Fi yw Rhif #1

Look, dw i’n gwybod bod hi’n blentynaidd, ond dw i erioed wedi bod Rhif 1 mewn unrhyw rhestr o’r blaen. A chyn i ti sgwennu mewn i ddweud bod ’na dau wall iaith yn y disgrifiad (o leia), dw i’n gwybod, océ? Ond sdim ots ’da fi, achos Rhif 1 ydw i.

Tipyn bach fel côr Rhuthun.

Google yn y Gymraeg

Google yn y Gymraeg – ddoe, ail-osodais i iaith default Internet Explorer i cy (sef, Cymraeg). Heddiw, oedd rhaid i mi ymweld â Google i chwilio am rywbeth, a mae popeth yn y Gymraeg. Dyma’r tro cynta dwi wedi gweld y tric bach ’ma, ac am wn i does dim gwefan poblogaidd arall sy’n ei wneud.

Os wyt am newid dy osodiadau, rho glec ar Tools, Interet Options, ac wedyn Languages. Wedyn, clec ar y botwm Add ac yn y bocs User Defined teipia cy a chelc ar OK. Yn ola, clec ar y llinell sy’n dweud User defined [cy] ac ar y botwm Move up. A dyna fe, Cymraeg yw dy iaith o ddewis. Wrth gwrs, dim ond Google fydd yn gwybod.