The Folksinger yw enw ffilm newydd gan Slowboat Films. Dw i ddim yn gwybod a ydy’r ffilm wedi’i rhyddhau eto, ond mae’n edrych fel lot o hwyl. Os wyt ti’n lico banjos, hynny yw.
(SAIN DDIM YN SAFF I’R GWEITHLE ~ AUDIO NSFW)
The Folksinger yw enw ffilm newydd gan Slowboat Films. Dw i ddim yn gwybod a ydy’r ffilm wedi’i rhyddhau eto, ond mae’n edrych fel lot o hwyl. Os wyt ti’n lico banjos, hynny yw.
(SAIN DDIM YN SAFF I’R GWEITHLE ~ AUDIO NSFW)
Newydd ddod ar draws Ougenweide gan Ousflug, band prog-gwerinaidd o’r Almaen. Recordiwyd yr albym yn 1979, ond allai fe ddod o unrhyw flwyddyn nôl i ’68. Mae’r offer i gyd yn draddodiadol, gyda’r prif tonau yn cael eu cario gan naill ai’r ffliwt/pibgorn neu (yn anarferol, braidd) y glockenspiel a’r seiloffon. Mae’r geiriau i gyd yn Almaeneg.
Os fuoch chi yn y Dyn Gwyrdd y llynedd ac yn ddigon ffodus i weld Circulus a’u mwynhau, mi fyddi di wrth dy fodd gyda hwn.
Dyma un trac – mae’r holl albym (wedi’i rwygo o’r feinyl) ar gael ar flog Kraut-team:
Ousflog – Basse Danse La Gatta
O.N. Mi o’n nhw’n band pert iawn, hefyd.
Un o’r pethau neisaf am y Dyn Gwyrdd oedd y pethau ffeindiaist ti heb edrych amdanyn nhw. Un adeg, cipiais i mewn y babell y sinema, i osgoi cawod sydyn o law. Dyna Neil Young ar y sgrîn, felly dyma fi’n setlo i lawr i wrando ar hwnna; wedyn, clip bach o Django Reinhart. Iawn, dw i’n aros am sbel ‘te.
Dal ddim yn gwybod beth ydw i’n gwylio, ond wrth iddo fe fynd ymlaen dw i’n gweld taw casgliad o glips cerddorol “gwerinol” ar hap yw e (wedi’u casglu gan Andy Votel, ond do’n i ddim yn gwybod hynny ar y pryd). Ac mae’r un nesa yn rhywbeth hollol newydd i fi, sef clip o’r Old Grey Whistle Test, adeg Whisperin’ Bob. Gitarydd ifanc, a rhai o’r fingerpicking gorau dw i wedi gweld yn fy myw: Dave Evans.
O beth dw i’n gallu ffeindio ar y we, dim ond dau albym recordiwyd gan Evans, a dim ond un ohonyn nhw ar gael ar CD. ‘Sai fe wedi cael digon o sens i farw yn ifanc fel Nicky Drake byddai’n enw cyfarwydd i bawb erbyn hyn, ond mae Dave wedi dewis byw, mewn bragdy/crochendy ym Mrwsel, lle mae hefyd yn neud gitarau bespoke. Ddim mor ramantus â lladd eich hunain yn eich hugeiniau, ond llawer mwy o hwyl, siwr o fod.
Hoffwn i roi MP3 yma, ond byddai’n well sgwennu at y dyn ei hun yn gyntaf, dw i’n credu.
[Gol.] Syth ar ôl postio’r uchod, ffeindiais i disgograffi ar wefan Dave Evans. Mae mwy o stwff mas ’na rhywle.
[Gol. 23/10/08 ychwanegwyd dolen i Bragdy de la Touffe a thwtio tagiau.