[Can't be bothered translating this. If you can afford a lawyer, you can afford a translator.]
Mwy am natwatch, mae arna i ofn, ond gan fod aelodau y Blaid Lafur wedi ymyrryd eto mewn “sgandal” “datguddiwyd” (hynny yw, dyfeisiwyd) gan ein ffrind price4president, dw i’n cymryd y gall pawb dynnu eu menyg nawr. Mae pobl yn colli eu gwaith oherwydd y busnes ’ma.
Sori am y cofnod diwetha, gyda llaw: diflas iawn, dw i’n gwybod, ond ces i frênwêf neithiwr. Ro’n i’n trïal gweithio mas pam mae mor bwysig i P4P dduo fy enw – does bosib bod rhywun yn flin am y cofnodion pitw sy wedi ymddangos yma o bryd i’w gilydd sy’n pwyntio ma’s pethau dwl fel hyn? Sgersli bilîf!
Ond hyd yn hyn, yr unig bobl dw i wedi dod ar eu traws sy’n meddwl bod “price4president” yn unrhywbeth ond trol a chelwyddgi di-gywilydd yw dau aelod etholedig y Blaid Lafur (Cael Sargeant a Leighton Andrews), ac un gweithiwr y Blaid, David Taylor. Mae’r ddolen ola yn mynd at gopi Web Archive o flog David Taylor, gan fod y fersiwn wreiddiol wedi’i dynnu o’r we. Mae’n drueni bod rhywun mor dalentog – ac mor ifanc! – wedi rhoi ffidl ei flog yn y to. Diddorol oedd darllen ei sylwadau ar Steddfod Casnewydd, er enghraifft, lle darganfuwyd bod “many [Welsh Nationalists] are unashamedly racist”. A’r perl bach ’ma, ar y Stupid Liberals:
I used to be slightly sympathetic towards them. I used to think they meant well and that the Tories where the real enemy.
But their recent campaign tactics, materminded by “wizz kid” Lord Rennard means I now hate them just as much as the Tories, which as almost as much as the Nationalists.
Ac wedyn, yn y sylwadau:
Hysterical? – Come off it!
I consider it nothing less than my duty to point out the failings of other political parties.
Hei, mae’n jobsyn frwnt, ond mae rhaid i rywun wneud.
Ymwadiad: dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod unrhyw cysylltiad rhwng “price4president” a “David Taylor”. Dim ond sylwi ydw i taw bob tro mae rhywun yn dweud pethau cas am Natwatch ar flogiau Saesneg (fel hyn neu hyn er enghraifft) mae David Taylor yn popio i fyny i atgoffa pawb pa mor glyfar yw P4P. Mae’r holl beth yn gyd-ddigwyddiad llwyr, siwr o fod.
Technoriti: Natwatch, Labour Party