isel mae’r Toris wedi syrthio, ro’n i’n meddwl pa mor hawdd byddai fe i’w newid i ddweud rhywbeth arall.
Ond nawr, cei di wneud dy boster hiliol dy hunan gyda’r teclyn bach ’ma.
Croeso i unrhywun sy moyn creu un i’w ebostio fe ata i, a wna i bostio’r goreuon yma. Continue reading
The Welsh Language… or something like that!
The one’s worth spreading around the wider web. I’ve translated the gist, below the fold…
Stori wych am agweddau “Welsh Labour” ar maes-e. Yn fras, mae Hedd Gwynfor, is-gadeirydd cyfathrebu a lobio Cymdeithas yr Iaith, wedi anfon ebost trwy wefan ddwyieithog Welsh Labour, a oedd yn gofyn:
Beth yw polisi y Blaid Lafur ar yr iaith Gymraeg yn yr etholiadau Seneddol yma? Ydy’r Blaid Lafur yn cefnogi’r alwad dros Ddeddf Iaith Newydd?
Cwestiwn digon syml. Mae’r boi yn wneud ei job.
Mae’r ebost yn cyrraedd mewnflwch Karen Bradbury, Gweinyddydd, a chan bod hithau ddim yn medru’r Gymraeg, mae hi’n anfon fe ymlaen at rywun arall i’w hateb – o leia dyna oedd ei bwriad. Mae’n mor hawdd i wasgu’r botwm rong ar eich rhaglen ebost. Dyma’r neges anfonodd hi yn ôl at Hedd Gwynfor, sef, os dych chi’n cofio, is-gadeirydd cyfathrebu a lobio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Hi Dave,
I have it on good authority (as I cant understand a word of it myself!!!) that this e-mail is asking what we think about using the Welsh Language in Wales or something like that.
Thanks.
Karen Bradbury – Administrator
Welsh Labour
Clasur.
Dim llywodraeth yng Nghanada
Cyfweliad â Leonard Cohen ar CBC (S4C Canada) o 1966. Ydy hi’n bosibl dychmygu gweld cyfweliad fel hyn ar ein teledu cyhoeddus ni heddi?
Araith Brian Sedgemore
Yn 2003, wnes i ddysgu cwrs Wlpan yn Llambed dros y haf, gyda grŵp arbennig o ddechreuwyr. Un ohonyn nhw oedd Brian Sedgemore, Aelod Seneddol Plaid Lafur i Hackney South & Shoreditch, a wnaeth, ddoe yn San Steffan, un o’r areithiau gorau dw i erioed wedi’i darllen, a’i chlywed. Fel mae’n dweud ar ddechrau’r araith, mae’n debyg dyma’r tro ola’ iddo fe siarad yn San Steffan. Gwaetha modd.
It is a foul calumny that we do today. Not since the Act of Settlement 1701 has Parliament usurped the powers of the judiciary and allowed the Executive to lock up people without trial in times of peace. May the Government be damned for it.
Roedd e’n dysgu Cymraeg, gyda llaw, achos ei fod yn berchen ar tŷ haf yn sir Benfro ac mae e a’i wraig yn bwriadu symud i Gwm Gwaun i fyw unwaith mae e wedi ymddeol o wleidyddiaeth (ym mis Mai, mae’n debyg). Dw i ddim yn gallu meddwl o fewnfudwr byddwn i’n fwy hapus i’w groesawu, a dw i’n falch iawn y cefais i’r braint o ddod i’w nabod tipyn bach yn ystod y pythefnos oedd e yn fy nosbarth. Dw i’n fawr gobeithio y bydda i’n cael cwrdd â fe ‘to, prynu’r peint sy arna i iddo fe, a falle clywed mwy o’i storïau am Llew Smith.
Trwy BoingBoing.
Gol. 27/02/05
Dyma MP3 o’r araith. 8MB, mae’n flin ’da fi. Dylwn i fod wedi lleihau’r bitrate, ond dw i’n rhy flinedig nawr.
Twll dy dîn, Mrs Cwîn
Dyma ein democratiaeth? Cafodd Leanne Wood ei thaflu mas o siambr Ein Cynulliad Ni ddoe am alw Brenhines Lloegr yn “Mrs Windsor”. Yn ôl Leighton Andrews, a, rhag ei gywilydd, Mr Dafydd Elis-Thomas, oedd hyn yn sarhaus, felly am weddill y diwrnod doedd Leanne Wood ddim yn cael cynrychioli’r bobl wnaeth pleidleisio drosti.
Gwarthus.
This Government, through its unethical foreign policy, is directly responsible for making the world much more prone to terrorism, yet the Secretary of State claims that Wales is safer under Labour. That is blatantly untrue; we are more at risk now than we have ever been. The measures outlined in Mrs Windsorís speech will not address that risk; they will merely up the tempo and make people even more afraid. The speech is right-wing; it is shameful politicking, promoting the politics of fear and from a Labour Governmentóyou should all be ashamed.
Wedyn:
Leighton Andrews: I regret having to raise the issue but, during the course of the previous debate, Leanne Wood referred to the Queen as ëMrs Windsorí. Will you take advice as to whether this is in order? I am sure that in a week when the Queen has been in Cardiff to open the Wales Millennium Centre, my constituents, and others, will consider the remark to be childish and offensive.
The Presiding Officer: I was pleased to welcome Her Majesty the Queen to the Wales Millennium Centre, as I have been pleased to welcome her to the National Assembly. I did not hear the remark, but I have consulted the record and taken further advice, and I would be grateful if Leanne Wood could withdraw the remark, on grounds of discourtesy.
Leanne Wood: I dispute the fact that it is discourteous, Presiding Officer.
The Presiding Officer: You cannot dispute it, because it is my ruling.
Leanne Wood: I am not minded to withdraw the remark, Presiding Officer.
The Presiding Officer: In which case, I must ask you to withdraw from proceedings for the remainder of the day, in accordance with Standing Order No. 7.8.
Ymneilltuodd Leanne Wood oír trafodion.
Leanne Wood withdrew from proceedings.
Ai “Mrs Windsor” oedd yr unig peth dwedodd Leanne Wood a wnaeth Leighton Andrews cymryd sylw ohono fe? Ydy e’n wir yn meddwl bod y bobl mae e i fod i’w cynrychioli yn poeni mwy am alw rhyw hen fenyw gan ei henw go iawn nag ydyn nhw am y rhyfel anghyfreithlon oedd Leanne Woods yn sôn amdano?
Ble oedd aelodau eraill Plaid Cymru?
Diolch i’r Bachgen o Bontllanfraith.]
Oes ‘na ddau UDA?
Mae’r traethawd bach yma ar Boing Boing yn jôc ond mae cnewyllyn o’r gwirionedd ynddo, sef bod dwy wlad bellach o fewn ffiniau’r UDA, yr un sy’n credu celwyddau Bush a’r rhai sy’n embaras i fyw yn yr un wlad â’r ynfytyn – heia Pat!
Continue reading
