Diagonal

Rhif dau mewn cyfres does neb yn credu bydd yn parhau heibio i heddi, “bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni”.

Diagonal oedd y band cyntaf i ni weld ddydd Gwener y Dyn Gwyrdd, ac oedd yn syndod llwyr i fi eu gweld yn y rhaglen.

Ta beth, dechrau arbennig o dda. Ro’n i’n teimlo drostyn nhw gorfod gofyn am help ar ôl i’r basydd dorri tant yng nghanol y set, ac heb ddod ag un sbâr; lwcus bod Sibrydion yn fodlon helpu ma’s a benthyg bas iddo fe.

Mae clip bach o’u perfformiad lan ar y Tiwbs, ond dyw e ddim yn arbennig o dda o ran safon.

Mae’r albym cyntaf ar gael i wrando arno am ddim ar Last.fm, ond mae’n werth cael gafael yn y CD (neu’r feinyl, i’r fetishyddion) i chi gael progo ma’s mewn steil.

John Vanderslice a’r chwyldro dosbarthu cerddoriaeth

Dw i’n prynu mwy o gerddoriaeth nag erioed yn fy myw, ond dw i ddim yn cofio’r tro diwetha i mi brynu CD gan artist do’n i ddim wedi clywed ar MP3 o’n i wedi lawrlwytho yn “anghyfreithlon”. Heb rhwydweithiau fel Soulseek, fyddwn i ddim wedi clywed stwff Joanna Newsom, er enghraifft, a dw i newydd ordro bob un o’i CDs hi, ac yn edrych ymlaen yn arw at ei gweld yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn yr haf.

Dyma gyfweliad John Vanderslice ar sioe Merlin, podlediad fideo newydd gan Merlin Mann o 43 Folders.

Dw i ddim yn gyfarwydd â gwaith Vanderslice, ond mae ei agwedd tuag at hybu ei gerddoriaeth, a’r ffordd o’i dosbarthu, yn ffres iawn, i ddweud y lleia. Dw i’n dyfynnu o’r cof:

[If you're recording and releasing music] there’s gonna be a very high percentage of your records downloaded – for free. That’s just it.

Yn lle cwyno am y peth a mynd i banig, mae John yn rhoi ei gerddoriaeth i gyd ar we, boed ar ei wefan ei hun neu gan ei anfon at blogiau MP3 mae e’n darllen yn gyson, fel Largehearted Boy.

Mae’r cyfweliad yn un ysbrydol iawn, ac mae wedi fy narbwyllo fi gwrando eto ar stwff JV (gan ei lawrlwytho, natch).

Y Dyn Gwyrdd

Fel dwedais i, bydda i yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a dw i wedi bod yn pori trwy amserlen yr ŵyl i weld pwy sy’n chwarae.

Mae pawb yn chwarae.

Wel, na, ond mae mwy o fandiau na bydd yn bosibl i mi weld. Jyst o Gymru mae Gruff Rhys, The Gentle Good, Euros Childs, Richard James a’r hen Feic. Pwy sy angen Steddfod?

Ond unwaith ti’n dechrau edrych ar y rhestr o artistiad o weddill y byd, mae’n dechrau bod yn sili. Sut ydw i fod i wylio Calexico a Sunburned Hand of the Man ar yr un pryd?