Alejandro Jones

Diolch i Carl am bwyntio ma’s bod un o sêr Separado!, y canwr Alejandro Jones, wedi ymddangos ar Morfablog pum mlynedd yn ôl, yn sgil y stori amdano gael ei rwystro rhag swyddogion mewnfudo wrth iddo ymweld â Chymru:

“I told them that I’d come to see the land of my ancestors, but they didn’t know anything about Wales’ links with Argentina. During the interrogation they asked me the same questions over and over again to see if I was lying.”

Diddorol bod y cysylltiad wedi dod i’r amlwg. Gwelais i’r ffilm yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’n hollol wych. Ar ôl y ffilm daeth Gruff Rhys a Dyl Goch i’r llwyfan i ateb cwestiynau’r cynulleidfa. Y cwestiwn cyntaf oedd gan ferch o Swydd Efrog:

Gruff, loved the film, and sorry if this is a stupid question from someone who knows very little about Welsh history, but isn’t the whole thing a hoax?

O ymateb y bobl eistedd o’m cwmpas i, nid hi oedd yr unig un yn y babell oedd wedi bod yn meddwl hyn.

Ateb Gruff?

Yes, we made it all up. We filmed the whole thing in Snowdonia. The only thing that really happened the way we show it was the teleportation scenes.

Seren.

Dw i’n mynd i weld y ffilm eto, mewn sinema gyda seddau go iawn, wythnos nesaf, ac edrych ymlaen yn arw at gael y DVD. Tybed a fydd cyfle ar hwnna i glywed hanes Alejandro a swyddogion mewnfudo Lloegr?

Dyma’r treilar eto, rhag ofn i chi beido gweld eto.

Separado!


(Gwyliwch y fersiwn fwy, mae’n lot well.)

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld Separado!, ffilm gan Dylan Goch am ymdrechion Gruff Rhys i ganfod y cerddor o’r Wladfa, René Griffiths. Bydd ymddangosiad yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, y lle delfrydol i weld ffilm ffordd seicadelig Gymreig, tybiwn i.

Mae rhifyn newydd Sight & Sound yn cynnwys adolygiad da o’r ffilm, sy’n ddiddorol o agored ynglyn ag anwybodaeth cyffredinol y Sais am hanes Cymru:

..the most striking (especially for anyone outside of Wales unaware of this particular historical byroad) is the sheer strangeness of Argentines named Griffiths or Jones dipping from Spanish into Welsh [..] Not knowing any better, one might be tempted to take this for an elaborately staged leg-pull..

Drueni am capsiwn y llun aeth gyda’r erthygl: Powys ranger: Gruff Rhys. Sdim ots bod Gruff ddim yn dod o Bowys, mae e’n Gymro, ac yn gwisgo helmed. Dim byd mawr, wrth gwrs, ond digon i gadw fi ar-dihun y bore ’ma am bump o’r gloch, ar ôl dihuno i fynd i’r tŷ bach.. Rant i flog arall, falle.

Trip You Up

[Newydd ffeindio hyn yn fy "nraffts".]

Newydd ddeall, ar ôl 23 mlynedd, yr odl ym mhennill cyntaf y clasur yma:

Sometimes, I walk sideways
To avoid you
When I’ve annoyed you.

Athrylith.

Dw i wedi bod yn mymblan y llinell yna ers 1984.

Mae rhywun wedi gofyn ar y maes yn diweddar pwy yw’r band mwya dilynwadol yn y Sîn Roc Gymraeg. Mae’n bosibl dadlau taw JAMC yw e. Meddylia amdano: dim Mary Chain, dim See Emily Play (cyn dy amser di); dim Emily, dim Ffa Coffi Pawb; dim Ffa Coffi, dim SFA.

Etc.